Hoffai Llywodraeth Cymru wahodd eich cwmni i gymryd rhan yn ei hymweliad marchnad allforio â Dubai, Emiradau Arabaidd Unedig.
Pam Emiradau Arabaidd Unedig?   
Mae'r Emiradau Arabaidd Unedig (UAE) yn farchnad fywiog a deinamig, ac mae'n cynnwys y 10 marchnad uchaf ar gyfer Allforion Cymru, gyda Dubai yn brif ffocws i fusnesau. 
Mae Dubai yn parhau i dyfu ac arallgyfeirio, ac mae nid yn unig yn llwybr mynediad mawr i ranbarth y Gwlff ond mae bellach yn ganolfan gymudo ar gyfer y Dwyrain Canol a Gogledd Affrica yn ehangach. 
Mae Dubai yn cynnig cyfleoedd allforio da i fusnesau Cymru ym mhob sector blaenoriaeth; gweithgynhyrchu gwerth uchel, technoleg, gwyddor bywyd, cynhyrchion defnyddwyr, ynni glân a bwyd a diod.
Pam Mynd ar yr Ymweliad? 
Bydd yn rhoi’r cyfle i chi i arddangos eich cwmni, meithrin cysylltiadau gwerthfawr a sefydlu eich allforion yn y farchnad hon.
Drwy fod yn rhan o’r ymweliad, byddwch yn elwa o’r canlynol:
- Ffordd gost effeithiol o ymweld â'r farchnad.
 - Rhwydweithio a chysylltu â busnesau a gwneuthurwyr penderfyniadau allweddol yn y farchnad
 - Rhannu gwybodaeth gydag eraill sy’n cymryd rhan
 - Help gyda’r trefniadau teithio drwy asiant teithio penodedig
 - Mynd i ddigwyddiadau rhwydweithio
 - Cael eich cynnwys mewn unrhyw ddeunydd marchnata
 
Y Gost
Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi* cwmnïau i gymryd rhan yn yr ymweliad hwn â'r farchnad allforio.
Y gost yw £1,250 y person. Mae'r cynnig hwn ar gael i un cynrychiolydd o bob cwmni a mae hyn yn cynnwys:
- Y daith yn ôl ar yr awyren
 - Trosglwyddiadau yn y farchnad
 - Llety am 6 noson gyda brecwast (dydd Sadwrn i ddydd Sadwrn)
 - Mynediad at ddigwyddiadau yn y farchnad
 - Cael eich cynnwys mewn unrhyw ddeunydd marchnata
 
Manylion y Digwyddiad
Pryd: 27 Ionawr – 2 Chwefror 2024
Sectorau: Pob sectorau
Ble: Dubai
Trefn
27 Ionawr– Gadael am Dubai
28 Ionawr - 1 Chwefror  – Cyfle i gwmnïau drefnu eu cyfarfodydd eu hunain / dilyn rhaglen wedi’i threfnu o gyfarfodydd
2 Chwefror – Nôl i Gymru
Gwasanaeth Trefnu Cyfardodydd (ITO)
Os hoffech elwa i’r eithaf ar eich amser yn y digwyddiad gallwn gynnig cymorth drwy raglen o 3-4 o gyfarfodtydd ar eich cyfer a fydd wedi’u trefnu gan un o’n hymgynghorwyr busnes. Gallwn drefnu hyn am £500 neu fwy.
Nodwch: Os hoffech fanteisio ar y cymorth hwn, mae’n rhaid i chi gyflwyno eich cais 10 wythnos cyn yr ymweliad neu’r arddangosfa. Os caiff eich cais ei gyflwyno ar ôl 10 Tachwedd 2023 ni allwn warantu y bydd digon o amser i gynnig y cymorth ychwanegol hwn i chi.