Helpwch bobl ifanc i ddysgu sgiliau, a chael hyfforddiant a chyfleoedd gwaith.
Mae'n cymorth cyflogaeth ôl-16 yn anelu at ddarparu cymorth i bawb rhwng 16 a 24 oed sy’n byw yng Nghymru i gael lle mewn addysg neu hyfforddiant, a’u helpu i gael gwaith neu i ddod yn hunangyflogedig.
Mae'r cymorth yn tynnu amrywiaeth o raglenni a mentrau at ei gilydd a gynlluniwyd i ddarparu'r cymorth iawn ar yr adeg iawn ar gyfer anghenion amrywiol pobl ifanc ledled Cymru.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i hyrwyddo gwaith teg. Anogir cyflogwyr i ddarparu cyfleoedd cyflogaeth sy'n cyd-fynd ag egwyddorion gwaith teg.
Paratoi eich busnes at y dyfodol
Mae cyflogi pobl ifanc a darparu gwaith teg yn ffordd wych o baratoi eich busnes ar gyfer y dyfodol ac o ddod o hyd i dalent newydd â safbwyntiau ffres. Rydym yn cefnogi busnesau i recriwtio a chynnig cyfleoedd profiad gwaith i bobl ifanc drwy gymorthdaliadau cyflog, hyfforddiant, grantiau a chyngor arbenigol.
Mae'r pecynnau cymorth sy'n rhan o hyn yn cynnwys: