Newyddion

Dysgwch am gyfleoedd newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer Allforio

Abu Dhabi

Yr hydref hwn, mae Llywodraeth Cymru yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd i fusnesau yng Nghymru atgyfnerthu eu capasiti allforio, ac archwilio marchnadoedd rhyngwladol newydd drwy raglen o ddigwyddiadau allforio, ymweliadau marchnad ac arddangosfeydd masnach dramor.

P'un a ydych yn cymryd eich camau cyntaf ym maes allforio, neu'n ystyried ehangu eich cyrhaeddiad rhyngwladol, mae'r digwyddiadau hyn yn darparu cyfleoedd gwerthfawr i gael dealltwriaeth o'r farchnad, datblygu cysylltiadau busnes newydd a nodi cyfleoedd i gynyddu eich allforio. 

Digwyddiadau Tramor – Ymunwch â Thîm Cymru yn y digwyddiadau rhyngwladol canlynol:

  • MRO Ewrop – Amsterdam, yr Iseldiroedd 27 i 29 Hydref 2026
  • ADIPEC 2026 – Abu Dhabi, 31 Hydref i 6 Tachwedd 2026
  • MEDICA 2026 – Düsseldorf, yr Almaen, 15 i 16 Tachwedd 2026  

Mae ein digwyddiadau allforio, ymweliadau â'r farchnad ac arddangosfeydd masnach wedi'u cynllunio i helpu busnesau Cymru i ddeall y farchnad, gwneud cysylltiadau rhyngwladol gwerthfawr a nodi cyfleoedd ar gyfer twf.

Seminarau a Gweminarau Allforio – Osydych newydd i faes allforio, yn ystyried diweddaru eich gwybodaeth neu'n chwilio am arweiniad ar bynciau allforio penodol, beth am ymuno ag un o digwyddiadau sydd ar ddod?

  • Tyfu Eich Busnes Drwy Fasnach Ryngwladol – Abertawe, 30 Medi 2026, 9.30am i 12.30 pm
  • Cael gafael ar Gyllid i Allforwyr – Caerdydd, 14 Hydref 2026, 9.30am i 1.30 pm

Mae'r sesiynau hyn yn darparu cyngor ymarferol, arweiniad arbenigol a dealltwriaeth werthfawr i helpu busnesau i lywio maes masnach ryngwladol yn llwyddiannus.

Ymunwch â Thîm Cymru yr Hydref hwn – Blebynnag rydych chi ar eich taith ym maes allforio, mae Tîm Allforio Llywodraeth Cymru yma i helpu. O ddatblygu sgiliau a gwybodaeth allforio i nodi cyfleoedd mewn marchnadoedd rhyngwladol, gallant gefnogi eich busnes i gyflawni ei uchelgeisiau allforio.

Ewch i dudalen Digwyddiadau Allforio Busnes Cymru i weld y cyfleoedd diweddaraf a gwneud cais heddiw:


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.