Mae’r diweddariad hwn i randdeiliaid yn dwyn ynghyd yr wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru am y system ardrethi annomestig yng Nghymru.
Yr wybodaeth ddiweddaraf
Trefniadau ar gyfer 2026-27
Ar 3 Rhagfyr, gwnaethom gyhoeddi’r trefniadau ardrethi annomestig a ganlyn ar gyfer 2026-27:
- Bydd y lluosydd safonol yn cael ei ostwng i 0.502, o ganlyniad i’r ailbrisio yn 2026.
- Bydd y lluosydd manwerthu yn cael ei osod ar 0.350 a bydd y lluosydd uwch yn cael ei osod ar 0.515.
- Bydd rhyddhad trosiannol yn cyfyngu ar gynnydd uniongyrchol mewn biliau ardrethi annomestig, o ganlyniad i’r ailbrisio yn 2026. Bydd cynnydd mewn atebolrwydd i dalwyr ardrethi cymwys yn cael ei gyflwyno’n raddol dros gyfnod o ddwy flynedd.
Ar 3 Chwefror, gwnaethom gyhoeddi y bydd busnesau lletygarwch bwyd a diod yn cael rhyddhad ardrethi annomestig o 15% drwy gydol 2026-27, a fydd wedi’i gapio ar £110,000 fesul busnes ledled Cymru. Rydym wedi cyhoeddi canllawiau ynghylch Rhyddhad Ardrethi Lletygarwch Bwyd a Diod.
Mae gweddill y diweddariad hwn yn crynhoi’r ystod o newidiadau a fydd yn cael eu rhoi ar waith ar 1 Ebrill 2026, yn rhan o’r rhaglen o ddiwygiadau ardrethi annomestig yr ydym wedi’u cyflawni yn ystod tymor presennol y Senedd.
Ailbrisio yn 2026
Wrth wraidd cynlluniau Llywodraeth Cymru i ddiwygio ardrethi annomestig y mae’r symud i ailbrisio bob tair blynedd. Mae paratoadau ar y gweill ar gyfer yr ailbrisio nesaf, a fydd yn cael ei gynnal ar 1 Ebrill 2026. Dyma’r ail ailbrisio sydd wedi’i gyflawni yn ystod tymor presennol y Senedd a’r cyntaf ar gylch tair blynedd.
Wrth ailbrisio, mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn adolygu gwerth ardrethol pob eiddo annomestig ar adeg benodol. Rhoddir gwerth ardrethol newydd i bob eiddo annomestig, yn seiliedig ar ei werth rhentu blynyddol amcangyfrifedig ar 1 Ebrill 2024 (sef y dyddiad prisio rhagflaenol). Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio wedi cyhoeddi fersiwn ddrafft o’r rhestr ardrethu newydd. Ceir rhagor o wybodaeth am yr ailbrisio yn 2026 ar wefan Asiantaeth y Swyddfa Brisio. Os oes gan dalwyr ardrethi gwestiynau am eu prisiadau, dylent gysylltu ag Asiantaeth y Swyddfa Brisio.
Caiff ailbrisiadau eu cynnal i sicrhau tegwch yn y system ardrethi annomestig, drwy ailddosbarthu cyfanswm yr hyn sy’n daladwy rhwng talwyr ardrethi, er mwyn adlewyrchu newidiadau cymharol yn y farchnad eiddo. Nid yw’n codi refeniw ychwanegol. Bydd rhai biliau yn cynyddu, bydd rhai yn gostwng ac ni fydd llawer yn newid, gan adlewyrchu newidiadau cymharol yn y farchnad eiddo annomestig a’r ddarpariaeth barhaus o ryddhadau parhaol.
Rhyddhad trosiannol
Bydd rhyddhad trosiannol yn cyfyngu ar gynnydd uniongyrchol mewn biliau ardrethi annomestig, o ganlyniad i’r ailbrisio yn 2026. Bydd yn helpu pob talwr ardrethi cymwys sydd ag atebolrwydd uwch o fwy na £300, ar ôl cymhwyso rhyddhadau statudol. Bydd talwr ardrethi cymwys yn talu 33% o’i atebolrwydd ychwanegol yn y flwyddyn gyntaf (2026-27) a 66% yn yr ail flwyddyn (2027-28), cyn cyrraedd ei atebolrwydd llawn yn y drydedd flwyddyn (2028-29). Mae Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Symiau a Godir) (Cymru) 2025 yn rhagnodi rheolau i gyfrifo’r swm trethadwy ar gyfer talwyr ardrethi cymwys. Bydd rhyddhad trosiannol yn cael ei gymhwyso’n awtomatig i filiau. Rydym wedi cyhoeddi canllawiau ar ryddhad trosiannol.
