Gall arloesi helpu eich sefydliad i ddod yn fwy cystadleuol, cynyddu gwerthiant ac darganfod farchnadoedd newydd. Yma gallwch ddod o hyd i'r hyn o gyllid a chefnogaeth sydd ar gael i'ch helpu i arloesi.
Mae Cymorth Arloesi Hyblyg (FIS) SMART ar gael i unrhyw sefydliad gan gynnwys y trydydd sector, awdurdodau lleol a byrddau iechyd sydd am Ymchwilio, Datblygu ac Arloesi.
I sefydliad newydd, gallai hyn olygu cael mynediad at dechnoleg i roi hwb i syniad newydd am y tro cyntaf; ar gyfer sefydliad sy'n datblygu, gallai olygu cymorth gyda phrosiect y gwyddoch fod ganddo botensial; ac i sefydliad sefydledig, gallai olygu cael gwybodaeth arbenigol er mwyn rhoi mantais ryngwladol i chi trwy agor marchnadoedd newydd.
Fe’i cyflwynir gan dîm o beirianwyr, gwyddonwyr a diwydianwyr arbenigol, ac arbenigwyr eiddo deallusol, sy'n helpu sefydliadau Cymru i gyflawni "Rhagoriaeth Arloesi".
Yn gynyddol, mae hyn yn golygu canolbwyntio ar ddatgarboneiddio a'r economi gylchol fel rhan o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i fyd gwell.
Mae'r cynllun yn ymwneud â thri pheth:
- Arbenigedd - rydym yn gweithio yng Nghymru ond mae gennym fynediad at rwydwaith o arbenigwyr ledled y DU.
- Arian – gall cyllid fod yn allweddol, felly gallwn eich helpu i gael gafael ar gyllid.
- Cymorth – cyngor arbenigol gan fframwaith cymeradwy o gynghorwyr.
Cymorth Arloesi Hyblyg SMART
Cefnogaeth SMART FIS ar waith
Mae Haydale yn gwmni datrysiadau deunyddiau datblygedig blaenllaw sy'n arbenigo mewn dylunio, datblygu a masnacheiddio deunyddiau mewn math penodol o graffen. Gan ddefnyddio cefnogaeth SMART FIS Llywodraeth Cymru datblygwyd ymdrechion ymchwil a datblygu'r cwmni, gan ganiatáu iddo gymryd camau rhyfeddol i hyrwyddo ei ddatrysiadau gwresogi arloesol sy'n seiliedig ar graffen.
Edrychwch sut y gallech elwa o gefnogaeth debyg drwy ddarllen am eu llwyddiant.
Y Camau Nesaf
Os ydych chi'n credu mai dyma'r gefnogaeth addas ar gyfer eich sefydliad chi, y cam nesaf yw cysylltu.
Gan fod cymaint o ddiddordeb yn arian FIS SMART rydym yn cymryd mwy o amser nag arfer i ymateb i ymholiadau. Bydd aelod o'n tîm mewn cysylltiad cyn gynted â phosibl.