Canllawiau
Disgrifiad o'r canllawiau
Mae'r canllawiau hyn yn rhoi gwybodaeth i drethdalwyr ac awdurdodau lleol am y rhyddhad trosiannol a fydd ar gael, ar ôl ailbrisio ardrethi annomestig (NDR) ar 1 Ebrill 2026. Maent yn berthnasol i Gymru yn unig ac nid ydynt yn disodli unrhyw ddeddfwriaeth NDR bresennol nac unrhyw ganllawiau ar gynlluniau rhyddhad eraill (e.e. rhyddhad ardrethi busnesau bach).
Dylid cyfeirio ymholiadau bilio am y rhyddhad at yr awdurdod lleol perthnasol. Gellir dod o hyd i fanylion cyswllt ar gyfer awdurdodau lleol ar dudalen we Busnes Cymru.
Dylid anfon ymholiadau am y canllawiau hyn a'r ddeddfwriaeth gysylltiedig at Lywodraeth Cymru drwy'r cyfeiriad e-bost canlynol: PolisiTrethiLleol@llyw.cymru
Mae mathau eraill o ryddhad NDR gorfodol a dewisol hefyd ar gael i fathau penodol o eiddo neu feddianwyr. Mae rhagor o wybodaeth am ryddhad NDR ar gael ar ein tudalennau gwe Busnes Cymru.
Cyflwyniad
Bydd y cynllun rhyddhad trosiannol hwn yn cyfyngu ar gynnydd mewn biliau NDR, o ganlyniad i'r ailbrisio ar 1 Ebrill 2026.
Bydd trethdalwr cymwys yn talu 33% o'i rwymedigaeth ychwanegol yn y flwyddyn gyntaf (2026-27) a 66% yn yr ail flwyddyn (2027-28), cyn cyrraedd ei rwymedigaeth lawn yn y drydedd flwyddyn (2028-29).
Ariennir y rhyddhad trosiannol yn llawn gan Lywodraeth Cymru a chaiff ei ddiffinio yn Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Symiau a Godir) (Cymru) 2025. Mae'r Rheoliadau yn rhagnodi rheolau sydd i'w defnyddio i gyfrifo'r swm a godir ar gyfer eiddo cymwys sydd â chynnydd yn ei rwymedigaeth NDR o fwy na £300, o ganlyniad i'r ailbrisiad.
Mae'r rhyddhad ar gael i drethdalwyr ar y rhestr leol ac ar y rhestr ganolog.
Mae Llywodraeth Cymru yn darparu £116m dros ddwy flynedd i ariannu'r rhyddhad trosiannol hwn, gan gefnogi holl feysydd y sylfaen drethu drwy gynllun cyson a syml.
Pa eiddo fydd yn gallu manteisio ar y rhyddhad?
Nid yw cymhwysedd ar gyfer rhyddhad trosiannol wedi'i gyfyngu i unrhyw sector, maint, na defnydd o'r eiddo (hereditament) o fewn y sylfaen drethu NDR.
Er mwyn bod yn gymwys am ryddhad trosiannol, rhaid i'r hereditament:
- fod wedi'i ddangos ar restr leol neu ar y rhestr ganolog ar 31 Mawrth 2026 (y diwrnod cyn i'r rhestrau newydd a lunnir ar 1 Ebrill 2026 gael effaith);
- bod â chynnydd mewn rhwymedigaeth (STG > RhS) o fwy na £300;
- cael yr un trethdalwr ar y diwrnod perthnasol ag a oedd yn drethdalwr ar 31 Mawrth 2026 (os bydd person gwahanol yn dod yn drethdalwr, bydd y rhyddhad yn peidio â bod yn gymwys);
- bod wedi'i feddiannu (gan yr un trethdalwr y cyfeirir ato uchod) ar 31 Mawrth 2026;
- peidio â bod yn ddarostyngedig i ddosraniad ar gyfer eiddo a feddiennir yn rhannol o dan adran 44A o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 (Deddf 1988).
Faint o ryddhad fydd ar gael?
