Hanes llwyddiant

Cyn weithiwr y GIG yn taflu goleuni ar lesiant personol gyda busnes rhithwir newydd

Dr Jacinta Tan

Mae meddyg o Benarth sydd wedi ymddeol wedi defnyddio ei hugain mlynedd o brofiad i lansio gweithdy digidol sy’n helpu pobl i gymryd rheolaeth dros eu llesiant meddyliol eu hunain.

Mae’r Cyn Seiciatrydd Ymgynghorol Plant a Phobl Ifanc i’r GIG, Dr Jacinta Tan, wedi goresgyn ei phroblemau ei hunan yn dilyn diagnosis o Covid hir yn 2021.

Wrth chwilio am ffyrdd o wella ei llesiant ei hunan, sylweddolodd y gallai llawer o bobl elwa ar wasanaethau seiciatrig ychwanegol i ategu’r gofal sydd ar gael gan y GIG.

Er bod hyfforddiant proffesiynol a phrofiad personol Dr Tan yn golygu ei bod mewn sefyllfa unigryw a chymwys i gefnogi cleientiaid, gofynnodd am arweiniad gan arbenigwyr Busnes Cymru i gynllunio, datblygu a lansio ei chwmni’n effeithiol.

Yn 2023, lansiodd Dr Tan wasanaeth ar-lein My Lighthouse Ltd, sy’n cynnig model llesiant personol, creadigol a hunan-ddarganfod sydd wedi’i ddylunio i helpu pobl i ganfod ffyrdd rhagweithiol o ofalu amdanyn nhw’u hunain.

Mae ei rhaglen ar-lein, My Lighthouse: Explore©, yn tywys cleientiaid drwy broses hyblyg tri cham ar gyflymder sy’n gyfleus i bob unigolyn. Mae’r camau’n pwysleisio hunan-ddarganfod, myfyrio ar daith bywyd yr unigolyn, a thasgau creadigol i’w hysbrydoli i edrych oddi mewn.

Wrth siarad am hyn, meddai Dr Jacinta Tan:

Ar ôl gweithio fel Seiciatrydd yn y GIG, rwy’n deall argaeledd ac ystod y cymorth sydd ar gael. Roedd hyn yn wir cyn y pandemig, ac mae’r galw’n dal i gynyddu.

Ro’n i’n gwybod bod gen i’r cymwysterau a’r profiad meddygol i greu rhywbeth a allai gael effaith wirioneddol gadarnhaol ar lesiant ac iechyd meddwl pobl. Ond roedd gen i gwestiynau ynghylch sefydlu cwmni, a sylweddolais i fod angen i fi ymgynghori ag arbenigwr i gael cyngor.

Awgrymodd Ymgynghorydd Busnes gyda Busnes Cymru, Nicola Thomas, gyfres o weithdai iddi, sy’n helpu perchnogion busnes newydd i ddatgloi sgiliau gwerthfawr, fel rheoli amser a chreu cynllun busnes cam wrth gam.

Cafodd Dr Tan hefyd ei chyfeirio at y grŵp ‘Busnes Bach Prydain’, sy’n cynnal digwyddiadau rhwydweithio lle mae perchnogion busnes ag anableddau’n rhoi cefnogaeth i’r rhai sy’n newydd i fod yn berchen ar eu cwmni eu hunain.

Aeth Dr Tan ymlaen: 

Mae ymgynghoriadau’n allweddol ym maes meddygaeth, ac rwy’n darganfod bod yr un peth yn wir am fusnes. Roedd arweiniad Busnes Cymru’n wych wrth ddatblygu’r cynllun ar gyfer My Lighthouse, ac fe gyflwynon nhw fi i gysylltiadau sydd wedi fy helpu i ddatblygu. Heb yr arweiniad hwnnw, fyddwn i ddim yn gallu helpu eraill i oresgyn eu brwydrau personol.

Awgrymodd Ymgynghorydd Busnes Dr Tan ffynonellau cyllid, grantiau, a’i chysylltu â phobl yng Nghyngor Bro Morgannwg a wnaeth helpu gyda chais llwyddiannus am fwrsariaeth cychwyn busnes. Drwy hyn roedd modd iddi brynu offer a chyflogi datblygwr gwe i ddylunio’r rhaglen ar-lein.

Gan weithio gyda Busnes Cymru, mae Dr Tan yn gobeithio cael mynediad at y farchnad fyd-eang a gwneud ei rhaglen yn un fyd-eang. Mae hi hefyd yn cyflawni cymwysterau hyfforddi a mentora busnes ychwanegol, a fydd yn ei galluogi i amrywio ei busnes, drwy gynnig cymorth i gyd-feddygon a gweithwyr proffesiynol.

Meddai’r Ymgynghorydd Busnes gyda Busnes Cymru, Nicola Thomas: 

Mae My Lighthouse yn enghraifft wych o fusnes sydd â’r gallu i helpu ystod eang o bobl. Pob clod i Dr Tan am ei phenderfyniad i sianelu ei phrofiadau i gefnogi eraill i wella eu llesiant eu hunain. Mae’r cynnydd mae hi wedi’i wneud yn profi bod llawer o bobl, gyda’r arweiniad cywir, yn gallu newid cyfeiriad i greu cwmnïau sydd â photensial twf mawr. 

Ariennir Busnes Cymru gan Lywodraeth Cymru. I gael rhagor o wybodaeth a chymorth i helpu’ch busnes ganfod cyfleoedd, ac i siarad ag ymgynghorydd arbenigol, cysylltwch â Busnes Cymru. Ewch i Hafan | Busnes Cymru neu ffoniwch 03000 6 03000. Rydyn ni’n croesawu galwadau yn Gymraeg.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.