Lluosyddion gwahaniaethol
Y llynedd, gwnaethom gadarnhau y byddwn yn cyflwyno lluosyddion gwahaniaethol ar gyfer ardrethi annomestig o 1 Ebrill 2026 ymlaen. Mae Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Disgrifiad o Luosyddion Gwahaniaethol) (Cymru) 2025 yn pennu’r eiddo a fydd yn ddarostyngedig i’r lluosydd manwerthu a’r lluosydd uwch. Mae gwerthoedd y lluosyddion hynny wedi’u pennu, fel cyfran o’r lluosydd safonol, gan Reoliadau Ardrethu Annomestig (Gwerth Lluosyddion Gwahaniaethol) (Cymru) 2026. Bydd y lluosydd perthnasol yn cael ei gymhwyso’n awtomatig i filiau. Rydym wedi cyhoeddi canllawiau ynghylch y lluosyddion.
Y fframwaith gwrthweithio osgoi
Y llynedd, gwnaethom gadarnhau y byddwn yn rhoi effaith i’n fframwaith gwrthweithio osgoi cyffredinol o ran ardrethi annomestig. Mae Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Trefniadau Osgoi Artiffisial) (Rhestrau Lleol) (Cymru) 2026 yn rhoi effaith i’r fframwaith, drwy ddiffinio’r trefniadau osgoi artiffisial y defnyddir y fframwaith i’w gwrthweithio o 1 Ebrill 2026 ymlaen. Rydym wedi cyhoeddi canllawiau ar y fframwaith gwrthweithio osgoi.
Dyletswydd i roi gwybod am newidiadau mewn amgylchiadau
Y llynedd, gwnaethom gadarnhau y byddwn yn creu dyletswydd i dalwyr ardrethi roi gwybod i awdurdodau bilio am newidiadau penodol mewn amgylchiadau. Mae Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Darparu Gwybodaeth am Newidiadau mewn Amgylchiadau) (Cymru) 2026 yn sefydlu’r ddyletswydd, a fydd yn gymwys o 1 Ebrill 2026 ymlaen. Rydym wedi cyhoeddi canllawiau ynghylch y ddyletswydd.
Dosbarthu llety hunanddarpar
Yn dilyn cynnal ymgynghoriad, gwnaethom gadarnhau y byddwn yn gwneud rhai gwelliannau i’r ffordd y cymhwysir y meini prawf gosod a ddefnyddir i ddosbarthu eiddo hunanddarpar at ddibenion trethi lleol. Mae Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Diwygio’r Diffiniad o Eiddo Domestig) (Cymru) 2026 yn cymhwyso’r newidiadau i’r holl asesiadau ar gyfer ardrethi annomestig, o 1 Ebrill 2026 ymlaen. Rydym wedi diweddaru ein canllawiau ar ardrethi annomestig ar gyfer eiddo hunanddarpar.
Ymgyngoriadau ar ardrethi annomestig
Dim ond i Gymru y mae pob ymgynghoriad yn gymwys.
Cynigion i fireinio dosbarthiad eiddo hunanddarpar at ddibenion trethi lleol – crynodeb o ymatebion
Am gyfnod o 12 wythnos rhwng 28 Awst a 20 Tachwedd 2025, cynhaliwyd ymgynghoriad ar gynigion i fireinio dosbarthiad eiddo hunanddarpar at ddibenion trethi lleol.
Rhagor o wybodaeth
Croesawn adborth ar y diweddariad hwn i randdeiliaid. Dylid anfon unrhyw sylwadau neu ymholiadau i: polisitrethilleol@llyw.cymru.
Ar hyn o bryd, disgwylir y diweddariad nesaf yn hydref 2026.
Dolenni defnyddiol: