Ydych chi’n berchennog busnes yng Nghymru sy’n awyddus i fanteisio ar farchnadoedd newydd? Mae cefnogi cadwyni cyflenwi lleol yn allweddol i gryfhau economi Cymru, a gall eich busnes fod yn rhan hanfodol ohono.
Mae Busnes Cymru, mewn partneriaeth â thîm Economi Sylfaenol Llywodraeth Cymru, wedi bod yn gweithio i helpu i gysylltu busnesau gyda chyfleoedd lleol.
Drwy fentrau fel Arddangosfeydd Cyflenwyr a digwyddiadau “Cwrdd â'r Prynwr” Busnes Cymru, rydym yn dod â rhai o brynwyr mwyaf Cymru atoch. Roedd Arddangosfeydd Busnes Cymru yn cynnwys llu o gyfleoedd contract byw gwerth dros £40 biliwn o blith dros 60 o brif brynwyr. Gyda thros 900 o fynychwyr, mae’r digwyddiadau hyn yn ffordd bwerus i gysylltu â chleientiaid posib ac archwilio cyfleoedd contract byw.
Cymerwch y cam nesaf i dyfu eich busnes. Cysylltwch heddiw i ddysgu sut all ein digwyddiadau rhwydweithio a chymorth tendr wedi’i ariannu’n llawn eich helpu i osod eich busnes o flaen prif benderfynwyr. Beth am gydweithio i ddatgloi cyfleoedd newydd a gyrru eich llwyddiant