Yn amodol ar y meini prawf cymhwysedd a nodir uchod, bydd cynnydd mewn rhwymedigaeth NDR yn cael ei gyflwyno'n raddol dros ddwy flynedd. Bydd trethdalwyr yn elwa ar ryddhad trosiannol o 67% o'u rhwymedigaeth uwch yn 2026-27 a 34% yn 2027-28. Yn 2028-29, bydd pob trethdalwr yn talu ei fil llawn, yn amodol ar unrhyw ryddhad arall y mae'n ei gael.
Sut bydd y rhyddhad yn cael ei weinyddu?
Ar gyfer hereditamentau ar y rhestr ardrethu leol, bydd awdurdodau lleol yn addasu biliau'n awtomatig i gymhwyso'r rhyddhad trosiannol, pan fo'r meini prawf cymhwysedd wedi'u bodloni.
Mae awdurdodau lleol yn gyfrifol am ddarparu gwybodaeth glir a hygyrch i drethdalwyr ynghylch manylion a gweinyddiaeth y cynllun. Os nad oes modd i awdurdod ddarparu'r rhyddhad hwn i drethdalwyr cymwys o 1 Ebrill 2026 ymlaen, am ba bynnag reswm, dylid ystyried hysbysu trethdalwyr cymwys eu bod yn gymwys i gael y rhyddhad, ac y bydd eu biliau'n cael eu hailgyfrifo.
Gofynnir i awdurdodau lleol nodi cyfanswm y rhyddhad a ddarperir o dan y cynllun yn eu ffurflenni NDR (NDR1 ac NDR3).
Ar gyfer hereditamentau ar y rhestr ardrethu ganolog, bydd Llywodraeth Cymru yn addasu biliau trethdalwyr yn awtomatig i gymhwyso'r rhyddhad trosiannol, pan fo'r meini prawf cymhwysedd wedi'u bodloni.
Bydd y rhyddhad trosiannol yn cyflwyno'n raddol y cynnydd mewn rhwymedigaeth NDR dros gyfnod o ddwy flynedd, drwy ddarparu rhyddhad i drethdalwyr o 67% o'u rhwymedigaeth uwch yn 2026-27 a 34% yn 2027-28. Erbyn dechrau 2028-29, bydd trethdalwyr yn talu eu bil llawn yn seiliedig ar ailbrisiad 2026.
Os bydd yr hereditament yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, yna caiff lefel y rhyddhad trosiannol sy'n gymwys ei phennu gan y camau isod. Mae rhai enghreifftiau ymarferol wedi'u cynnwys yn Atodiad 1.
Pennu'r rhwymedigaeth sylfaenol
Y rhwymedigaeth sylfaenol ("RhS") ar gyfer hereditament yw'r rhwymedigaeth flynyddol a gyfrifir yn seiliedig ar y swm a godir ar gyfer 31 Mawrth 2026. Cyfrifir RhS yn unol ag adran 43 (ar gyfer hereditamentau a feddiennir ar restr leol) neu adran 54 (ar gyfer hereditamentau ar restr ganolog) o Ddeddf 1988, er mwyn ystyried unrhyw ryddhad statudol a allai fod yn gymwys. Nid oes unrhyw gyfrifiad ar gyfer RhS yn seiliedig ar adran 45 o Ddeddf 1988 (ar gyfer hereditamentau heb eu meddiannu ar restr leol), gan nad yw hereditamentau heb eu meddiannu ar 31 Mawrth 2026 yn gymwys i gael rhyddhad trosiannol.
Pennu'r swm tybiannol a godir
Y swm tybiannol a godir ("STG") ar gyfer hereditament yw'r rhwymedigaeth flynyddol a gyfrifir yn seiliedig ar y swm a godir ar gyfer 1 Ebrill 2026. Cyfrifir STG yn unol ag adran 43, adran 45 neu adran 54 o Ddeddf 1988, fel y bo'n briodol, er mwyn ystyried unrhyw ryddhad statudol a allai fod yn gymwys. Mae adran 45 o Ddeddf 1988 yn berthnasol i gyfrifo STG, gan y gall hereditament heb ei feddiannu ar 1 Ebrill 2026 neu ar ôl hynny fod yn gymwys i gael rhyddhad trosiannol, ar yr amod ei fod wedi'i feddiannu ar 31 Mawrth 2026.
