Mae ein hôl troed yn codi cwestiwn difyr. Beth ydych chi’n ei wneud – neu’n bwysicach, beth mae eich teulu a’ch anwyliaid yn ei wneud – gyda’ch ôl troed digidol ar ôl ichi farw? Mae dyddiau’r albwm ffotograffau llychlyd ar ben; bydd y rhan fwyaf ohonom yn berchen ar ffôn symudol o’r chweched genhedlaeth erbyn hyn, gyda phob dyfais yn llawn atgofion, fideos a ffotograffau – degau o filoedd ohonynt o bosib. Beth wnewch chi gyda’r holl atgofion hynny? 

Drwy gydol hanes, mae pobl wedi defnyddio pob math o bethau i gynnal cysylltiad emosiynol ag anwyliaid sydd wedi marw. Heddiw, ni fydd unrhyw wahaniaeth o ran hynny gyda’n hôl troed cymdeithasol digidol – bydd yn darparu adnodd hanfodol ar gyfer cadw a choleddu atgofion am ein hanwyliaid. Mae’r busnes newydd Forever Mortal wedi nodi cyfle i gefnogi pobl sy’n ymdrin â’r her hon. Mae wedi creu platfform lle gellir cofio anwyliaid gyda pharch, a lle caiff eu gwaddolion ar-lein eu diogelu a’u rheoli ymhell i’r dyfodol.   

Mae Forever Mortal wedi derbyn cymorth drwy Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru. Mae’r rhaglen hon yn darparu cymorth a dargedir ar gyfer busnesau uchelgeisiol sy’n tyfu. Mae wedi’i hariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru
 

Yma, mae Ian Brewer, sef sefydlydd y cwmni, yn esbonio’r syniad y tu ôl i Forever Mortal ac yn rhannu ei brofiad o dyfu ei fusnes gyda chymorth Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru

 

 

Dywedwch wrthon ni am Forever Mortal
Fel arloeswr chwilfrydig sydd wedi ennill gwobrau, dw i’n dwlu ar archwilio syniadau newydd a dod o hyd i atebion newydd i heriau newydd. Bu’r syniad hwn yn fy mhen ers cryn amser, ond ni ddaeth i fodolaeth nes imi gael damwain car gas iawn, pan feddyliais i “Dyna fe, dw i’n mynd i farw”. Yn yr ambiwlans, dechreuais i fyfyrio ar beth fyddai wedi digwydd petasai’r gwaethaf wedi digwydd. Sut fyddai pobl yn fy nghofio a pha fath o lanast fyddwn i’n ei adael i fy nheulu ddelio ag ef? Y foment honno gannwyd Forever Mortal

Yma, yn Forever Mortal, rydyn ni wedi creu platfform data cymdeithasol preifat sy’n ei gwneud yn bosibl i deuluoedd, ffrindiau a chenedlaethau’r dyfodol ryngweithio â phobl, eu cofio a dysgu oddi wrthyn nhw ymhell ar ôl iddyn nhw fynd, a hynny mewn ffyrdd na welwyd erioed o’r blaen. 

Gallech chi feddwl amdano fel cyfuniad o Facebook ac Ancestry.com.   

Er ei bod hi’n ddyddiau cynnar inni, rydyn ni eisoes yn dîm o wyth unigolyn o’r un anian. Pan ymunon ni â Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru, roedden ni’n fusnes cychwynnol uchelgeisiol heb unrhyw weithwyr. Rydyn ni wedi dod yn bell o fewn cyfnod byr iawn! Ac, ar sail y sylw rydyn ni wedi’i gael hyd yn hyn, mae dyfodol llawn cyffro o’n blaenau, yn sicr.

Mae ein profiad o Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi bod yn hynod werthfawr, yn enwedig y cymorth a gawson ni gan lawer o arbenigwyr busnes, a ariannwyd yn llawn, sydd wedi’n helpu i blannu hadau llwyddiant.  

 

Beth yw’r pethau rydych chi fwyaf balch ohonyn nhw mewn busnes hyd yn hyn?
Cafodd Forever Mortal ei ddeor yng Nghanolfan Arloesi Menter Cymru a Tramshed Tech, ac mae’r ddau ohonynt wedi’n cefnogi’n fawr. Ar hyn o bryd, rydyn ni’n cymryd rhan yng nghynllun Nat West Accelerator ac, ar ôl cwblhau proses drylwyr, rydyn ni wedi cael ein derbyn i raglen sbarduno o fri EWOR. Mae EWOR yn cael ei gefnogi gan entrepreneuriaid yn yr Almaen sydd wedi sefydlu cwmnïau gwerth biliynau o bunnoedd ac eisiau buddsoddi mewn mentrau cymdeithasol a allai gael effaith ar y llwyfan fyd-eang. Rydyn ni’n hynod falch bod y potensial hwn yn Forever Mortal wedi cael ei gydnabod. 

Rydyn ni hefyd wedi datblygu cynghrair strategol gyda Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru – sefydliad gwych – a gomisiynodd adroddiad ar sut y gallai rhithffurfiau digidol gefell helpu gyda’r broses alaru. Roedden nhw ychydig yn sgeptigol ar y dechrau, wrth inni gynnig syniad a allai fod wedi dod yn syth o’r gyfres ffuglen wyddonol Black Mirror. Roedd hi’n wych pan eglurodd yr adroddiad terfynol y llu o fanteision y gallai ein dull eu cyflwyno i anwyliaid sy’n galaru.  

