Skip to main content

Rydym ni’n defnyddio JavaScript i osod y rhan fwyaf o’n cwcis. Yn anffodus, nid yw JavaScript yn rhedeg ar eich porwr, felly ni allwch newid eich gosodiadau trwy ddefnyddio’r dudalen hon. I reoli eich gosodiadau cwcis trwy ddefnyddio’r dudalen hon, rhowch gynnig ar droi JavaScript ymlaen yn eich porwr.

Gwybodaeth am gwcis

Rydym wedi arbed rhai ffeiliau o’r enw cwcis i’ch dyfais. Mae’r cwcis hyn:

  • yn hanfodol i waith y safle
  • yn helpu gwella’n gwefan trwy gasglu gwybodaeth ac adrodd am sut rydych chi’n ei defnyddio

Hefyd, hoffem arbed rhai cwcis i helpu:

  • gwella ein gwefan trwy fesur y defnydd o’n gwefan
  • cofio eich gosodiadau

Newid gosodiadau cwcis

Rydych chi wedi derbyn yr holl gwcis ar gyfer y wefan hon. Gallwch newid eich dewisiadau ar gyfer cwcis unrhyw bryd.

Welsh Government
  • EN
  • CY
Business Wales Home
  • Business Wales Hafan
  • Pencadlys Newyddion
  • Mwy
Business Wales - Accelerated Growth Programme
Toggle navigation
  • Cartref
  • Beth yw'r Rhaglen Cyflymu Twf?
  • A yw fy musnes yn gymwys?
  • Astudiaethau Achos a Newyddion
  • Proffiliau hyfforddwyr twf
  • Cysylltwch â ni
  1. Home
  2. Case Studies and News
  3. 2022

2022 Case Studies and News

The PBF Co Logo thumbnail 150x100
Astudiaeth Achos

Yr entrepreneur heb ei ail sy'n gobeithio gwneud ynni adnewyddadwy yn fwy cynaliadwy byth.

20 December 2022
|

"Mae cymryd rhan yn y Rhaglen Cyflymu Twf Gwyrdd wedi bod yn hanfodol wrth ddatrys her fwyaf ein gwlad"

Wrth inni symud tuag at sector ynni sy'n defnyddio rhagor o ynni adnewyddadwy, mae'n bosibl hefyd y bydd cyfleoedd i wella a diogelu ein byd naturiol hefyd. Dyna beth mae arweinydd busnes o Sir Benfro yn gobeithio ei ddatblygu wrth iddo arwain ymchwil i gynhyrchu ynni ar y môr a'r ffordd y gall ddiogelu planhigion ac anifeiliaid brodorol. Mae Jonathan Williams wedi bod yn gweithio gyda'r Rhaglen Cyflymu Twf Gwyrdd i archwilio ei syniadau. Cafodd...
Amplyfi Logo thumbnail 150x100
Astudiaeth Achos

Mae cael achrediad ISO yn allweddol i uchelgeisiau rhyngwladol cwmni meddalwedd.

6 December 2022
|

“Rydyn ni’n barod i dargedu marchnadoedd cystadleuol iawn, diolch i’r gwaith rydyn ni wedi’i wneud gyda Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru” 

O bryd i’w gilydd mae angen i’r cwmnïau mwyaf uchelgeisiol sy’n tyfu, hyd yn oed, wneud rhywbeth ychydig yn wahanol er mwyn sicrhau busnes mewn amgylchedd byd-eang cystadleuol. Mae Amplyfi, sydd â’i bencadlys yng Nghaerdydd, yn enghraifft wych o’r gwaith caled mae angen ei wneud yn aml er mwyn sicrhau bod cwmni’n meddu ar y fantais gystadleuol sydd ei hangen arno i lwyddo . Mae Amplyfi wedi cael cefnogaeth drwy Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru...
GL Logo thumbnail 150x100
Astudiaeth Achos

Sut mae un cwmni cyfreithiol o Gymru wedi rhoi iechyd meddwl a thosturi tuag at bobl wrth wraidd ei weithrediadau – gan roi hwb i gynhyrchiant a chadw staff.

28 November 2022
|

"Mae cefnogaeth gan Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi bod mor ddefnyddiol wrth i ni ddatblygu dulliau newydd o ymdrin â lles staff."

