Ardrethi Annomestig – Dyletswydd i roi gwybod i awdurdodau lleol am newidiadau mewn amgylchiadau

Gair am y canllawiau

Mae'r ddogfen hon yn darparu canllawiau ar y ddyletswydd ar dalwyr ardrethi i ddarparu gwybodaeth i awdurdodau lleol am newidiadau penodol mewn amgylchiadau at ddibenion ardrethi annomestig (ardrethi busnes). Mae’r canllawiau hyn yn berthnasol i Gymru yn unig.

Dylid anfon ymholiadau ynglŷn â'r ddyletswydd i'r awdurdod lleol perthnasol. Mae manylion cyswllt awdurdodau lleol i'w gweld ar dudalen we Busnes Cymru.

Dylid anfon unrhyw ymholiadau ynglŷn â'r canllawiau hyn i: PolisiTrethiLleol@llyw.cymru 

Mae rhagor o wybodaeth am ardrethi annomestig ar gael ar ein tudalennau gwe Busnes Cymru

Rhagair

Nid oedd yn ofynnol yn flaenorol i dalwyr ardrethi roi gwybod i awdurdodau lleol am newidiadau i amgylchiadau a fyddai’n effeithio ar eu hatebolrwydd ardrethi annomestig. Roedd lleiafrif o dalwyr ardrethi yn dal gwybodaeth yn ôl yn fwriadol, os oeddent yn credu y byddai hyn yn eu helpu i osgoi neu leihau eu hatebolrwydd. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i leihau’r cyfleoedd ar gyfer osgoi yn y system ardrethi annomestig.

Rydym wedi creu dyletswydd i dalwyr ardrethi roi gwybod i awdurdodau lleol am newidiadau penodol mewn amgylchiadau. Y nod yw sicrhau bod newidiadau a allai effeithio ar bwy sy'n atebol am atebolrwydd ardrethi annomestig a'r swm y maent yn atebol amdano yn cael eu dwyn i sylw awdurdodau lleol mewn modd amserol. Bydd hyn yn gwella cywirdeb biliau ardrethi annomestig ac yn lleihau’r posibilrwydd o osgoi.

Mae'r ddyletswydd yn gymwys o 1 Ebrill 2026 ymlaen, fel sy'n ofynnol gan Reoliadau Ardrethu Annomestig (Darparu Gwybodaeth am Newidiadau mewn Amgylchiadau) (Cymru) 2026. Mae'r Rheoliadau yn nodi manylion y ddyletswydd, cosbau am beidio â chadw at y ddyletswydd, a phrosesau ar gyfer adolygu ac apelio yn erbyn cosbau. 

Y ddyletswydd

Mae'r ddyletswydd yn canolbwyntio ar hunaniaeth y talwr ardrethi ac a yw'r eiddo wedi'i feddiannu, gan fod yr wybodaeth sylfaenol hon yn hanfodol i awdurdodau lleol gyflawni eu swyddogaethau bilio a chasglu. Mae'n ei gwneud yn ofynnol i berson (“P”) sy’n dalwr ardrethi ar gyfer eiddo yng Nghymru roi gwybod i’r awdurdod lleol perthnasol am y newidiadau canlynol:

  • Mae hunaniaeth P yn newid. Mae hyn yn golygu bod rhaid i P hysbysu’r awdurdod bilio mai nhw yw’r talwr ardrethi newydd ar gyfer yr eiddo.
  • P yw’r meddiannydd yn awr ac roedd yr eiddo heb ei feddiannu yn union cyn y newid. Mae hyn yn golygu bod rhaid i P hysbysu’r awdurdod bilio os yw'n meddiannu eiddo a oedd yn wag yn flaenorol (pa un a oedd eisoes yn dalwr ardrethi fel perchennog yr eiddo gwag).
  • Mae person (a all fod yn P neu dalwr ardrethi blaenorol) yn peidio â bod yn feddiannydd ac mae'r eiddo heb ei feddiannu yn syth ar ôl y newid. Mae hyn yn golygu y bydd rhaid i P, fel perchennog yr eiddo gwag, roi gwybod i’r awdurdod bilio nad yw’n cael ei feddiannu mwyach (p’un ai P oedd y talwr ardrethi eisoes ai peidio, fel y meddiannydd blaenorol).  

Pan fydd un neu fwy o'r newidiadau hyn mewn amgylchiadau wedi digwydd, rhaid i'r talwr ardrethi gadarnhau hyn i'r awdurdod lleol, ynghyd â dyddiad y newid. Rhaid rhoi'r wybodaeth hon yn ysgrifenedig o fewn 60 niwrnod ar ôl gwneud y newid perthnasol.

Mae'r broses ar gyfer cydymffurfio â'r ddyletswydd yn syml. Er enghraifft, byddai e-bost byr yn cadarnhau'r manylion perthnasol yn ddigonol. Mae manylion cyswllt awdurdodau lleol i'w gweld ar dudalen we Busnes Cymru

Cosbau

Gall yr awdurdod lleol osod cosb o £500 am fethu â chydymffurfio â'r ddyletswydd. Mewn achos o'r fath, bydd yr awdurdod lleol yn cyflwyno hysbysiad o gosb, gan ei gwneud yn ofynnol bod taliad yn cael ei wneud o fewn 21 diwrnod. Os nad yw’r gosb yn cael ei thalu, gallai’r awdurdod bilio ei hadennill fel dyled sifil, ond ni ellid gwneud hawliad o’r fath cyn i apêl (os gwneir un) yn erbyn yr hysbysiad o gosb ddod i ben.

Gall cosb ar wahân gael ei rhoi ar euogfarn ddiannod heb fod yn fwy na lefel 3 ar y raddfa safonol (£1,000) am ddarparu gwybodaeth ffug yn ymwybodol neu’n fyrbwyll. 

Adolygiadau

Gall person ofyn am adolygiad o gosb am fethu â chydymffurfio â'r ddyletswydd. Rhaid gwneud y cais hwn i'r awdurdod lleol perthnasol o fewn 30 diwrnod o ddyddiad yr hysbysiad o gosb.

O fewn 30 diwrnod i ddyddiad y cais am adolygiad, rhaid i'r awdurdod lleol hysbysu'r person bod yr hysbysiad o gosb naill ai wedi'i gadarnhau, ei leihau neu ei ddileu’n gyfan gwbl (wedi'i ganslo). Os na ddarperir hysbysiad o'r fath, ystyrir bod yr hysbysiad o gosb wedi'i gadarnhau. Pan fydd yr adolygiad yn dod i'r casgliad y dylid lleihau swm y gosb neu ei ddileu’n llawn, rhaid i'r awdurdod lleol gyflwyno hysbysiad arall o gosb sy'n cynnwys y swm diwygiedig, ac ad-dalu unrhyw swm cosb sydd wedi'i ordalu i'r person o fewn 21 diwrnod. 

Apelau

Os caiff cosb ei chadarnhau neu ei lleihau yn dilyn adolygiad, bydd y person yn gallu apelio yn erbyn yr hysbysiad o gosb neu hysbysiad cosb pellach, o fewn 30 diwrnod i'r dyddiad y caiff ei hysbysu o ganlyniad yr adolygiad. Rhaid gwneud apelau i Dribiwnlys Prisio Cymru a chynnwys datganiad o'r rhesymau pam bod yr apelydd o'r farn na ddylai'r awdurdod lleol fod wedi cyhoeddi'r hysbysiad. Gellir gwneud apêl pellach i'r Uwch Dribiwnlys mewn perthynas â phenderfyniad gan Dribiwnlys Prisio Cymru o fewn 28 diwrnod. 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.