 

Y cyflawniad arall dw i fwyaf balch ohono yw cychwyn menter newydd gyda dim byd heblaw’r syniad yn fy mhen i’r sefyllfa nawr lle mae gen i gynnyrch sylfaenol hyfyw sy’n barod i’w lansio. Dw i wir o’r farn y gallwch chi wneud unrhyw beth os ydych yn ddigon penderfynol ac yn credu yn eich syniad. 

Mae pobl eisoes yn cymryd sylw o beth rydyn ni’n ei wneud. Rydyn ni wedi sicrhau partneriaeth ddosbarthu gydag un o’r cwmnïau mawr yn sector angladdau’r DU ac mae partneriaid posibl yn yr UDA wedi dangos diddordeb hefyd, sy’n newyddion gwych! Ond eto mae gan bawb rydyn ni’n siarad â nhw ryw fath o ddiddordeb, ac maen nhw’n gallu uniaethu â beth rydyn ni’n ei wneud pan mae’n dod i golli anwyliaid. 

 

 

Pa heriau rydych chi wedi’u hwynebu mewn busnes? 
O fy rhan i, dechrau gyda dim byd – a datblygu o fod yn weledigaeth un person i dîm o wyth sydd bellach yn gwireddu’r weledigaeth honno.

 Ar y dechrau, cawson ni hi’n anodd hefyd ddiffinio’n glir beth oedd y broblem roedden ni’n ceisio’i datrys, a chyfleu hyn mewn ffordd oedd yn sicrhau bod y geiniog yn cwympo. Ein neges yw y bydd data cymdeithasol – hynny yw yr atgofion rydyn ni’n eu coleddu – yn cael eu colli i genedlaethau’r dyfodol os na wnawn ni rywbeth am hynny. Rydyn ni wedi gorfod deall a delio â’r sensitifrwydd ynghylch marwolaeth a marw, ac rydyn ni wedi gorfod deall y risgiau a’r manteision sy’n gysylltiedig â chynnal gwaddol digidol, a darparu datrysiad sy’n democrateiddio hyn i bawb.
 

Maen nhw’n parhau i fod yn bethau mae angen inni fod yn ystyrlon yn eu cylch, yn gyson. Yn sicr, nid yw hwn yn blatfform lle gallwn ni fod yn hunanfodlon, yn enwedig pan fyddwn ni’n sôn am gynnal ein hôl  cymdeithasol digidol – nad ydyn ni, ar hyn o bryd, yn berchen arno unwaith ein bod wedi’i roi ar blatfformau cymdeithasol. Ein nod yw darparu man diogel a saff sy’n sicrhau mai chi a’ch teulu sy’n berchen ar eich ôl digidol yn gyfreithiol.

 

Pe baech chi’n dechrau eto, beth fyddech chi’n ei wneud yn wahanol?
Dw i ddim yn meddwl y byddwn i’n gwneud unrhyw beth yn wahanol oherwydd y bues i mor lwcus o ran sicrhau’r tîm cywir ac mae popeth yn digwydd mor gyflym. Mae pob dydd o’r fenter hon yn syndod imi, sy’n atgyfnerthu fy marn y bydd y busnes hwn yn tyfu’n gyflym iawn. Mae profion cynnar wedi datgelu hynny. 

 

Sut mae cymorth Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi helpu eich busnes?
Mae Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi bod yn hynod werthfawr inni. Fel busnes newydd, rydyn ni wedi ceisio cymaint o help ac arbenigedd allanol â phosib. Dw i’n meddwl bod hynny’n rhywbeth hanfodol i fusnes newydd ei wneud. Felly ceisiwch y cymorth, chwiliwch am y gefnogaeth. Mae digonedd o’r ddau ar gael os ydych yn cnocio ar ddigon o ddrysau. 

 Mae Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi bod yn gefn i’r cwmni, gan ddarparu cymorth a chyllid hanfodol inni. Er ei bod yn wir fy mod i wedi cychwyn busnesau eraill yn y gorffennol, dydy hynny ddim yn golygu y dylid anwybyddu help posibl.  

 

Mae’r cymorth mae Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi’i roi yn amrywio o ddatblygu’r brand a dylunio’r wefan i gyllid strategol, sicrhau bod cyflwyniadau a chyfathrebu’r busnes yn eglur a TG.  

 Allwch chi ddim tanbrisio i ba raddau y gall arbenigedd allanol roi hwb i ddatblygiad eich cwmni yn ystod y dyddiau cynnar. Rydyn ni’n ddiolchgar iawn ein bod wedi cael y cymorth hwn drwy Howard Jones. 

 

Pa gyngor ac arweiniad y byddech chi’n ei roi i fusnesau newydd eraill? 

  • Sicrhewch eich bod yn egluro beth yn union yw eich cynnig a’ch pwynt gwerthu unigryw. 
  • Gwnewch lawer o brofion – profwch fod eich tybiaethau’n mynd i weithio.
  • Rhannwch y rhain â darpar fuddsoddwyr, partneriaid a rhanddeiliaid mewn ffordd syml, gryno a hwylus. 
  • Peidiwch â bod yn ofn cysylltu â phobl a gofyn iddyn nhw eich cefnogi. 
  • Manteisiwch ar unrhyw gymorth / help / gwybodaeth sydd ar gael o Lywodraeth Cymru ac asiantaethau eraill. 

     

I gael rhagor o wybodaeth am Forever Mortal, ewch yma.

Rhagor o wybodaeth am Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru.




A picture containing graphical user interface

Description automatically generated

Mae Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru yn rhaglen ar gyfer Cymru gyfan. Caiff ei hariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru.

Share this page

Print this page