Cyfrifir STG yn seiliedig ar y sefyllfa ar 1 Ebrill 2026. Defnyddir hyn i bennu faint o ryddhad a fydd yn gymwys ym mhob blwyddyn o'r cynllun. Nid yw STG yn cael ei ailgyfrifo ar 1 Ebrill 2027. Effaith cyfrifo lefel y rhyddhad yn y modd hwn yw y bydd yn ofynnol i'r trethdalwr dalu costau unrhyw gynnydd mewn rhwymedigaeth oherwydd chwyddiant yn 2027-28, a adlewyrchir mewn unrhyw gynnydd yn y lluosydd. Mae'r rhyddhad a gyfrifir ar 1 Ebrill 2026 yn cael ei ddidynnu o'r swm a godir am y diwrnod perthnasol.
Dim ond os bydd gostyngiad yn y swm a godir (a gyfrifir yn unol ag adran 43, adran 45 neu adran 54 o Ddeddf 1988) ar gyfer hereditament yn ystod y cyfnod rhyddhad trosiannol y bydd STG yn cael ei ailgyfrifo. Gallai hyn ddigwydd, er enghraifft, o ganlyniad i gynnig neu apêl lwyddiannus i ostwng gwerth ardrethol yr hereditament. Mewn achos o'r fath, bydd STG yn cael ei ailgyfrifo gan ddefnyddio'r swm newydd a godir o'r dyddiad y caiff y newid effaith.
Cymharu'r rhwymedigaeth sylfaenol â'r swm tybiannol a godir
Mae gan yr hereditament hawl i ryddhad pan fo'r cynnydd mewn rhwymedigaeth yn fwy na £300:
STG > (RhS + 300)
Pan fodlonir yr amod hwn, cyfrifir yr uchafswm sydd i'w ddidynnu o'r swm a godir.
Pennu'r didyniad mwyaf o'r swm a godir
Mae'r swm a godir am NDR yn cael ei gyfrifo'n ddyddiol. Mae lefel ddyddiol uchaf y rhyddhad trosiannol sy'n gymwys ar gyfer y flwyddyn berthnasol yn cael ei chyfrifo gan ddefnyddio'r fformiwla isod.
Ar gyfer y flwyddyn sy'n dechrau â 1 Ebrill 2026:
(STG - RhS) x 0.67
365
Ar gyfer y flwyddyn sy'n dechrau â 1 Ebrill 2027 (sy'n gorgyffwrdd â blwyddyn naid):
(STG - RhS) x 0.34
366
Ar gyfer y flwyddyn sy'n dechrau â 1 Ebrill 2028 neu ar ôl hynny, mae'r swm a godir yn cael ei ostwng yn ôl sero drwy ryddhad trosiannol, er y gall rhyddhadau eraill barhau i fod yn gymwys.
Pennu'r swm a godir (rhwymedigaeth) heb ryddhad trosiannol
Cyfrifir y swm a godir am y diwrnod perthnasol yn unol ag adran 43, adran 45 neu adran 54 o Ddeddf 1988, fel y bo'n briodol. Bydd hyn yn ystyried unrhyw ryddhad gorfodol y mae'r trethdalwr yn gymwys i'w gael, cyn cymhwyso unrhyw ddidyniad pellach o'r swm a godir yn sgil hawl i ryddhad trosiannol.
Pennu'r swm a godir ar ôl rhyddhad trosiannol
Mae'r swm a godir heb ryddhad trosiannol yn cael ei ostwng gan y didyniad mwyaf o'r swm a godir, fel y cyfrifir uchod.
Os byddai cymhwyso'r didyniad mwyaf o'r swm a godir yn arwain at ffigur negyddol, yna bydd y swm terfynol a godir yn sero. Yn y senario hwn, bydd y swm terfynol o ryddhad a gymhwysir yn is na'r didyniad mwyaf a gyfrifir.
Os bydd y swm a godir ar gyfer eiddo cymwys yn gostwng yn ystod y cyfnod rhyddhad trosiannol, bydd yr hawl yn cael ei hailgyfrifo o'r dyddiad y caiff y gostyngiad effaith. Bydd hyn yn cynnwys ailgyfrifo STG a hawl i ryddhad trosiannol, yn unol â'r camau a nodir uchodd.
