Newyddion

Arloesedd Cymru yn gosod y llwyfan ar gyfer Cenhadaeth Masnach a Diwylliant y Gweinidog yn yr Unol Daleithiau

Welsh and USA Flag

Bydd y Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon, Heledd Fychan, yn teithio i Efrog Newydd a Washington D.C. wythnos yma ar ymweliad trawsatlantig cyntaf Llywodraeth newydd Cymru, gan ddefnyddio dylanwad a chryfder diwylliannol a chreadigol Cymru i greu cyfleoedd newydd ar gyfer masnach, buddsoddi a chydweithio â'r Unol Daleithiau.

Bydd yr ymweliad yn gosod diwylliant, technoleg ac arloesedd wrth wraidd diplomyddiaeth economaidd Cymru, gan arddangos cryfderau'r wlad wrth hyrwyddo Cymru fel cyrchfan o ddewis i fusnesau a buddsoddwyr Americanaidd.

Un o themâu canolog yr ymweliad fydd "Codi Pontydd Digidol", gan ddangos sut y gall creadigrwydd, technoleg a diwylliant Cymru gyrraedd cynulleidfaoedd rhyngwladol newydd.

Am fwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen hon: Codi Pontydd Digidol: Arloesedd Cymru yn gosod y llwyfan ar gyfer Cenhadaeth Masnach a Diwylliant y Gweinidog yn yr Unol Daleithiau | LLYW.CYMRU.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.