Arferion Da: Rhedeg Busnes drwy Gyfrwng y Gymraeg

Mae tîm Hybu Comisiynydd y Gymraeg yn gweithio gyda busnesau ac elusennau o bob math, o fanciau ac archfarchnadoedd i elusennau cenedlaethol a rhyngwladol. 

Mae defnyddio’r Gymraeg yn ffordd wych o gryfhau eich brand, cysylltu â chwsmeriaid, a dangos ymrwymiad i’n diwylliant. 

Pam?

Un o’n prif swyddogaethau ni yn y Tîm Hybu yw cefnogi busnesau ac elusennau i ddatblygu eu darpariaeth Gymraeg. Rydym yn rhannu arferion da ac yn cynnig cefnogaeth drwy ein cynllun Cynnig Cymraeg , sy’n gynllun gweithredol sy’n gosod targedau i ehangu’r defnydd o’r Gymraeg o dan 5 thema allweddol.

Dyluniad eich Brand

  • Os nad oes modd cael enw Cymraeg neu ddwyieithog ar eich busnes, beth am ystyried “Cymru” yn hytrach na “Wales”?
  • Ychwanegwch slogan Cymraeg neu ddwyieithog i gryfhau hunaniaeth.
  • Oes modd ystyried elfennau gweledol sy’n adlewyrchu Cymru?

Darllenwch ein Canllaw Dylunio Dwyieithog.

Cyfryngau Cymdeithasol: Allwedd i Ehangu Eich Brand

Mae presenoldeb ar y cyfryngau cymdeithasol yn hanfodol i fusnesau heddiw. Mae’n ffordd effeithiol o gyrraedd cynulleidfa newydd.

Enghraifft dda:

  • Brand dillad cynaliadwy sy’n dathlu harddwch Cymru yw Pen Wiwar. Mae’r busnes wedi gwneud y Gymraeg yn rhan ganolog o’u hunaniaeth,  ac mae hynny’n amlwg ar eu cyfryngau cymdeithasol.

Awgrymiadau ar gyfer cynnwys dwyieithog

  • Reels (Fideos byr): Mae reels yn derbyn y lefel uchaf o ymgysylltiad ar draws platfformau fel Instagram a TikTok. Cofiwch ychwanegu teitlau dwyieithog i’ch fideos a chlawr reels. Os oes gennych deitl hir, defnyddiwch air Cymraeg ar y dechrau, e.e. “Sut – How to support our appeal?”
  • Defnydd o rifau: Ar gyfer dyddiadau, defnyddiwch rifau yn hytrach na dyddiau’r wythnos i leihau testun.
  • GIFs Cymraeg: Mae llawer ar gael drwy chwilio ar Instagram, gan gynnwys rhai gan gwmni Mwydro. Gallwch hefyd greu GIFs eich hun i wneud eich cynnwys yn fywiog
  • Dyddiau Arbennig: Gwnewch y mwyaf o ddigwyddiadau fel Dydd Gŵyl Dewi, Diwrnod Shwmae Sumae, Ymgyrch Defnyddia Dy Gymraeg, Dydd Miwsig Cymru, Diwrnod Santes Dwynwen, a’r Eisteddfodau.
  • Ailrannu cynnwys Cymraeg: Rhannwch gynnwys o gyfrifon Cymraeg tebyg i gynyddu amlygrwydd y Gymraeg ar eich sianeli.

Ewch draw i dudalennau @pen_wiwar a @mwydro am enghreifftiau.

Paratoi ymlaen llaw

Mae cyfryngau cymdeithasol yn cael eu diweddaru’n ddyddiol, felly ceisiwch baratoi cynnwys ymlaen llaw. Os oes angen cyfieithu testun, ystyriwch greu banc o destun parod i’w ddefnyddio.

Cofiwch - does dim rhaid i gapsiwn fod wedi’i gyfieithu air am air; gallwch fod yn greadigol a defnyddio idiomau neu gyfeiriadau Cymraeg.

Recriwtio Staff a Gwirfoddolwyr

Gall recriwtio staff a gwirfoddolwyr fod o gymorth mawr i’ch gweithlu wrth ddarparu gwasanaeth i’r cyhoedd. 

Ystyriwch:

  • Hysbysebu y swydd yn ddwyieithog.
  • Nodwch y Gymraeg fel sgil dymunol neu hanfodol.

Mae’r platfformau isod yn blatfformau Cymraeg lle gallwch hyrwyddo swyddi:

  • Golwg360
  • Safle Swyddi
  • Lleol
  • Swyddle
  • Penodi 

Cryfhau sgiliau Cymraeg eich gweithlu

Mae’r Tîm Hybu yn gweithio mewn partneriaeth gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol i gefnogi sefydliadau drwy’r cynllun Cymraeg Gwaith.

Fel rhan o’r broses o dderbyn cymeradwyaeth y Cynnig Cymraeg, byddwn yn cydweithio gyda’ch sefydliad i gynnig opsiynau i’ch staff neu wirfoddolwyr ddysgu, datblygu neu godi hyder i ddefnyddio’r Gymraeg.

Ewch draw i wefan Dysgu Cymraeg am fwy o wybodaeth. 

Adnoddau i’ch helpu

Helo Blod: Gwasanaeth cyfieithu gan Lywodraeth Cymru.

Term Cymru: Cronfa dermau swyddogol.

Cysill: Offer gwirio sillafu a gramadeg.

Adnoddau Microsoft: Ar gael yn Gymraeg.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.