A yw rhyddhad trosiannol yn cael ei gymhwyso cyn neu ar ôl mathau eraill o ryddhad?
Mae'r swm a godir, cyn cymhwyso rhyddhad trosiannol, yn cael ei bennu yn unol â'r adran berthnasol o Ddeddf 1988 (e.e. adran 43 ar gyfer hereditamentau a feddiennir ar restr leol). Mae hyn yn golygu bod y rhyddhadau eraill a ddarperir o dan yr adran berthnasol yn cael eu cymhwyso i rwymedigaeth trethdalwr cyn y didyniad rhyddhad trosiannol a gyfrifwyd.
Dylai unrhyw ryddhad a ddarperir gan ddefnyddio pwerau dewisol awdurdodau lleol (e.e. o dan adran 47 o Ddeddf 1988) gael ei gymhwyso ar ôl unrhyw hawl i ryddhad trosiannol. Mae hyn yn cynnwys unrhyw elfen 'atodol' ddewisol o ryddhad gorfodol (e.e. unrhyw ryddhad elusennol ar ben yr 80% gorfodol a ddyfernir gan yr awdurdod lleol), gan fod hyn yn cael ei ddyfarnu o dan adran 47.
Mae dull cyfrifo'r hawl i ryddhad trosiannol (h.y. y didyniad mwyaf o'r swm a godir) yn ystyried unrhyw hawl i ryddhadau gorfodol a allai fod gymwys. Mae hwn yn gam sydd ar wahân i gyfrifo rhwymedigaeth cyn cymhwyso'r didyniad rhyddhad trosiannol.
Os ydw i'n peidio â bod y trethdalwr ar gyfer eiddo yn ystod y cyfnod rhyddhad trosiannol, a fydda i'n dal i gael rhyddhad am y cyfnod yr oeddwn yn atebol am NDR?
Byddwch. Mae hawl rhyddhad trosiannol yn cael ei chyfrifo'n ddyddiol (yr un fath â rhwymedigaeth NDR). Mae gan drethdalwr hawl i ryddhad am y diwrnodau y mae'n meddiannu eiddo, cyn belled mai ef hefyd oedd y meddiannydd ar 31 Mawrth 2026.
Os ydw i'n dod yn atebol am NDR ar gyfer eiddo nad oeddwn yn ei feddiannu o'r blaen yn ystod y cyfnod rhyddhad trosiannol, a fydda i'n gymwys i gael y rhyddhad?
Na fyddwch. Rhaid i drethdalwr fod wedi bod yn atebol am NDR mewn cysylltiad â'r eiddo ar 31 Mawrth 2026, yn ogystal ag o 1 Ebrill 2026 ymlaen, i fod yn gymwys i gael y rhyddhad.
A fydd hawl rhyddhad trosiannol yn cael ei hailgyfrifo yn 2027-28, i gyfrif am unrhyw gynnydd mewn rhwymedigaeth sy'n deillio o chwyddiant y lluosydd NDR?
Na fydd. Mae hawl rhyddhad trosiannol (h.y. y didyniad mwyaf o'r swm a godir) yn cael ei chyfrifo am ddwy flynedd y cynllun ar sail y sefyllfa ar 1 Ebrill 2026. Ni fydd yn cael ei hailgyfrifo ar 1 Ebrill 2027. Bydd y didyniad a fydd wedi'i gyfrifo ymlaen llaw yn cael ei gymhwyso i rwymedigaeth trethdalwr yn 2027-28, yn seiliedig ar y lluosydd perthnasol.
Dim ond os bydd y swm a godir ar gyfer yr eiddo yn gostwng neu os bydd y trethdalwr cymwys yn peidio â meddiannu'r eiddo y bydd yr hawl yn cael ei haddasu.
Os bydd gwerth ardrethol fy eiddo yn newid yn ystod y cyfnod rhyddhad trosiannol, a fydd fy hawl yn cael ei hailgyfrifo?
