Mae Cronfa Cyfarpar Cyfalaf SMART yn cefnogi sefydliadau yng Nghymru i wella cynhyrchiant, cystadleurwydd a thwf cynaliadwy drwy fuddsoddi mewn cyfarpar cyfalaf newydd ac arloesol. Mae hyn yn cynnwys digideiddio, awtomeiddio a thechnolegau gweithgynhyrchu uwch.
Mae'r gronfa gystadleuol hon yn cefnogi buddsoddiad mewn technolegau, offer a phrosesau newydd sy'n galluogi sefydliadau i greu mwy o werth o'r adnoddau y maent yn eu defnyddio, gan gynnwys pobl, deunyddiau, ynni ac asedau.
Darganfyddwch fwy isod.
Rhagor o wybodaeth
Efallai y bydd grantiau rhwng £50,000 a £250,000 ar gael, sydd fel arfer yn cwmpasu hyd at 50% o'r costau cyfalaf cymwys*.
*Bydd unrhyw ddyfarniad yn amodol ar fodloni rheolau rheoli cymorthdaliadau ac ar gwblhau gwiriadau diwydrwydd dyladwy Llywodraeth Cymru yn foddhaol. Dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y caiff unrhyw wyriad o’r uchafswm cyllid ei ystyried.
Mae'r gronfa yn agored i'r sefydliadau canlynol sydd wedi'u lleoli yng Nghymru:
- Busnesau
- Sefydliadau academaidd (prifysgolion, sefydliadau ymchwil a cholegau addysg bellach) *Mae ceisiadau wedi'u cyfyngu i 5 fesul sefydliad unigol.
- Sefydliadau'r trydydd sector
- Byrddau Iechyd y GIG
Rhaid i weithgaredd prosiect ac asedau a ariennir fod wedi'u lleoli yng Nghymru.
Rhaid i gostau cymwys fod yn gyfalaf eu natur a chefnogi'n uniongyrchol gynnydd neu welliannau mewn cynhyrchiant.
Mae enghreifftiau'n cynnwys:
- Peiriannau ac offer sy'n gwella cynhyrchiant
- Technolegau digidol ac awtomeiddio
- Asedau gweithgynhyrchu uwch
- Costau gosod a chomisiynu sy'n uniongyrchol gysylltiedig ag asedau cyfalaf cymwys, gan gynnwys meddalwedd sy’n uniongyrchol gysylltiedig â gweithredu’r ased cyfalaf cymwys ac sy’n angenrheidiol ar gyfer hynny
Mae hyn hefyd yn cynnwys offer sy'n cefnogi gweithgarwch economi gylchol. Mae enghreifftiau'n cynnwys:
- Lleihau'r defnydd o ddeunyddiau neu'r broses o gynhyrchu gwastraff
- Cynyddu effeithlonrwydd adnoddau
- Cefnogi gweithgareddau ailddefnyddio, atgyweirio, adnewyddu neu ailweithgynhyrchu
- Cynyddu'r defnydd o ddeunyddiau eilaidd neu ddeunyddiadau wedi'u hailgylchu
- Creu mwy o werth o adnoddau ac asedau presennol
Felly, anogir ceisiadau sy’n dangos gwelliannau mewn cynhyrchiant yn ogystal â chanlyniadau economi gylchol.
Ni fyddwn yn cefnogi:
Cyfalaf gweithio
Atgyweiriadau arferol ac ailosod asedau presennol
Cerbydau ar gyfer trafnidiaeth gyffredinol
Tir neu eiddo
Caledwedd a meddalwedd swyddfa gyffredinol, gwasanaethau cwmwl annibynnol, tanysgrifiadau meddalwedd a llwyfannau digidol
Cynlluniau neu becynnau cynnal a chadw a gwasanaethu
Hyfforddi
Gwarantau
Trefniadau prynu neu brydlesu llogi
Dodrefn a ffitiadau swyddfa
Paneli neu ffermydd solar neu ffotofoltäig
Ceisiadau datgarboneiddio neu arbed ynni cyffredinol
Bydd y gronfa yn cefnogi prosiectau sy'n sicrhau gwelliannau mesuradwy mewn cynhyrchiant. Gall y rhain gynnwys un neu fwy o'r canlynol:
- Cynyddu allbwn, creu gwerth neu gynhyrchu refeniw
- Gwella cynhyrchiant llafur
- Gwella effeithlonrwydd gweithredol a pherfformiad prosesau
- Defnyddio deunyddiau ac adnoddau yn fwy effeithiol
- Lleihau gwastraff, colledion deunyddiau a chostau y gellir eu hosgoi
- Gweithredu a defnyddio technolegau arloesol yn llwyddiannus er mwyn gwella gallu busnes, cynhyrchiant neu gystadleurwydd yn y farchnad
Rhaid i brosiectau fabwysiadu a gweithredu technolegau neu offer newydd sydd naill ai'n arloesol ynddynt eu hunain, neu sy'n cynorthwyo i ddatblygu prosesau arloesol i gyflawni'r canlyniadau disgwyliedig erbyn 31 Mawrth 2028 a dangos buddion economaidd mesuradwy i Gymru.
Bydd ceisiadau yn cael eu sgorio yn erbyn y canlynol:
- Cymhwysedd, cydymffurfiaeth a risg
- Y gallu i gyflawni'r prosiect o fewn yr amserlenni gofynnol
- Hyfywedd ariannol
- Tystiolaeth o angen ac ychwanegedd
- Effaith ar gynhyrchiant
- Manteision economi gylchol
- Manteision i Gymru
Nid yw bodloni'r meini prawf cymhwysedd yn gwarantu cyllid. Bydd ceisiadau yn cael eu graddio yn erbyn y meini prawf asesu a bydd cyllid yn cael ei ddyfarnu ar sail gystadleuol.
Gofynion tystiolaeth ac adrodd:
Bydd gofyn i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu tystiolaeth bod yr asedau a ariennir wedi'u prynu, eu gosod a'u defnyddio at ddiben y prosiect cymeradwy. Bydd angen iddynt hefyd adrodd ar ganlyniadau cynhyrchiant a gyflawnwyd erbyn mis Mawrth 2028. Bydd gofynion monitro, hawlio ac archwilio llawn yn cael eu nodi yn y llythyr cynnig grant.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 23:59 ar 25 Medi 2026.
Cyhoeddi penderfyniadau dyfarnu: Wythnos yn dechrau ar 26 Hydref 2026.
Rhai cyflwyno’r hawliad terfynol a thystiolaeth o wariant a dalwyd erbyn: 31 Ionawr 2027.
Effaith cynhyrchiant i'w ddangos erbyn: 31 Mawrth 2028
Dylid e-bostio ffurflenni cais a dogfennaeth ategol wedi'u cwblhau i SMART.GalwadCyfalaf@llyw.cymru erbyn 23:59 ar 25 Medi 2026. Ni fydd ceisiadau a dderbynnir ar ôl y dyddiad cau hwn yn cael eu hystyried. Dylai ceisiadau fod yn gyflawn ac yn derfynol pan fyddant yn cael eu cyflwyno gan na fyddwn yn gofyn am wybodaeth bellach neu goll ar ôl eu cyflwyno.
Dogfennau
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch cymorthbusnes@llyw.cymru . Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch cymorthbusnes@llyw.cymru . Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch cymorthbusnes@llyw.cymru . Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.