Ar ôl wynebu sialensiau a newid byd, mae Sarah Lewis o Gasnewydd wedi cymryd awenau ei dyfodol trwy lansio ei brand gofal croen ei hun, SSKIN by Sarah, busnes a aned o ddycnwch, angerdd a chymorth gan Busnes Cymru.
Fel cyn-gynrychiolydd cwmni fferyllol, newidiodd bywyd Sarah yn ddramatig ar ôl iddi gael diagnosis o ganser y fron ddechrau’r 2010 au a cholli ei swydd wedyn ddechrau 2024. Yn hytrach na gadael i amgylchiadau ei diffinio, defnyddiodd Sarah y foment i ail-werthuso ei gyrfa a chanolbwyntio ar rywbeth y gallai ei greu ei hunan.
Yn benderfynol o gymryd rheolaeth dros ei hamser a’i dyfodol ei hun yn nôl, trodd Sarah at Busnes Cymru am arweiniad. Cafodd ei chyflwyno i’r Ymgynghorydd Busnes, Graham Harvey, a roddodd gymorth arbenigol iddi bontio’n hyderus o fod yn weithiwr cyflogedig i fod yn entrepreneur.
Gyda’i gymorth, datblygodd Sarah gynllun ariannol a marchnata manwl, rhagolygon llif arian, a chafodd arweiniad personol fesul un trwy gydol y camau cynnar wrth sefydlu’r busnes.
Dylanwadodd ymrwymiad Busnes Cymru i Dwf Gwyrdd a Chydraddoldeb ar ddull Sarah o weithredu hefyd, gan beri iddi osod cynaliadwyedd wrth galon ei gwaith. Sicrhaodd fod yr offer oedd yn cael ei ddefnyddio yn ei thriniaethau gofal croen datblygedig, sy’n cynnwys micronodwyddo, pilio cemegol, a dermablaenio, yn dod o ffynonellau moesegol gyda’r amgylchedd mewn golwg.
Mae’r syniad o redeg fy musnes fy hun wastad wedi bod o ddiddordeb i mi,” meddai Sarah. “Mae fy merch a fy ffrind gorau ill dwy yn rhedeg eu busnesau eu hunain, doeddwn i ddim yn caru fy ngwaith mwyach, a phan gafodd fy swydd ei dileu, cefais fy ysbrydoli i ddechrau eto a sefydlu fy musnes fy hun.
“Roeddwn i’n gwybod ei bod hi’n gyfle unigryw i fachu ar fwlch yn y farchnad, ond ar ôl bod mewn swydd gyflogedig trwy gydol fy ngyrfa, doeddwn i ddim yn gwybod ble i ddechrau wrth sefydlu fy musnes fy hun, a dyna wnaeth i mi gysylltu â Busnes Cymru.”
“Roedd Graham yn wych o’r alwad gyntaf un. Roedd e mor gyfeillgar a gwybodus, a thawelodd fy meddwl yn llwyr. Cynorthwyodd ei arbenigedd ariannol fi i baratoi fy rhagolygon llif arian, ac i sylweddoli bod angen i mi wneud cwrs cyllid i gryfhau fy meddwl busnes. Fyddwn i ddim yn y sefyllfa rydw i ynddi heddiw heb ei gyngor ef.
Mae SSKIN by Sarah yn cynnig triniaethau pwrpasol sy’n cynnwys triniaeth wyneb arbennig a chyngor gofal croen wedi ei bersonoleiddio am ddim hefyd. Ers lansio’r busnes, mae’r archebion wedi tyfu’n gyson, ac erbyn hyn, mae Sarah yn agos at droi’r busnes yn alwedigaeth lawn-amser.
Gan edrych tua’r dyfodol, wrth iddi barhau â’i hymgyrch i wella siwrneiau gofal croen menywod, mae Sarah yn archwilio’r posibilrwydd o gael hyfforddiant i gynnig therapïau croen heb eu rheoleiddio eraill fel cryotherapi a thriniaethau hybu’r croen fel Profhilo, sydd wedi eu dylunio i gynorthwyo hydradiad, ystwythder ac iechyd cyffredinol y croen.
Dywedodd Ymgynghorydd Busnes Cymru, Graham Harvey:
Daeth Sarah at Busnes Cymru i ofyn am gymorth er mwyn dechrau busnes, yn arbennig o ran cynllunio busnes a llif arian. Ymroddodd yn llwyr i’r broses, gan fynychu ein gweminar ‘Dechrau eich Busnes eich Hun’, a chyflawni sesiynau ar gyllid a marchnata wedyn. Mae ei phositifrwydd, ei hegni a’i hangerdd dros helpu pobl eraill wedi bod yn ysbrydoledig. Mae hi wedi bod yn hynod o werth chweil cael ei chynorthwyo drwy’r broses yma.
Llywodraeth Cymru sy’n ariannu Busnes Cymru. I gael rhagor o fanylion a chymorth i helpu eich busnes chi i dyfu, neu i siarad ag ymgynghorydd arbenigol, cysylltwch â Busnes Cymru. Ewch i www.businesswales.gov.wales neu ffoniwch 03000 6 03000. Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg - we welcome calls in Welsh.