Ardrethi Annomestig ar gyfer Eiddo Hunanddarpar yng Nghymru

Canllawiau 

Gair am y canllawiau hyn 

Diben y canllawiau hyn yw darparu cyngor i dalwyr adrethi a allai fod yn agored i dalu ardrethi annomestig ar eiddo sy’n cael ei osod yn fasnachol am gyfnodau byr fel llety hunanddarpar (“eiddo hunanddarpar”). Dim ond ar gyfer eiddo hunanddarpar yng Nghymru y mae’r canllawiau hyn yn gymwys.

Mae’r canllawiau hyn yn nodi’r ddeddfwriaeth a ddefnyddir i bennu sut y caiff eiddo hunanddarpar ei ddosbarthu at ddibenion trethiant lleol. Maent yn esbonio’r meini prawf a nodir yn y ddeddfwriaeth a hefyd yn darparu cyngor arall perthnasol i drethdalwyr. Nid yw’r canllawiau hyn yn disodli’r ddeddfwriaeth bresennol.

Dylid anfon unrhyw ymholiadau am y ddeddfwriaeth i: polisitrethilleol@llyw.cymru

Mae gwybodaeth gyffredinol am ardrethi annomestig ar gael ar wefan Busnes Cymru.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.