Newyddion

Annog defnyddwyr y Gwasanaeth Cymorth i Fasnachwyr i baratoi ar gyfer y platfform newydd

Shipping containers

Mae angen i fusnesau sydd wedi cofrestru ar gyfer y Gwasanaeth Cymorth i Fasnachwyr (TSS) baratoi i symud i'r platfform newydd cyn 20 Hydref 2026 i sicrhau eu bod yn gallu parhau i symud nwyddau rhwng Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon.

Mae TSS yn blatfform digidol rhad ac am ddim sy'n rhoi cefnogaeth o'r dechrau i'r diwedd i fusnesau sy'n symud nwyddau rhwng Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon, gan eu helpu i gydymffurfio â Fframwaith Windsor.

O 1 Hydref 2026 bydd busnesau sy'n defnyddio TSS ar hyn o bryd yn cael negeseuon e-bost gyda chyfarwyddiadau ar sut i gofrestru ymlaen llaw ar gyfer y platfform newydd. Byddant hefyd yn cael cyfarwyddiadau ar gyfer defnyddio amgylchedd prawf lle gallant ymgyfarwyddo â sut mae'r platfform yn gweithio.

Rhaid cyflwyno pob symudiad nwyddau sy'n digwydd ar neu ar ôl 20 Hydref 2026 i’r platfform newydd. Ni fydd y TSS presennol yn derbyn symudiadau newydd o'r dyddiad hwn.

Am ragor o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen hon: Trader Support Service users urged to prepare for new platform - GOV.UK.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.