Mae llawer o resymau da i chi i ddefnyddio'r Gymraeg yn eich busnes, a ph'un a ydych yn fenter fawr neu fach, mae mwy o gymorth nag erioed o'r blaen i helpu.
Mae gan Lywodraeth Cymru darged i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 drwy Cymraeg 2050. Gall busnesau chwarae eu rhan i gyrraedd y targed hwn a hefyd elwa o ddefnyddio'r iaith.
Mae llawer o resymau da i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn eich busnes, a beth bynnag yw maint eich menter, mae mwy o gymorth ar gael nag erioed o'r blaen i'ch helpu.
Pam defnyddio’r Gymraeg yn eich busnes neu elusen?
Mae cannoedd o fusnesau yn gweld buddion o ddefnyddio’r Gymraeg o ddydd i ddydd. Mae’n creu cysylltiadau cryfach â chwsmeriaid, defnyddwyr gwasanaeth, a’r gymuned, ac yn rhoi mantais gystadleuol i chi.
Does dim rhaid mynd ati i wneud popeth yn Gymraeg yn syth. Mae’n hawdd cymryd camau bychain i ddatblygu yn syth. Mae’r pecyn yma’n dangos sut i gychwyn eich taith i ddatblygu’r Gymraeg, a’r cymorth sydd ar gael gan wahanol sefydliadau i’ch helpu.
Dyma ychydig o fanteision allweddol:
- Perthynas gryfach gyda’ch cwsmeriaid a defnyddwyr gwasanaeth
Mae siarad â phobl yn eu hiaith eu hunain yn ffordd o adeiladu perthynas gryfach. Mae siaradwyr Cymraeg yn gwerthfawrogi sefydliadau sy’n defnyddio’r iaith ac yn fwy parod i’w cefnogi. - Ehangu eich cyrhaeddiad
Mae cynnig gwasanaethau Cymraeg agor drysau i gynulleidfa newydd, yn lleol ac yn genedlaethol. - Gwella delwedd eich brand
Mae defnyddio’r Gymraeg yn gwneud i’ch brand sefyll allan ac yn ennill enw da ymhlith cwsmeriaid a phartneriaid. - Mwy o gysylltiad â’r gymuned
Mae’r Gymraeg yn rhan annatod o fywyd cymunedol yng Nghymru. Mae ei defnyddio’n dangos parch at ddiwylliant lleol ac yn creu cysylltiadau. - Denu a chadw gweithwyr
Mae gweithle sy’n croesawu’r Gymraeg yn fwy deniadol i siaradwyr Cymraeg ac yn creu amgylchedd gwaith cynhwysol.
Darllenwch fwy isod am gymorth arall sydd ar gael:
Dilynwch ni yn Gymraeg ar Twitter, Facebook ac Instagram. Cofrestrwch yma os hoffech dderbyn ein cylchlythyr busnes wythnosol.
Helo Blod yw eich gwasanaeth cyfieithu a chynghori Cymraeg cyflym a chyfeillgar

Prif nod statudol Comisiynydd y Gymraeg yw hybu a hwyluso defnyddio’r Gymraeg

Mae’r Mentrau Iaith yn dy helpu i fyw, dysgu a mwynhau yn y Gymraeg
