Hoffai Llywodraeth Cymru wahodd eich cwmni i gymryd rhan yn ei hymweliad marchnad allforio â Singapore a Kuala Lumpur, Malaysia.

Pam Malaysia a Singapore?

Singapore
Dinas-wladwriaeth fach, ond gyfoethog, yw Singapore. Mae’n ganolfan fusnes flaenllaw ar lefel fyd-eang ac yn ganolfan ariannol, morgludo a masnachu i ranbarth Asia a’r Môr Tawel. Mae gan Singapore economi agored sy’n cael ei gyrru gan fasnach ac mae’n cynnig cyfleoedd allforio da i fusnesau o Gymru. 

Malaysia
Mae gan Malaysia economi agored sydd wedi tyfu ers 1970, gan berfformio’n well na'r rhan fwyaf o’i chymdogion yn y rhanbarth. Wrth i’r economi barhau i dyfu a datblygu, mae Malaysia yn cynnig cyfleoedd allforio da i fusnesau o Gymru. 

Pam Mynd ar yr Ymweliad? 
Bydd yn rhoi’r cyfle i chi i arddangos eich cwmni, meithrin cysylltiadau gwerthfawr a sefydlu eich allforion yn y farchnad hon.
 
Drwy fod yn rhan o’r ymweliad, byddwch yn elwa ar y canlynol:

  • Ffordd gost effeithiol o ymweld â'r farchnad. 
  • Rhwydweithio a chysylltu â busnesau a gwneuthurwyr penderfyniadau allweddol yn y farchnad
  • Rhannu gwybodaeth gydag eraill sy’n cymryd rhan
  • Help gyda’r trefniadau teithio drwy asiant teithio penodedig
  • Mynd i ddigwyddiadau rhwydweithio
  • Cael eich cynnwys mewn unrhyw ddeunydd marchnata

Y Gost
Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth* i gwmnïau i gymryd rhan yn yr ymweliad hwn â marchnad allforio. Mae’r cynnig hwn ar gael i un cynrychiolydd o bob cwmni a’r gost yw £1,600. Mae hyn yn cynnwys:

  • Hedfan allan ac yn ôl
  • Trosglwyddiadau o fewn y farchnad
  • Llety am 6 noson gyda brecwast (Dydd Sul – Dydd Gwener)
  • Mynd i ddigwyddiadau o fewn y farchnad
  • Cael eich cynnwys mewn unrhyw ddeunydd marchnata

Cynigir y cyfle hwn i un cynrychiolydd yn unig o bob cwmni.

Manylion Y Digwyddiad
Pryd - 15-22 Chwefror 2025
Sectorau – Aml-sector
Ble – Singapore a Kuala Lumpur, Malaysia 

Trefn 
15 Chwefror – Gadael am Singapore 
15-19 Chwefror – Cyfle i gwmnïau drefnu eu cyfarfodydd eu hunain / dilyn rhaglen wedi’i threfnu o gyfarfodydd yn Singapore 
19 Chwefror – Gadael am Kuala Lumpur, Malaysia 
19-21 Chwefror – Cyfle i gwmnïau drefnu eu cyfarfodydd eu hunain / dilyn rhaglen wedi’i threfnu o gyfarfodydd yn Kuala Lumpur, Malaysia 
21 Chwefror – Dychwelyd i Gymru, glanio yn Heathrow, Llundain ar 22 Chwefror 

Trefniant Gwasanaeth CyfarfodyddOs hoffech wneud y gorau o'ch amser yn y digwyddiad, gallwn gynnig cymorth i drefnu rhaglen o 3-4 cyfarfod i chi gan un o'n hymgynghorwyr busnes. Gallwn drefnu hyn am £500 neu fwy. 

Sylwch, os hoffech y gefnogaeth hon, yna rhaid i chi gyflwyno eich cais 12 wythnos cyn bod yr ymweliad â’r farchnad allforio neu'r arddangosfa yn ymadael. 
Os cyflwynir eich cais ar ôl 6 Rhagfyr, yna ni allwn warantu bod digon o amser i ddarparu'r cymorth ychwanegol hwn yn effeithiol. 

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau:
6 Rhagfyr 2024 (Teithio a chyfarfodydd a drefnwyd ymlaen llaw)
3 Ionawr 2025 (Teithio yn unig)

Unwaith y byddwch wedi cyflwyno eich cais byddwch yn derbyn e-bost yn cadarnhau o fewn 24 awr - os nad ydych yn derbyn yr e-bost yma neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am y daith fasnach cysylltwch â'n blwch Masnach Ryngwladol - internationaltrade@llyw.cymru

*Dim ond i’r rheini sy’n gymwys.