Os bydd y swm a godir ar gyfer eiddo cymwys yn gostwng yn ystod y cyfnod rhyddhad trosiannol, bydd yr hawl yn cael ei hailgyfrifo. Mae rhwymedigaeth NDR a hawl rhyddhad trosiannol yn cael eu cyfrifo'n ddyddiol a byddant yn cael eu hailgyfrifo o'r dyddiad y caiff y gostyngiad effaith, yn seiliedig ar y camau a nodir yn y canllawiau hyn. Ni fydd unrhyw ailgyfrifo'n digwydd os bydd y swm a godir ar gyfer eiddo cymwys yn cynyddu yn ystod y cyfnod rhyddhad trosiannol. Gall newidiadau i'r swm a godir ddigwydd am amryw o resymau.
Os bydd fy eiddo heb ei feddiannu, ond fi fydd y trethdalwr o hyd, beth fydd yr effaith ar fy hawl?
Os bydd eich eiddo wedi'i feddiannu ar 31 Mawrth a 1 Ebrill 2026, ond heb ei feddiannu ar ôl 1 Ebrill 2026, bydd gennych hawl o hyd i ryddhad trosiannol. Gall eiddo gwag gael rhyddhad llawn o NDR am dri mis (neu chwe mis ar gyfer eiddo diwydiannol) ar ôl iddo ddod yn eiddo sydd heb ei feddiannu, felly ni fydd y rhyddhad trosiannol yn cael unrhyw effaith ar rwymedigaeth yn ystod unrhyw gyfnod o'r fath. Byddech yn parhau i elwa ar ryddhad trosiannol os bydd eich eiddo'n parhau i fod heb ei feddiannu wedi hynny, neu os byddwch yn ailddechrau meddiannaeth (cyn belled mai'r un yw'r meddiannydd â'r meddiannydd ar 31 Mawrth 2026).
Beth alla i ei wneud os oes gen i reswm i gredu bod fy rhyddhad wedi cael ei gyfrifo'n anghywir?
Os oes gennych reswm i gredu bod y rhyddhad a ddyrannwyd i'ch eiddo neu fod eich bil NDR yn anghywir, dylech gysylltu â'r awdurdod lleol sy'n gweinyddu'ch rhyddhad neu'ch bil.
Beth ddylwn i ei wneud os ydw i eisiau deall gwerth ardrethol fy eiddo?
Un o Asiantaethau Gweithredol Cyllid a Thollau EF yw Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA). Mae'n gorff annibynnol ac mae'n gyfrifol am lunio a chynnal rhestrau ardrethu ar gyfer Cymru. Os ydych chi eisiau deall sut y pennwyd gwerth ardrethol eich eiddo neu os oes gennych ymholiad amdano, dylech gysylltu â'r VOA.
Atodiad 1 – Enghreifftiau
Mae gwerth ardrethol hereditament yn cynyddu o £6,000 i £9,000 ac mae hawl Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach (SBRR) yn cael ei gostwng. Mae'r hereditament yn ddarostyngedig i'r lluosydd manwerthu o 1 Ebrill 2026 ymlaen.
Pennu'r rhwymedigaeth sylfaenol
Ar 31 Mawrth 2026, mae'r hereditament yn gymwys am SBRR:
Swm dyddiol a godir: (£6,000 x 0.568) / (365 x 5,000,000) = £0
Rhwymedigaeth sylfaenol: £0 x 365 = £0
Pennu'r swm tybiannol a godir
Ar 1 Ebrill 2026, mae'r hereditament yn gymwys am SBRR:
Swm dyddiol a godir: (£9,000 x 0.35) / (365 x 2) = £4.32
Swm tybiannol a godir: £4.32 x 365 = £1,576.80
Cymharu'r rhwymedigaeth sylfaenol â'r swm tybiannol a godir
Gwirio a yw'r swm tybiannol a godir dros £300 yn fwy na'r rhwymedigaeth sylfaenol:
£1,576.80 – £0 = £1,576.80
Pennu'r didyniad mwyaf o'r swm a godir
Ar gyfer pob diwrnod yn y flwyddyn ariannol sy'n dechrau â 1 Ebrill 2026:
((£1,576.80 - £0) x 0.67) / 365 = £2.89
Ar gyfer pob diwrnod yn y flwyddyn ariannol sy'n dechrau â 1 Ebrill 2027:
((£1,576.80 - £0) x 0.34) / 366 = £1.46
Pennu'r swm a godir (rhwymedigaeth) heb ryddhad trosiannol
Y swm dyddiol a godir ar gyfer y flwyddyn ariannol sy'n dechrau â 1 Ebrill 2026 yw:
(9,000 x 0.35) / (365 x 2) = £4.32
Pennu'r swm a godir ar ôl rhyddhad trosiannol
Ar gyfer pob diwrnod yn y flwyddyn ariannol sy'n dechrau â 1 Ebrill 2026, caiff y swm dyddiol a godir ei ostwng i:
£4.32 – £2.89 = £1.43
Mae gwerth ardrethol hereditament yn cynyddu o £10,000 i £13,000 ac mae hawl SBRR yn cael ei dileu. Mae'r hereditament yn ddarostyngedig i'r lluosydd safonol o 1 Ebrill 2026 ymlaen.
