Gan adeiladu ar y gwaith o gyflwyno'r cynllun peilot sgiliau deallusrwydd artiffisial yn llwyddiannus o fewn y Rhaglen Sgiliau Hyblyg ym mis Chwefror 2026, rydym yn ail-lansio cynllun peilot diwygiedig er mwyn parhau i gefnogi ystod o hyfforddiant ar deallusrwydd artiffisial i helpu busnesau Cymru i dyfu ac i feithrin arbenigedd o ran deallusrwydd artiffisial.
Bydd y cynllun peilot ar ei newydd wedd yn canolbwyntio ar gefnogi'r cam nesaf o ddysgu am ddeallusrwydd artiffisial i fusnesau - gan dargedu achosion busnes defnydd penodol a gweithgarwch uwchsgilio.
Bydd y cynllun peilot yn parhau i gydredeg ag ystod o gymorth rhagarweiniol ar sgiliau deallusrwydd artiffisial a ddarperir gan Busnes Cymru, a ddylai fod yn fan cychwyn i fusnesau ar ddeallusrwydd artiffisial.
Mae'r gofynion cymhwyso ar gyfer y peilot yr un fath â gofynion y Rhaglen ehangach. Nid oes rhaid defnyddio unrhyw gwmni hyfforddi penodol - gall yr ymgeisydd ddewis unrhyw ddarparwr hyfforddiant ardystiedig - ond rhaid i unrhyw weithgaredd hyfforddi a gefnogir yn y rhaglen hon fod ar Lefel 2 neu'n uwch, gan gorff dyfarnu sydd o dan Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru.
Bydd y cynllun peilot yn rhedeg tan ddiwedd mis Mawrth 2027 a bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ddarparu cyfraniad uwch o 75% at gostau hyfforddi.
Os ydych chi'n meddwl eich bod yn gymwys ac os oes gennych chi ddiddordeb mewn gwneud cais am y cyllid hwn, cwblhewch y ffurflen Datganiad o Ddiddordeb.
Am fwy o wybodaeth cliciwch ar y ddolen hon: Y Rhaglen Sgiliau Hyblyg | Busnes Cymru.