BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Modelau rôl

Michael Squire

?

Cysylltu gyda Michael Squire



Swyddogaeth:
Business Coach and Mentor
Sector:
Lleoliad:
Outside Wales

Amdano

Rheolwr Cyffredinol uchel ei barch, entrepreneuraidd ac yn un sydd ag enw da yn fasnachol, gyda dros drideg mlynedd o brofiad wedi ei ennill yn y diwydiant lletygarwch gyda Stakis a Hilton Hotels. Yn ystod fy ngyrfa roedd gofyn cyson arnaf i drawsnewid gwestai oedd yn tanberfformio. Strategydd medrus sydd â sgiliau mewn datblygu atebion strategol i ystod eang o broblemau cymhleth, sy’n deillio o ymrwymiad angerddol i ddatblygu busnes, gwella gwasanaeth yn barhaus a gwelliant ariannol parhaus. Cydweithiwr cryf sydd ag agwedd gadarnhaol, brwdfrydedd a gweledigaeth i’r dyfodol di-ben-draw, ac wedi ymrwymo i ddatblygu rhagoriaeth mewn busnes. Gŵr proffesiynol dibynadwy a moesol sydd â dealltwriaeth drylwyr o’r hyn sy’n cysylltu sefydliad â’i gwsmeriaid. Rydw i wedi mynychu nifer o gyrsiau hyfforddi, mentora a datblygu yn ystod fy amser gyda Hilton. Rydw i wedi cefnogi datblygiad fy nghydweithwyr ar bob lefel yn fy ngwestai yn ogystal â graddedigion o fewn y cwmni. Ar y cyd ag eraill rydw i wedi tiwtora a rhedeg cyrsiau mewnol i grwpiau iau a hŷn o blith aelodau’r tîm. Yn 2001 cwblheais fy MBA gyda’r Brifysgol Agored. Er fy mod wedi ymddeol yn rhannol erbyn hyn, mae gen i 2 fusnes rhwydwaith marchnata, ac rydw i’n feiciwr brwd, (yn dawnsio neuadd yn achlysurol), yn ddarllenwr awchus ac erbyn hyn rydw i’n barod i fuddsoddi fy amser i helpu eraill yn y diwydiant lletygarwch.

Gair i Gall

Dewiswch y bobl orau bosib o’r gronfa sydd ar gael, hyfforddwch nhw’n dda, brifiwch nhw’n dda, rhowch nhw ar y trywydd cywir ac yna gadewch lonydd iddyn nhw. Gadewch iddyn nhw wneud eu gwaith. Y cyfan sydd angen i chi wneud yw bod yna i’w cefnogi.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.