Os yw eich sefydliad yn rhannu un cyfrif Helo Blod rhwng sawl person ar hyn o bryd, penderfynwch pwy fydd yn cysylltu'r cyfrif â'i GOV.UK One Login cyn i Helo Blod symud i GOV.UK One Login.
Pam mae angen i chi ddewis rhywun?
Mae GOV.UK One Login ar gyfer defnyddwyr unigol. Fydd cyfrifon sy’n cael eu rhannu ddim ar gael mwyach.
Bydd gan y person cyntaf i gysylltu cyfrif Helo Blod presennol eich sefydliad â'i GOV.UK One Login fynediad i gyfrif presennol eich sefydliad. Byddan nhw’n gallu gweld:
- ceisiadau ac archebion blaenorol
- hanes y cyfrif
Er mwyn osgoi dryswch, cytunwch ar bwy fydd yn gwneud hyn cyn i'r broses fewngofnodi newydd ddechrau.
Pwy ddylai gysylltu'r cyfrif?
Dewiswch rywun sy'n rheoli defnydd eich sefydliad o Helo Blod, fel:
- y prif gyswllt Helo Blod
- gweinyddwr
- rheolwr
- rhywun sy'n cyflwyno ceisiadau cyfieithu'n rheolaidd ar ran y sefydliad
Cyn i chi gysylltu'r cyfrif
Dylai'r person fydd yn cysylltu'r cyfrif:
- greu GOV.UK One Login os nad oes ganddyn nhw un yn barod
- defnyddio ei gyfeiriad e-bost a'i rif ffôn symudol ei hun
- peidio â defnyddio cyfeiriad e-bost sy’n cael ei rannu
- defnyddio cyfeiriad e-bost a rhif ffôn symudol y mae’n debygol o'i gadw yn y tymor hir
Cysylltu cyfrif presennol eich sefydliad
Pan fydd Helo Blod yn symud i GOV.UK One Login:
- Ewch i Helo Blod a dewis Mewngofnodi.
- Mewngofnodwch gan ddefnyddio cyfrif GOV.UK One Login neu ewch ati i greu un os oes angen.
- Dilynwch y cyfarwyddiadau i gysylltu'r cyfrif Helo Blod presennol.
Os yw'r cyfeiriadau e-bost yn wahanol
Os yw'r cyfeiriad e-bost a ddefnyddir ar gyfer GOV.UK One Login yn wahanol i'r un sydd wedi'i gysylltu â'r cyfrif Helo Blod ar hyn o bryd, efallai y gofynnir i chi:
- gadarnhau eich bod wedi cael mynediad i'r cyfrif o'r blaen
- nodi’r cyfeiriad e-bost sy'n gysylltiedig â'r cyfrif Helo Blod presennol
- cofnodi cod dilysu a anfonwyd i'r cyfeiriad e-bost hwnnw
Mae hyn yn helpu i sicrhau bod y cyfrif Helo Blod cywir wedi'i gysylltu.
Mynediad i Helo Blod ar ôl y symud
Ar ôl i'r cyfrif gael ei gysylltu, rhaid i bawb sydd angen mynediad i Helo Blod ddefnyddio eu GOV.UK One Login eu hunain.
Fydd cyfrifon sy’n cael eu rhannu ddim ar gael mwyach.
Rhaid i bob defnyddiwr fewngofnodi gan ddefnyddio ei gyfrif ei hun:
- cyfeiriad e-bost
- cyfrinair
- cod diogelwch