Newyddion

Arolwg o Gyfieithwyr Cymraeg

simultaneous translation equipment

Ydych chi’n gwmni sy’n cyfieithu, prawf-ddarllen, trawsgrifio neu is-deitlo?

Ydych chi’n gyfieithydd?

Er mwyn deall siâp a maint y proffesiwn cyfieithu/cyfieithu ar y pryd yng Nghymru, mae Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru – gyda chymorth ariannol Llywodraeth Cymru – wedi comisiynu cwmni Arad i wneud ymchwil i’r maes.

Bydd canlyniadau’r ymchwil yn cael ei ddefnyddio gan y Gymdeithas i lunio strategaeth ar gyfer 2026 ymlaen. Bydd yn cael ei rannu gydag addysgwyr er mwyn hyfforddi’r genhedlaeth nesa o gyfieithwyr.

Mae yna ddwy arolwg, defnyddiwch y naill sy'n gymwys i chi erbyn 30 Mehefin 2025:

Os oes unrhyw gwestiynau, plîs cysylltwch â swyddfa@cyfieithwyr.cymru

Mae llawer o resymau da i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn eich busnes, a beth bynnag yw maint eich menter, mae mwy o gymorth ar gael nag erioed o'r blaen i'ch helpu. Mae’r dudalen yma, Cymraeg Yn Eich Busnes | Busnes Cymru, yn dangos sut i gychwyn eich taith i ddatblygu’r Gymraeg, a’r cymorth sydd ar gael gan wahanol sefydliadau i’ch helpu.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.