Yn gynyddol, mae arweinwyr busnes yn deall bod iechyd meddwl gweithlu yn hanfodol i les busnes. I Ron Davison, rheolwr gyfarwyddwr Gamlins Law yn y gogledd, mae dealltwriaeth reddfol o'r ffaith honno, a welwyd o safbwynt personol iawn, wedi gweld y cwmni'n datblygu cefnogaeth ar gyfer iechyd meddwl i'w staff mewn swyddfeydd ar draws y gogledd, sy'n arwain y diwydiant. Cefnogwyd Gamlins Law drwy Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru (AGP). Mae'r AGP yn darparu cefnogaeth...
FM Logo thumbnail 150x100
Astudiaeth Achos

Mae Forever Mortal yn cynnig atebion arloesol ar gyfer diogelu gwaddolion ar-lein mewn ffyrdd na welwyd erioed o’r blaen.

17 November 2022
|

"Fel cysyniad gwaddol digidol newydd, mae’r Rhaglen Cyflymu Twf gan Busnes Cymru wedi’n cefnogi pob cam o’r ffordd." 

Mae ein hôl troed yn codi cwestiwn difyr. Beth ydych chi’n ei wneud – neu’n bwysicach, beth mae eich teulu a’ch anwyliaid yn ei wneud – gyda’ch ôl troed digidol ar ôl ichi farw? Mae dyddiau’r albwm ffotograffau llychlyd ar ben; bydd y rhan fwyaf ohonom yn berchen ar ffôn symudol o’r chweched genhedlaeth erbyn hyn, gyda phob dyfais yn llawn atgofion, fideos a ffotograffau – degau o filoedd ohonynt o bosib. Beth wnewch chi...
C logo
Astudiaeth Achos

Stori cwmni meddalwedd sydd wedi tyfu’n gyflym

19 October 2022
|

“Mae Cymorth AGP Busnes Cymru wedi’n helpu i wireddu’n cynlluniau uchelgeisiol i dyfu.”

Ers ei sefydlu, mae Codiance wedi tyfu i fod yn gwmni meddalwedd uchel ei barch. Mae’r busnes yn tyfu’n gyflym, gan thri aelod newydd wedi ymuno â’r tîm fis yma. Mae’r cwmni’n dechrau ar gyfnod newydd o dwf, diolch i Raglen Cyflymu Twf (AGP) Busnes Cymru. I Codiance, ei staff, ei sylfaenydd a’i gwsmeriaid, mae hynny’n golygu bod dyfodol cyffrous o’u blaenau. Mae’r AGP yn darparu cymorth i fusnesau uchelgeisiol ac yn cael cyfran o’i...
Logo thumbnail 150x100
Astudiaeth Achos

Partner blaenllaw ar gyfer datblygu meddyginiaethau’n tyfu’n gyflym, yn sgil arloesi a buddsoddi yn ei phobl

17 October 2022
|

“Mae cymorth Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi bod yn amhrisiadwy i’n helpu i dyfu.”

Wrth i dechnoleg feddygol ddatblygu, mae’r sector fferyllol yn allweddol i ddarparu swyddi o ansawdd uchel sy’n talu’n dda – gan gadw’r goreuon yn y wlad a denu talentau o wledydd eraill y DU a’r byd. Un busnes blaenllaw yn sector fferyllol Cymru yw CatSci, o Gaerdydd, a eginodd o gwmni sy’n ymgorfforiad bellach o bopeth mae meddygaeth fodern yn ei olygu, yn enwedig y frwydr yn erbyn Covid-19 – AstraZeneca. Mae CatSci wedi cael...
HM Logo thumbnail 150x100
Astudiaeth Achos

Cwmni gofal iechyd yn Wrecsam sy'n defnyddio dulliau darbodus i feithrin diwylliant o gydweithio ac arloesi.

5 October 2022
|

"Wrth i'n busnes dyfu, mae cymorth Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi bod yn hollbwysig." 

Mae cwmni yn fwy na'r hyn y mae'n ei gynhyrchu neu'r gwasanaeth y mae'n ei ddarparu. Y staff sydd wrth wraidd pob busnes, ac mae’r diwylliant y mae pobl yn gweithio ynddo yn ysgogi ymddygiadau a chanlyniadau. Yn Healthcare Matters – sef cwmni yn Wrecsam sy'n darparu eitemau megis lifftiau grisiau, matresi arbenigol ac amrywiaeth o eitemau gofal iechyd pwrpasol – daeth hyn i'r amlwg yn ystod pandemig COVID-19. Gan arfer dull chwilfrydig ac agored...
ST Logo thumbnail 150x100
Astudiaethau Achos a Newyddion

Sut mae Snowdon Timber wedi mynd o nerth i nerth?

