Dod o hyd i bobl dda gyda’r sgiliau cywir yw’r allwedd i lwyddiant.
Beth mae'n ei olygu
Rydyn ni i gyd yn bobl dalentog.
Mae ReAct+ yn cynnig pecyn o gefnogaeth i helpu rhywun sydd wedi ei effeithio gan ddiswyddiad neu wedi dod yn ddi-waith yn ystod y 12 mis diwethaf i ddychwelyd i'r gwaith yn gyflym. Mae'n newyddion da iddyn nhw - ac yn newyddion gwych i chi.
Sut mae'n gweithio
Pan fyddwch yn cyflogi recriwt cymwys, byddwn yn rhoi hyd at £3,000 i chi, a delir drwy bedwar rhandaliad am y 12 mis cyntaf i helpu i dalu eu cyflog. Byddwn hefyd yn talu hyd at £1,000 am unrhyw hyfforddiant sgiliau sy'n gysylltiedig â'r swydd sydd ei angen i'w datblygu'n gyflym.
Mae £1,000 ychwanegol ar gael os ydych yn recriwtio person anabl neu berson ifanc 18-24 oed. Os ydych yn recriwtio person ifanc anabl mae £2,000 ychwanegol ar gael.
Mae'n gwneud cyflogi rhywun sydd dan rybudd o ddiswyddo neu sy’n ddi-waith yn gynnig deniadol iawn.
Pwy sy’n gymwys?
Rhaid i'r person yr ydych am ei recriwtio fod yn 18 oed neu’n hŷn, a naill ai
- Fod o dan Rybudd Diswyddo ffurfiol neu
- Fod wedi colli'i swydd yn ystod y 12 mis diwethaf neu
- Fod wedi dod yn ddi-waith am resymau heblaw colli swydd yn ystod y 12 mis diwethaf neu
- Yn berson ifanc 18-24 oed nad yw mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant
Ym mhob achos, rhaid iddynt hefyd fod yn preswylio yng Nghymru ar ddyddiad diweithdra ac ar y dyddiad y gwnewch eich cais am gyllid.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i hyrwyddo gwaith teg. Anogir cyflogwyr i ddarparu cyfleoedd cyflogaeth sy'n cyd-fynd ag egwyddorion gwaith teg.
Rhaid i'r swydd rydych chi'n ei chynnig:
- fod am 16 awr yr wythnos neu fwy;
- fod wedi'i thalu ar Isafswm Cyflog Cenedlaethol neu uwch. Rydym yn annog cyflogwyr i dalu'r Cyflog Byw Gwirioneddol i bob gweithiwr o leiaf;
- fod i bara o leiaf 12 mis;
- peidio â chael ei chefnogi gan gontract 'dim oriau' neu 'oriau heb-warant'; a
- peidio â chael ei chefnogi gan unrhyw gyllid cyhoeddus arall.
Hefyd, ni ddylai eich busnes fod wedi cyrraedd trothwy Rheoli Cymhorthdal y DU sy'n cyfyngu ar faint o arian y gall Llywodraeth Cymru ei ddarparu.
Bydd y recriwtio yn cael ei anghymhwyso rhag y rhaglen os bydd yn dechrau gweithio i chi cyn i'ch cais am gyllid gael ei gymeradwyo neu os ydynt wedi bod mewn cyflogaeth barhaus am 6 wythnos neu fwy rhwng dyddiad y diswyddiad neu'n mynd yn ddi-waith a dyddiad y cais am grant ers iddo gael ei ddiswyddo. Mae amodau eraill yn berthnasol.
Sut mae hyn o fudd i chi?
- Gwella eich cynhyrchiant a'ch cystadleurwydd drwy recriwtio staff o safon.
- Cael cyllid ar gyfer hyfforddiant sy'n gysylltiedig â swyddi i fireinio sgiliau recriwtiaid newydd.
- Lleihau eich costau staffio.
- Rhoi hwb i'ch cyfalaf gweithio.
- Gorbenion is a chynyddu elw.
- Cymryd rhan yn y Warant i Bobl Ifanc, gan helpu i greu cyfleoedd i bobl ifanc 16-24 oed sydd wedi colli eu gwaith i ddod o hyd i waith teg.
Sut i wneud cais
Os oes gennych unigolyn cymwys mewn golwg i'w recriwtio, a chithau am wneud cais am gymorth ReAct+ cliciwch Cais ReAct+. Rhaid ichi wneud cais am gymorth cyn mynd ati i gyflogi'r unigolyn newydd.
Os ydych am recriwtio ond yn cael trafferth dod o hyd i ymgeisydd/ymgeiswyr, mae'r Bwletin Swyddi yn wasanaeth am ddim gan Gyrfa Cymru/Cymru'n Gweithio a all eich helpu i hyrwyddo eich swydd wag i ystod eang o ddarpar weithwyr.
Os hoffech gael gwybod mwy am y cymorth recriwtio a hyfforddi sydd ar gael, cysylltwch â ni neu llenwch y ffurflen Mynegi Diddordeb.