Mae CPS Group (UK) Ltd, sef busnes yng Nghaerdydd sy’n arbenigo mewn TG a recriwtio technegol, (sy’n gweithio o fewn y farchnad cyflogi staff parhaol a staff dan gontract) wedi derbyn pecyn cymorth arbenigol ar wybodaeth am y farchnad gan y Rhaglen Cyflymu Twf. Golyga hyn y bydd 19 o swyddi newydd yn cael eu creu. Mae 3 o’r swyddi hyn yn cynnig cyflogau sydd uwchlaw’r cyflog cenedlaethol cyfartalog.