Daeth WeGetDesign, o Gaerdydd, i'r amlwg ar ddiwedd 2017 fel busnes technoleg bach newydd gyda gweledigaeth eang. Gan arbenigo mewn Meddalwedd fel Gwasanaeth (SaaS) a all ehangu a seilwaith swyddfa gefn, mae'r cwmni wedi tyfu i 14 aelod o staff llawn amser a sawl contractwr allanol. Gyda chyfradd twf drawiadol flwyddyn ar ôl blwyddyn, mae WeGetDesign wedi datblygu'n chwaraewr o bwys yn y diwydiant technoleg.

Mae'r Rheolwr Gyfarwyddwr Omar Moulani yn egluro sut y gwnaeth WeGetDesign fynd o nerth i nerth i ddod yn arweinydd byd-eang mewn datrysiadau technoleg.
 

 

Image removed.

 

Dywedwch wrthym am WeGetDesign.
Cafodd WeGetDesign ei sefydlu yn 2017, ac mae bob amser wedi ymwneud â mwy na datblygu meddalwedd yn unig. Mae ein cenhadaeth yn ymestyn i greu atebion effeithlon, y mae modd eu teilwra, sy'n sbarduno diwydiannau amrywiol. Mae ein strategaeth twf yn ddeublyg: rydym yn canolbwyntio ar gaffael cwsmeriaid yn organig ac ysgogi cwmnïau cyfyngedig newydd yn seiliedig ar yr apiau technoleg rydym yn eu datblygu'n fewnol.

Gydag arlwy amrywiol o gynhyrchion, rydym wedi ehangu ein gwasanaethau i ddarparu ar gyfer sefydliadau byd-eang. Gan wasanaethu sectorau sy'n amrywio o gyllid i ofal iechyd, rydym yn ateb un stop ar gyfer anghenion technolegol wedi'u teilwra. Rydym wedi creu prosiectau yn fewnol drwy ein cynllun ‘Labs’. Mae rhai o'r rhain yn cynnwys Mysmartclass.io, sy'n canolbwyntio ar atebion addysgol, ZippyProject.com, offeryn rheoli prosiect a Justsign.io, platfform llofnodi dogfennau digidol.


Pa heriau rydych chi wedi’u hwynebu yn ystod y trawsnewidiad hwn?
Nid yw ein taith wedi bod yn gwbl ddidrafferth. I ddechrau, roedd ein tîm yn fach, a oedd yn jyglo sawl rôl, gan amrywio o reolaeth ariannol a gweinyddol i waith datblygu. Roedd pwysau'r cyfrifoldebau hyn yn aml yn ymddangos yn llethol. Rhwystr arall oedd cael gafael ar gleientiaid. Er bod argymhellion ar lafar gwlad wedi ein helpu ar y dechrau, roeddem yn dyheu am adeiladu sylfaen cleientiaid ehangach a byd-eang.

O edrych yn ôl, mae'n debyg ein bod wedi mentro i ormod o farchnadoedd yn rhy gyflym. Er bod ein brwdfrydedd yn uchel, efallai bod y dull gwasgaredig hwn o fynd ati wedi gwanhau ein ffocws ac wedi effeithio ar ein twf. Yn ein hawydd i dyfu, gwnaethom orymestyn ein hunain drwy fynd i mewn i farchnadoedd fel e-fasnach a gofal iechyd heb ffocws digonol. Fe wnaeth hyn ein harwain at ailasesu a lleihau ein marchnadoedd targed.

Pe gallem fwrw ati eto, byddai ein strategaeth yn canolbwyntio'n fwy dwys ar un llinell fusnes graidd, gan ganiatáu inni ddod yn arbenigwyr yn y maes hwnnw cyn arallgyfeirio.

Mae'r Rhaglen Cyflymu Twf, yn enwedig ein Rheolwr Cysylltiadau, Nicola Rylett-Jones, wedi rhoi cymorth hanfodol i ni gyda hyn. Mae gweithio gyda nhw wedi helpu i fireinio ein strategaethau marchnata a datblygu datganiad gwerth sy'n fwy pendant. Fe wnaeth y gefnogaeth hon newid ein sefyllfa, gan ymestyn ein cyrhaeddiad y tu hwnt i'r hyn yr oeddem yn meddwl oedd yn bosibl.


