
Bydd ardaloedd sydd â nifer uchel o siaradwyr Cymraeg yn cael cymorth ychwanegol i gryfhau'r iaith yn ein cymunedau, ar ôl i Weinidogion dderbyn argymhellion adroddiad.
Yn dilyn astudiaeth ddwy flynedd o hyd gan y Comisiwn Cymunedau Cymraeg o dan arweiniad Dr Simon Brooks, mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn sawl cynnig i ddiogelu'r Gymraeg fel iaith gymunedol.
Cyhoeddodd Ysgrifennydd y Gymraeg, Mark Drakeford, y cynlluniau yn Eisteddfod yr Urdd, gan gadarnhau y bydd y llywodraeth yn gwneud y canlynol:
- rhoi cymorth i ardaloedd sydd â chyfraddau uwch o siaradwyr Cymraeg i dargedu cymorth
- sicrhau bod trigolion yn yr ardaloedd hyn, ac ar draws Cymru, yn gallu cael mynediad at addysg cyfrwng Cymraeg
- darparu mwy o arweiniad ynghylch yr iaith ar draws ystod o feysydd polisi
Mae argymhellion wedi'u derbyn ar draws sawl maes polisi gan gynnwys yr economi, tai, datblygu cymunedol ac addysg. Bydd y Llywodraeth yn cydlynu gydag awdurdodau lleol a phartneriaid i drafod yr argymhellion a'u rhoi ar waith.
Am ragor o wybodaeth, cliciwch y ddolen hon: Cymunedau Cymraeg eu hiaith i gael cymorth wedi'i dargedu i gryfhau'r Gymraeg | LLYW.CYMRU
Mae llawer o resymau da i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn eich busnes, a beth bynnag yw maint eich menter, mae mwy o gymorth ar gael nag erioed o'r blaen i'ch helpu. Mae’r dudalen yma, Cymraeg Yn Eich Busnes | Busnes Cymru, yn dangos sut i gychwyn eich taith i ddatblygu’r Gymraeg, a’r cymorth sydd ar gael gan wahanol sefydliadau i’ch helpu.