Cefnogi’r Economi Sylfaenol yng Nghymru
Mae economi sylfaenol ffyniannus yn hanfodol ar gyfer Cymru lewyrchus a gwydn, gyda 60% o fusnesau Cymru a thros hanner y gweithlu yn rhan ohono. Mae’r economi sylfaenol yn cwmpasu’r nwyddau a’r gwasanaethau bob dydd yr ydym yn dibynnu arnynt, o sectorau megis gofal ac iechyd, bwyd, tai, ynni, adeiladu, trafnidiaeth, manwerthu a thwristiaeth.
Mae Busnes Cymru yma i gefnogi’ch busnes yn y sectorau hanfodol hyn, gan ddarparu adnoddau i’ch helpu i feithrin arloesedd a chynaliadwyedd.
Pam rhoi Ffocws ar yr Economi Sylfaenol?
Mae’r economi sylfaenol yn ganolog i strategaeth economaidd Cymru, gan ei bod yn cynrychioli 47% o’r holl drosiant busnes yng Nghymru. Mae hefyd yn ymdrin â heriau mawr sy’n cael effaith ar bob un ohonom, fel mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd, creu swyddi lleol, sicrhau gwaith teg, hyrwyddo arloesedd, datblygu sgiliau ar gyfer y dyfodol, a meithrin seilwaith trafnidiaeth a digidol cryf. Yn ogystal, mae’n chwarae rôl fawr mewn creu system fwyd gadarn a chryfhau’r cadwyni cyflenwi lleol, sy’n allweddol i gefnogi economi ac amgylchedd Cymru.
Mae Busnes Cymru, mewn cydweithrediad ag arbenigwyr economi sylfaenol, yn darparu cymorth penodol i’r sector i helpu busnesau ragori yn y meysydd hyn. Mae ein mentrau yn cynnwys meithrin cadwyni bwyd lleol drwy ddigwyddiadau “Cwrdd â’r Prynwyr”, gan gyd-fynd â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015, a chefnogi trefniadau cyflenwi bwyd o fewn y sector cyhoeddus i gynyddu faint o fwyd cynaliadwy o Gymru sy’n cael ei weini. Drwy gymryd rhan, caiff eich busnes fynediad at adnoddau wedi’u teilwra i helpu i wneud yn fawr o’ch gallu i gynnig am gontractau sector cyhoeddus a'u hennill, cynyddu eich sylfaen cwsmeriaid a chael effaith gadarnhaol ar economi Cymru.