Sut rydych chi wedi addasu i'r heriau hyn?
Fel pob busnes newydd, rydym wedi wynebu llawer o heriau ac wedi dewis eu gweld fel cerrig camu yn hytrach na rhwystrau.

Er enghraifft, pan gawsom drafferth gyda rheoli llwyth gwaith yn ein dyddiau cynnar, roeddem yn ei ystyried yn gyfle i dyfu ein tîm a dirprwyo yn fwy effeithiol. Er mwyn rheoli llwyth gwaith yn well, gwnaethom weithredu methodolegau ystwyth, gan wella ein hamserlenni ar gyfer cyflawni prosiectau. Fe wnaeth hyn leddfu'r baich ar aelodau gwreiddiol ein tîm ac arwain at waith mwy arbenigol, effeithlon.

Roedd cydweithredu â'r Rhaglen Cyflymu Twf yn allweddol er mwyn mynd i'r afael â'r her o ehangu ein sylfaen cleientiaid. Fe wnaeth eu cyngor arbenigol ein helpu i fireinio ein mentrau marchnata a chysylltu â chleientiaid y tu hwnt i'n cyrhaeddiad cychwynnol, fel elusennau mawr a mentrau byd-eang masnachol. Gyda'r gefnogaeth hon, fe wnaethom gychwyn ymgyrchoedd marchnata digidol wedi'u targedu er mwyn denu darpar gleientiaid mewn marchnadoedd newydd.
 

Beth ydych chi fwyaf balch ohono o safbwynt y busnes hyd yma?
Mae dau beth wir yn sefyll allan. Y cyntaf oedd pan wnaeth meddalwedd rhoddion y gwnaethon ni ei ddatblygu ar gyfer elusen NZF gynhyrchu swm rhyfeddol o £7.5 miliwn mewn dim ond mis. Roedd yn agoriad llygad, gan ddangos i ni'r effaith gwirioneddol y gallai ein technoleg ei chael ar y byd.

Yr ail oedd ennill contract gyda chronfa ragfantoli sefydledig Blantyre Capital. Nid cyflawniad busnes yn unig oedd hwn; roedd yn dilysu ansawdd a dibynadwyedd ein gwasanaethau.

Mae'r prosiectau nodedig hyn wedi rhoi hwb i'n portffolio ac wedi ein hannog i chwilio am ffyrdd o sicrhau effaith gymdeithasol trwy dechnoleg.

Sut mae cymorth gan Busnes Cymru wedi helpu eich busnes? Rydym wedi elwa'n aruthrol ar y cymorth a ddarparwyd gan amrywiol gynlluniau Llywodraeth Cymru. Ar wahân i gyllid uniongyrchol a grantiau nad ydynt yn daladwy, mae'r Rhaglen Cyflymu Twf (AGP) wedi bod yn arbennig o fuddiol. Mae pecynnau gwaith AGP wedi ein galluogi i fireinio ein brand ac ehangu ein gwasanaethau, gan gyfrannu at dwf trawiadol ac ehangu ein gweithlu o un flwyddyn i'r llall.

Mae'r cymorth hwn wedi bod yn allweddol wrth fireinio ein brandio ac ymestyn ein gwasanaethau, gan gyfrannu at dwf o 40% o un flwyddyn i'r llall a dyblu ein gweithlu.
 

Pa gyngor fyddech chi'n ei roi i ddarpar entrepreneuriaid?

· ● Blaenoriaethwch waith cleientiaid; dyma'r asgwrn cefn sy'n cefnogi eich twf.

· ● Safonwch y prosesau yn gynnar i gynnal ansawdd cyson o ran yr hyn y gellid ei gyflawni.

· ● Dirprwywch dasgau i ganiatáu i aelodau'r tîm arbenigo a gwella cynhyrchiant cyffredinol.

· ● Canolbwyntiwch ar weledigaeth hirdymor i lywio'ch cwmni i'r cyfeiriad cywir.

· ● Meithrinwch rwydwaith cymorth cryf er mwyn ymdopi â heriau'n effeithiol.



Rhagor o wybodaeth am WeGetDesign.

Rhagor o wybodaeth am Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru.

 

Share this page

Print this page