Newyddion

Cymraeg Gwaith

business lounge - Welcome / Croeso in large letters on the wall

Mae llawer o resymau da i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn eich busnes, a beth bynnag yw maint eich menter, mae mwy o gymorth ar gael nag erioed o'r blaen i'ch helpu.

Nod Cymraeg Gwaith yw cryfhau sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

Dewch o hyd i sut mae symud i Sir Gâr, a sefydlu busnes yno, wedi ysbrydoli Paul Raven, cyd-berchennog Tea Traders, i ddysgu Cymraeg: Sefydlu busnes yn Sir Gâr yn sbarduno Paul i ddysgu Cymraeg | Dysgu Cymraeg

Mae Cymraeg Gwaith yn cynnig hyfforddiant amrywiol, hyblyg, sydd wedi ei ariannu’n llwyr i gyflogwyr.

Mae amrywiaeth o opsiynau ar gael i siwtio bawb ar bob lefel o ddysgu Cymraeg, o ddysgu dwys dan arweiniad Tiwtor i gyrsiau hunan-astudio byr:

  • Cyrsiau Hunan-Astudio Byr
  • Cwrs Hunan-astudio Cymraeg Gwaith
  • Cyrsiau Defnyddio Nant Gwrtheyrn
  • Sesiynau Codi Hyder
  • Cyrsiau dysgu gyda thiwtor
  • Cynlluniau Sectorol
  • Camau
  • Cynllun Camau Gofal Cymdeithasol
  • Cefnogi Cyflogwyr
  • Academi Cymraeg Gwaith

Am fwy o wybodaeth, dilynwch y ddolen hon: Gwasanaethau Cymraeg Gwaith | Dysgu Cymraeg

Cymraeg Yn Eich Busnes: Mae gan Lywodraeth Cymru darged i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 drwy Cymraeg 2050. Gall busnesau chwarae eu rhan i gyrraedd y targed hwn a hefyd elwa o ddefnyddio'r iaith. 

Mae cannoedd o fusnesau yn gweld buddion o ddefnyddio’r Gymraeg o ddydd i ddydd. Mae’n creu cysylltiadau cryfach â chwsmeriaid, defnyddwyr gwasanaeth, a’r gymuned, ac yn rhoi mantais gystadleuol i chi. Does dim rhaid mynd ati i wneud popeth yn Gymraeg yn syth. Mae’n hawdd cymryd camau bychain i ddatblygu yn syth. Mae’r dudalen yma, Cymraeg Yn Eich Busnes | Busnes Cymru, yn dangos sut i gychwyn eich taith i ddatblygu’r Gymraeg, a’r cymorth sydd ar gael gan wahanol sefydliadau i’ch helpu. 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.