BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Modelau rôl

Michelle Hayes

Angelic Healing

Cysylltu gyda Michelle Hayes

Swyddogaeth:
Perchennog
Sector:
Lleoliad:
Outside Wales

Amdano

Rwyf yn Uwch Hypno-therapydd Clinigol ac yn Iachäwr Arbenigol 

Rwyf yn arbenigo mewn Hypnosis Colli Pwysau, Rhoi gorau i Ysmygu ac Alcohol, Hunan-barch Isel, diffyg Hyder, Straen a Gorbryder. Rwyf hefyd yn rhedeg gweithdai yn ymwneud â Hunangariad, Llesiant, Meddylfryd Cadarnhaol, Hyfforddiant Reiki, a Thechneg Tapio Rhyddid Emosiynol.

Fel Therapydd proffesiynol a gofalgar, mae fy nhechnegau uwch yn cynnwys: Arweiniad Emosiynol ac Ysbrydol, Hypno-therapi Clinigol, Tapio Rhyddid Emosiynol (EFT), Rhaglennu Niwro Ieithyddol (NLP), Iachau drwy Nerth, Siarad â’r Corff, Ymlacio a Reiki.

Rwyf yn aelod llawn o’r Cyngor Safonau Hypno-therapi Cyffredinol, Ffederasiwn Reiki y DU, Dementia-Gyfeillgar ac mae gennyf Yswiriant Llawn.

Yn fy marn bersonol i, ni fydd yr un datrysiad yn gweithio i bawb, nac ychwaith ar gyfer pob problem, felly rwyf yn cynnig amrywiaeth o therapïau i fodloni anghenion unigol.

Fy mhrif gryfder yw helpu bobl i gyflawni newid personol, i newid eu meddylfryd negyddol i ymddygiadau cadarnhaol. Ac yn bwysicaf oll, gwella hunanwerth a hunanhyder.

Gwefan: https://angelicyou.co.uk/

Youtube: https://www.youtube.com/@angelichealing103/featured

Google Business: https://maps.app.goo.gl/ubKQCFzBoyyq2JBR9

Gair i Gall

Byddwch yn driw i chi’ch hun, rhowch eich lles eich hun yn gyntaf, daliwch ati i ychwanegu at eich set sgiliau, ceisiwch gyfarfod cynifer o bobl â phosib. Credwch ynoch chi’ch hun!


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.