Pennu'r rhwymedigaeth sylfaenol
Ar 31 Mawrth 2026, mae'r hereditament yn gymwys am SBRR:
Swm dyddiol a godir: (£10,000 x 0.568) / (365 x 1.5) = £10.37
Rhwymedigaeth sylfaenol: £10.37 x 365 = £3,785.05
Pennu'r swm tybiannol a godir
Ar 1 Ebrill 2026, nid yw'r hereditament yn gymwys am unrhyw ryddhad statudol:
Swm dyddiol a godir: (£13,000 x 0.502) / 365 = £17.88
Swm tybiannol a godir: £17.88 x 365 = £6,526.20
Cymharu'r rhwymedigaeth sylfaenol â'r swm tybiannol a godir
Gwirio a yw'r swm tybiannol a godir dros £300 yn fwy na'r rhwymedigaeth sylfaenol:
£6,526.20 – £3,785.05 = £2,741.15
Pennu'r didyniad mwyaf o'r swm a godir
Ar gyfer pob diwrnod yn y flwyddyn ariannol sy'n dechrau â 1 Ebrill 2026:
((£6,526.20 – £3,785.05) x 0.67) / 365 = £5.03
Ar gyfer pob diwrnod yn y flwyddyn ariannol sy'n dechrau â 1 Ebrill 2027:
((£6,526.20 – £3,785.05) x 0.34) / 366 = £2.55
Pennu'r swm a godir (rhwymedigaeth) heb ryddhad trosiannol
Y swm dyddiol a godir ar gyfer y flwyddyn ariannol sy'n dechrau â 1 Ebrill 2026 yw:
(13,000 x 0.502) / 365 = £17.88
Pennu'r swm a godir ar ôl rhyddhad trosiannol
Ar gyfer pob diwrnod yn y flwyddyn ariannol sy'n dechrau â 1 Ebrill 2026, caiff y swm dyddiol a godir ei ostwng i:
£17.88 – £5.03 = £12.85
Mae gwerth ardrethol hereditament yn cynyddu o £50,000 i £70,000. Mae'r hereditament yn ddarostyngedig i'r lluosydd safonol o 1 Ebrill 2026 ymlaen.
Pennu'r rhwymedigaeth sylfaenol
Ar 31 Mawrth 2026, nid yw'r hereditament yn gymwys am unrhyw ryddhad statudol arall:
Swm dyddiol a godir: (50,000 x 0.568) / 365 = £77.81
Rhwymedigaeth sylfaenol: £77.81 x 365 = £28,400.65
Pennu'r swm tybiannol a godir
Ar 1 Ebrill 2026, nid yw'r hereditament yn gymwys am unrhyw ryddhad statudol arall:
Swm dyddiol a godir: (70,000 x 0.502) / 365 = £96.27
Swm tybiannol a godir: £96.27 x 365 = £35,138.55
Cymharu'r rhwymedigaeth sylfaenol â'r swm tybiannol a godir
Gwirio a yw'r swm tybiannol a godir dros £300 yn fwy na'r rhwymedigaeth sylfaenol:
£35,138.55 – £28,400.65 = £6,737.90
Pennu'r didyniad mwyaf o'r swm a godir
Ar gyfer pob diwrnod yn y flwyddyn ariannol sy'n dechrau â 1 Ebrill 2026:
((£35,138.55 – £28,400.65) x 0.67) / 365 = £12.37
Ar gyfer pob diwrnod yn y flwyddyn ariannol sy'n dechrau â 1 Ebrill 2027:
((£35,138.55 – £28,400.65) x 0.34) / 366 = £6.26
Pennu'r swm a godir (rhwymedigaeth) heb ryddhad trosiannol
Y swm dyddiol a godir ar gyfer y flwyddyn ariannol sy'n dechrau â 1 Ebrill 2026 yw:
(70,000 x 0.502) / 365 = £96.27
Pennu'r swm a godir ar ôl rhyddhad trosiannol
Ar gyfer pob diwrnod yn y flwyddyn ariannol sy'n dechrau â 1 Ebrill 2026, caiff y swm dyddiol a godir ei ostwng i:
£96.27 – £12.37 = £83.90
Mae gwerth ardrethol hereditament yn cynyddu o £100,000 i £120,000. Mae'r hereditament yn ddarostyngedig i'r lluosydd uwch o 1 Ebrill 2026 ymlaen.
