Deddf Caffael Cyhoeddus Partneriaeth Gymdeithasol a’r Ddeddf Caffael UKG Newydd

Mae cefnogi busnesau Cymru i addasu i newidiadau mewn deddfwriaeth gaffael yn hanfodol er mwyn sicrhau y gallant ffynnu mewn tirwedd sector cyhoeddus sy’n newid.

Wrth weithio’n agos â thimau Caffael a Masnachol Llywodraeth Cymru, rydym yn helpu busnesau i ddeall yr hyn mae’r gofynion newydd yn ei olygu iddynt - gan wneud tendro yn fwy hygyrch, yn arbennig ar gyfer y rhai yn yr Economi Sylfaenol.

Rydym wedi datblygu Canllaw Cyflenwyr: Dewch i Ganfod, Gwneud Cynigion ac Ennill Contractau dan Ddeddfwriaeth Caffael Newydd, adnodd cynhwysfawr sy’n cynnig arweiniad gam wrth gam ar dendro dan Ddeddf Caffael Cyhoeddus newydd Cymru a’r Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus. Yn llawn astudiaethau achos go iawn a thempledi ymarferol, dyluniwyd y canllaw hwn i helpu busnesau ar draws y sectorau economi sylfaenol allweddol gan gynnwys Adeiladu, Ynni, Bwyd, Tai, Gofal Cymdeithasol a Thrafnidiaeth, i adnabod cyfleoedd, paratoi cynigion cystadleuol a sicrhau contractau yn hyderus.



Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.