Beth yw Cymunedau am Waith+?
Mae Cymunedau am Waith+ yn darparu cefnogaeth ymgynghorol, cyflogaeth arbenigol a mentora dwys i bobl sydd â'r hawl gyfreithiol i fyw a gweithio yn y Deyrnas Unedig. Rhaid i chi fod yn 20 oed neu'n hŷn, yn byw yng Nghymru ac nid mewn addysg, gwaith na hyfforddiant, a bod â rhwystr cymhleth i gyflogaeth. Mae pobl ifanc 16 i 19 oed yn gymwys, os nad ydyn nhw'n addas ar gyfer neu'n dewis peidio ag ymgysylltu â naill ai Twf Swyddi Cymru+ neu unrhyw ddarpariaeth cyflogadwyedd leol arall.
Gall Cymunedau am Waith+ ddarparu cefnogaeth i helpu i fagu hyder, ennill rhywfaint o brofiad gwaith, dysgu sgiliau newydd neu ail-ysgrifennu eich CV. Bydd Cymunedau am Waith+ yn eich helpu chi fel unigolyn a byddant yn cwrdd â chi yn eich cymuned leol.
Beth yw manteision Cymunedau am Waith+?
Mae Cymunedau am Waith+ yn rhaglen wirfoddol, sy'n cynnig cymorth, cefnogaeth, arweiniad a hyfforddiant ynghylch dod o hyd i waith, trwy gyngor 1-i-1 gan dîm o fentoriaid ymroddedig.
Sut i gymryd rhan
I gael rhagor o wybodaeth am Cymunedau am Waith+ gallwch gofrestru eich diddordeb drwy'r Ffurflen Mynegi Diddordeb a bydd Cynghorydd Ymgysylltu â Chyflogwyr yn cysylltu â chi.
Fel arall, gallwch ffonio Llinell Gymorth Busnes Cymru ar 03000 6 03000 neu gysylltu â ni