20 September 2022
|

“Gwnaeth Rhaglen Garlam Busnes Cymru ein helpu i fod yn fwy cystadleuol”

Lansiodd Jody Goode ei fusnes, Snowdon Timber, yn 2019. Wedi treulio degawd yn masnachu pren yn rhyngwladol, penderfynodd ei fod yn amser mynd yn annibynnol a sefydlu ei gwmni ei hun gan gynnig pren safonol i’w werthu i siopau cenedlaethol mawr. Dechreuodd y cwmni fasnachu ym Mochdre ac maen nhw wedi agor ail safle ym Mangor yn ddiweddar. Mae Snowdon Timber wedi cael ei gefnogi drwy Raglen Cyflymu Twf (RhCT) Busnes Cymru. Mae’r RhCT yn...
CPR Global Tech 500px
Newyddion

CPR Global Tech yn cydweithio â Phrifysgol Abertawe ar gyfer prosiect gofal iechyd digidol arloesol

20 September 2022
|

Bydd Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth Innovate UK yn gwerthuso effaith drawsnewidiol posibl dyfeisiau iechyd gwisgadwy ar y sector iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Mae cwmni technegol o Abertawe wedi ymuno â’r Academi Dysgu Dwys Cymru Gyfan ar gyfer Arloesi mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol ym Mhrifysgol Abertawe i ymchwilio sut gallai dyfeisiau gwisgadwy drawsnewid gofal iechyd digidol drwy ganiatáu staff y GIG a staff gofal cymdeithasol i fonitro cleifion o bell. Mae CPR Global Tech, sydd wedi’i leoli ym Mharc Technoleg Lakeside, wedi ymuno â Phrifysgol Abertawe ar gyfer Partneriaeth Rheoli Trosglwyddo Gwybodaeth Innovate UK, sy’n cysylltu busnesau...
LA Logo thumbnail
Newyddion

Cwmni prostheteg LIMB-art sy’n tyfu’n gyflym yn nodi canmlwyddiant yr Urdd mewn modd arbennig.

10 June 2022
|

Mae LIMB-art yn Sir Ddinbych wedi creu gorchudd coes brosthetig i ddathlu pen-blwydd Urdd Gobaith Cymru yn 100 oed.

Cafodd y gorchudd coes gwladgarol ei ddylunio gan Sean Mason a Mark Williams, sef sefydlwr LIMB-art, a’i ddadlennu yn ystod Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych. Sefydlwyd LIMB-art yn 2018 gan y cyn-nofiwr ac enillydd medal paralympaidd Mark Williams, a’i wraig Rachel. Crëwyd y cwmni o ganlyniad i awydd dirfawr i helpu defnyddwyr prosthetigau i fod yn fwy hyderus, bod yn falch o’r hyn sydd ganddynt ac, yn syml iawn ond yr un mor bwysig, cael...

Pagination

  • Page 1
  • Next page >>

Archive

  • May 2025 (1)
  • April 2025 (5)
  • March 2025 (5)
  • February 2025 (10)
  • January 2025 (1)
  • December 2024 (3)
  • November 2024 (3)
  • March 2024 (2)
  • January 2024 (1)
  • December 2023 (4)
  • November 2023 (1)
  • October 2023 (1)

Cysylltwch â ni

Facebook Icon LinkedIn Icon Twitter Icon Youtube Icon Instagram Icon

Tanysgrifio i ebost

Tanysgrifiwch i dderbyn e-gylchlythr

Tanysgrifio

I gael cymorth neu gyngor busnes ffoniwch

03000 6 03000

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg

  • Darganfyddwch fwy Amdanom ni
  • Hygyrchedd
  • Cysylltwch â ni
  • Cwcis
  • Hawlfraint
  • Preifatrwydd
  • Telerau ac amodau
  • Datganiad Iaith Gymraeg
Llywodraeth Cymru | Welsh Government

Mae'r holl gynnwys ar gael yn Open Government Licence, oni noder yn wahanol

Busnes Cymru. Llywodraeth Cymru © 2025