Ein Mentoriaid
Hidlo yn ôl
229 canlyniad
Busnes:
?
Nick yw Rheolwr Gyfarwyddwr EvaBuild Ltd, Cwmni Adeiladu a Pheirianneg Sifil arobryn yn y canolbarth.
Busnes:
?
Rwy’n weithiwr proffesiynol ym maes rheoli perfformiad gwerthiannau uchel, marchnata a datblygu mewnwelediad gyda llwyddiant blaenorol o arwain gwerthiant, datrysiadau a datblygiadau busnes ar draws marchnadoedd uchel eu proffil, cystadleuol ac amrywiol.
Busnes:
One Habit Coaching
Rwy’n helpu gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio 50+awr/wythnos i ddod o hyd i amser i symud a bwyta’n well er mwyn iddynt golli pwysau a theimlo’n fwy hyderus.
Busnes:
NJJ Business Solutions Ltd
Rwyf wedi gweithio yn y sectorau gweithgynhyrchu, adeiladu a hyfforddi ers dros 30 mlynedd, gyda dros 15 mlynedd o rolau arwain a chyfarwyddo.
Busnes:
The Little Stitchery/Nicola Ridd-Davies Garment Design & Technology
Graddiais gyda Gradd Anrhydedd dosbarth 1af mewn Ffasiwn, mae gennyf gymhwyster Torri Patrymau Uwch Telestia ar gyfer Darparwyr Hyfforddiant a dros 25 mlynedd o brofiad yn y Diwydiant Ffasiwn, gan gynnwys 10 mlynedd gyda’r brand TOAST fel Torrwr Patrymau Dillad Merched a Dillad Dynion a Chydlynydd Technegol.
Busnes:
Seriously Stylish Business
Gyda brwdfrydedd dros ddatblygu unigolion uchelgeisiol sy’n gweithio tuag at lwyddiant, rwy’n deall beth sy’n ofynnol i greu llwyddiant parhaol o’r tu mewn ac allan, gan ganolbwyntio ar eich diffiniad chi o lwyddiant - nid diffiniad rhywun arall.
Busnes:
?
Mae Nigel Nicoll CA yn rheolwr ariannol lefel uwch sy’n canolbwyntio ar hyn o bryd ar gynllunio busnes, a chynorthwyo busnesau a'r rhai sy’n awyddus i ddechrau busnes i godi arian mewn cyfnod anodd.
Busnes:
Tropic
Rwyf i wedi arwain rhaglenni cyflymydd yn Llundain, Brighton a gogledd Cymru, lle’r oeddwn i’n mentora cannoedd o fusnesau. Oherwydd y cefndir hwn rwyf wedi tyfu rhwydwaith eang ac wedi cael profiadau helaeth yr hoffwn eu rhannu er budd perchnogion busnes yng Nghymru. Rwyf wedi cefnogi busnesau o bob cam o’r broses dyfu, yn ogystal â sylfaenwyr o bob cefndir - meddyliwch am rwystr ac mae’n debygol fy mod wedi dod ar ei draws. Fi yw sylfaenydd Tropic hefyd, a’r cyfarwyddwr strategol, sef asiantaeth ddigidol yng Nghymru ond sy’n cefnogi busnesau ym mhob cwr o’r DU. Y cyfuniad unigryw hwn o arbenigedd busnes a sgiliau digidol yw’r ffordd orau y gallaf gefnogi busnesau sydd awydd tyfu, boed hynny’n recriwtio am y tro cyntaf, ehangu eu cyrhaeddiad, chwilio i gynyddu buddsoddiad neu ehangu.
Busnes:
WeGetDesign.com
Rwyf wedi bod yn rhan o ddiwydiannau ceisiadau’r we a datblygu busnes ers dros 14 o flynyddoedd.
Busnes:
Pamela Neal Consultancy
Rwyf wedi bod yn fentor a hyfforddwr busnes cymwys ers dros 20 mlynedd, yn gweithio gyda busnesau cychwynnol, a busnesau twf uchel o bob maint a sector.
Pagination
- Blaenorol page
- First page 1
- …
- Tudalen13
- Tudalen14
- Tudalen15
- Tudalen16
- 17
- Tudalen18
- Tudalen19
- Tudalen20
- Tudalen21
- …
- 23
- Nesaf page
Page 17 of 23