Recriwtio prentis

Mae prentisiaethau yn ddewis doeth sy'n gallu:

  • Galluogi recriwtio cost-effeithiol – rydych chi’n talu cyflog y prentis ac rydym ni’n talu am gost yr hyfforddiant
  • Creu cronfa o dalent – gyda gweithlu medrus, cymwysedig
  • Llenwi bylchau sgiliau – i fodloni eich gofynion presennol ac yn y dyfodol
  • Helpu eich busnes i dyfu – p'un a ydych yn dewis recriwtio, ailhyfforddi neu adleoli eich gweithlu
  • Eich helpu i gymryd rhan yn y Warant i Bobl Ifanc drwy eich cynorthwyo i greu cyfleoedd i bobl ifanc 16-24 oed gael mynediad i’r gweithle.

Beth yw’r broses?

Mae recriwtio prentis yn broses hawdd. Gan weithio gydag un o’n darparwyr hyfforddiant cymeradwy, byddwch yn gyfrifol am ddarparu a chynllunio amserlen hyfforddiant y prentis, yn Gymraeg neu Saesneg, a chaniatáu dull gweithredu wedi’i deilwra sy’n benodol i’r busnes.    

Eich darparwr hyfforddiant fydd yn rheoli prosesau’r cymhwyster, yr asesiad a’r rhaglen.

Ceir rhestr lawn o’r darparwyr hyfforddiant 

Beth yw’r costau?

Mae dwy gost yn perthyn i brentisiaeth - cyflog y prentis a chost yr hyfforddiant. Bydd yn rhaid i chi dalu’r gost gyntaf. Does dim rhaid i chi dalu’r ail. Llywodraeth Cymru sy’n talu’r rhan fwyaf o’r costau hyfforddiant, ac mae’n gweithio gyda darparwyr hyfforddiant allanol i reoli, darparu ac asesu’r holl brentisiaethau. Mae cmorth ar gael i fusnesau yng Nghymru waeth beth yw eu maint neu sector.

Cliciwch yma i ddysgu mwy am y cymhellion ariannol sydd ar gael.

 

Llwybrau a lefelau prentisiaethau

Rydym yn darparu llwybrau prentisiaeth wedi’u hariannu’n llawn mewn 23 sector yng Nghymru ar bedair lefel: Prentisiaeth Sylfaen, Prentisiaeth, Prentisiaeth Uwch a Gradd-brentisiaeth.

Prentisiaeth Sylfaen – Lefel 2NVQ Lefel 2 a chyfwerth â 5 TGAU da
Prentisiaeth – Lefel 3NVQ Lefel 3, cyfwerth â phasio 2 Safon Uwch
Prentisiaeth Uwch – Lefel 4/5Lefel HNC/ HND/ Gradd Sylfaen 
Gradd-brentisiaeth – Level 6

Gradd baglor lawn. Cynigir llwybrau ym meysydd TGCh/ Digidol a Pheirianneg / Gweithgynhyrchu Uwch ar hyn o bryd.

Mae’r Gradd-brentisiaethau sydd ar gael ar hyn o bryd wedi’u rhestru

 

Help a chymorth

Os yw prentisiaethau’n beth newydd i chi, gallwch gael rhagor o help a chymorth gan Gynghorydd Ymgysylltu â Chyflogwyr drwy:



Llywodraeth Cymru

Gwnewch Dewis Doeth a Recriwtiwch Brentis

Rhaid caniatau cwcis trydydd part i’r fideo hwn chwarae yma.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.