Pennu'r rhwymedigaeth sylfaenol
Ar 31 Mawrth 2026, nid yw'r hereditament yn gymwys am unrhyw ryddhad statudol arall:
Swm dyddiol a godir: (100,000 x 0.568) / 365 = £155.62
Rhwymedigaeth sylfaenol: £155.62 x 365 = £56,801.30
Pennu'r swm tybiannol a godir
Ar 1 Ebrill 2026, nid yw'r hereditament yn gymwys am unrhyw ryddhad statudol arall:
Swm dyddiol a godir: (120,000 x 0.515) / 365 = £169.32
Swm tybiannol a godir: £169.32 x 365 = £61,801.80
Cymharu'r rhwymedigaeth sylfaenol â'r swm tybiannol a godir
Gwirio a yw'r swm tybiannol a godir dros £300 yn fwy na'r rhwymedigaeth sylfaenol:
£61,801.80 – £56,801.30 = £5,000.50
Pennu'r didyniad mwyaf o'r swm a godir
Ar gyfer pob diwrnod yn y flwyddyn ariannol sy'n dechrau â 1 Ebrill 2026:
((£61,801.80 – £56,801.30) x 0.67) / 365 = £9.18
Ar gyfer pob diwrnod yn y flwyddyn ariannol sy'n dechrau â 1 Ebrill 2027:
((£61,801.80 – £56,801.30) x 0.34) / 366 = £4.65
Pennu'r swm a godir (rhwymedigaeth) heb ryddhad trosiannol
Y swm dyddiol a godir ar gyfer y flwyddyn ariannol sy'n dechrau â 1 Ebrill 2026 yw:
(120,000 x 0.515) / 365 = £169.32
Pennu'r swm a godir ar ôl rhyddhad trosiannol
Ar gyfer pob diwrnod yn y flwyddyn ariannol sy'n dechrau â 1 Ebrill 2026, caiff y swm dyddiol a godir ei ostwng i:
£169.32 – £9.18 = £160.14
Mae gwerth ardrethol hereditament yn cynyddu o £15,000 i £25,000. Mae'r hereditament yn gymwys am ryddhad elusennol. Mae'n ddarostyngedig i'r lluosydd safonol o 1 Ebrill 2026 ymlaen.
Pennu'r rhwymedigaeth sylfaenol
Ar 31 Mawrth 2026, mae'r hereditament yn gymwys i gael rhyddhad elusennol o 80%:
Swm dyddiol a godir: (£15,000 x 0.568) / (365 x 5) = £4.67
Rhwymedigaeth sylfaenol: £4.67 x 365 = £1,704.55
Pennu'r swm tybiannol a godir
Ar 1 Ebrill 2026, mae'r hereditament yn gymwys i gael rhyddhad elusennol o 80%:
Swm dyddiol a godir: (£25,000 x 0.502) / (365 x 5) = £6.88
Swm tybiannol a godir: £6.88 x 365 = £2,511.20
Cymharu'r rhwymedigaeth sylfaenol â'r swm tybiannol a godir
Gwirio a yw'r swm tybiannol a godir dros £300 yn fwy na'r rhwymedigaeth sylfaenol:
£2,511.20 – £1,704.55 = £806.65
Pennu'r didyniad mwyaf o'r swm a godir
Ar gyfer pob diwrnod yn y flwyddyn ariannol sy'n dechrau â 1 Ebrill 2026:
((£2,511.20 – £1,704.55) x 0.67) / 365 = £1.48
Ar gyfer pob diwrnod yn y flwyddyn ariannol sy'n dechrau â 1 Ebrill 2027:
((£2,511.20 – £1,704.55) x 0.34) / 366 = £0.75
Pennu'r swm a godir (rhwymedigaeth) heb ryddhad trosiannol
Y swm dyddiol a godir ar gyfer y flwyddyn ariannol sy'n dechrau â 1 Ebrill 2026 yw:
(25,000 x 0.502) / (365 x 5) = £6.88
Pennu'r swm a godir ar ôl rhyddhad trosiannol
Ar gyfer pob diwrnod yn y flwyddyn ariannol sy'n dechrau â 1 Ebrill 2026, caiff y swm dyddiol a godir ei ostwng i:
£6.88 – £1.48 = £5.40
Dyma'r swm dyddiol a godir cyn cymhwyso unrhyw ryddhad elusennol 'atodol' (h.y. ar ben yr 80% gorfodol) a ddyfernir yn ôl disgresiwn yr awdurdod lleol.
Mae gwerth ardrethol hereditament yn cynyddu o £15,000 i £20,000. Daw'r hereditament i fod heb ei feddiannu yn ystod y flwyddyn sy'n dechrau â 1 Ebrill 2026 ac yn gymwys am ryddhad eiddo gwag. Mae'n ddarostyngedig i'r lluosydd safonol o 1 Ebrill 2026 ymlaen.
Pennu'r rhwymedigaeth sylfaenol
Ar 31 Mawrth 2026, mae'r hereditament wedi'i feddiannu ac nid yw'n gymwys am unrhyw ryddhad statudol arall:
Swm dyddiol a godir: (£15,000 x 0.568) / 365 = £23.34
Rhwymedigaeth sylfaenol: £23.34 x 365 = £8,519.10
Pennu'r swm tybiannol a godir
Ar 1 Ebrill 2026, mae'r hereditament wedi'i feddiannu ac nid yw'n gymwys am unrhyw ryddhad statudol arall:
Swm dyddiol a godir: £20,000 x 0.502 / 365 = £27.51
Swm tybiannol a godir: £27.51 x 365 = £10,041.15
Cymharu'r rhwymedigaeth sylfaenol â'r swm tybiannol a godir
Gwirio a yw'r swm tybiannol a godir dros £300 yn fwy na'r rhwymedigaeth sylfaenol:
£10,041.15 – £8,519.10 = £1,522.05
Pennu'r didyniad mwyaf o'r swm a godir
Ar gyfer pob diwrnod yn y flwyddyn ariannol sy'n dechrau â 1 Ebrill 2026:
((£10,041.15 – £8,519.10) x 0.67) / 365 = £2.79
Ar gyfer pob diwrnod yn y flwyddyn ariannol sy'n dechrau â 1 Ebrill 2027:
((£10,041.15 – £8,519.10) x 0.34) / 366 = £1.41
Pennu'r swm a godir (rhwymedigaeth) heb ryddhad trosiannol
Ar gyfer pob diwrnod yn y flwyddyn ariannol sy'n dechrau â 1 Ebrill 2026, pan fo rhyddhad eiddo gwag yn gymwys, y swm dyddiol a godir yw £0.
Ar gyfer unrhyw ddiwrnod arall yn y flwyddyn ariannol sy'n dechrau â 1 Ebrill 2026, y swm dyddiol a godir yw:
(20,000 x 0.502) / 365 = £27.51
Pennu'r swm a godir ar ôl rhyddhad trosiannol
Ar gyfer pob diwrnod yn y flwyddyn ariannol sy'n dechrau â 1 Ebrill 2026, pan fo rhyddhad eiddo gwag yn gymwys, y swm dyddiol a godir yw:
£0 – £2.79 < £0
Gan na all y swm a godir fod yn negyddol, mae'n cael ei bennu'n sero.
Ar gyfer unrhyw ddiwrnod arall yn y flwyddyn ariannol sy'n dechrau â 1 Ebrill 2026, caiff y swm dyddiol a godir ei ostwng i:
£27.51 – £2.79 = £24.72