Ardrethi Annomestig – Lluosyddion

Gair am y canllawiau

Mae’r ddogfen hon yn darparu canllawiau ar weithredu a chyflwyno lluosyddion gwahaniaethol ar gyfer ardrethi annomestig (ardrethi busnes). Mae’r canllawiau hyn yn berthnasol i Gymru yn unig.

Nid ydynt yn disodli unrhyw ddeddfwriaeth bresennol sy’n ymwneud ag ardrethi annomestig. Dylid anfon unrhyw ymholiadau ynglŷn â’r canllawiau hyn i: PolisiTrethiLleol@llyw.cymru.

Mae rhagor o wybodaeth am ardrethi annomestig ar gael ar ein tudalennau gwe Busnes Cymru.

Cyflwyniad

Mae ardrethi annomestig, sydd hefyd yn cael eu galw yn ardrethi busnes, yn cael eu cyfrifo gan ddefnyddio dau newidyn:

  • gwerth ardrethol eiddo, sy’n cael ei bennu gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio;
  • y lluosydd perthnasol, sy’n cael ei osod yn flynyddol ac sydd fel arfer yn cynyddu yn unol â chwyddiant oni bai bod Llywodraeth Cymru yn penderfynu fel arall.

Ar gyfer blwyddyn ariannol 2025-26, y lluosydd sy’n gymwys i bob eiddo yng Nghymru yw 0.568.

O 1 Ebrill 2026, mae tri lluosydd a all fod yn gymwys i eiddo yng Nghymru. Mae’r lluosyddion dros dro a gyhoeddwyd ar gyfer 2026-27 fel a ganlyn:

  • lluosydd manwerthu o 0.350, sy’n berthnasol i siopau manwerthu bach a chanolig eu maint sydd â gwerth ardrethol o dan £51,000;
  • lluosydd safonol o 0.502, sy’n berthnasol i’r mwyafrif o eiddo arall;
  • lluosydd uwch o 0.515, sy’n berthnasol i eiddo sydd â gwerth ardrethol dros £100,000.

Ar ôl cyfrifo atebolrwydd gros drwy gyfuno’r gwerth ardrethol a’r lluosydd perthnasol, gellir ei leihau o ganlyniad i ryddhad. Mae rhagor o wybodaeth am yr amrediad o ryddhad ardrethi annomestig sydd i’w gael ar gael ar ein tudalennau gwe Busnes Cymru.  


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.