BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Ein Mentoriaid

Hidlo yn ôl

Sector
Ardal

251 canlyniad

Busnes: ?
Fy enw i yw Rhys ac rydw i wedi bod yn gweithio yn y maes datblygu busnes ers mwy na degawd. Ond rydw i wedi canolbwyntio ar gael y gorau allan o bobl drwy gydol fy ngyrfa!
Rhys Parry
Busnes: Leap76
Mae gan Richard dros 18 mlynedd o brofiad mewn gweithrediadau ac arweinyddiaeth gydag angerdd a hanes o lwyddiant am ddatgloi’r potensial mewn pobl a phrosesau.
Busnes: Evolve Business Excellence
Mae Richard yn meddu ar dros 30 mlynedd o brofiad ym maes adeiladwaith a Rheoli Cyfleusterau.
Richard Davies
Busnes: ?
Yn dilyn fy HND mewn Busnes a Chyllid ym Mhrifysgol Swydd Stafford, ymunais â'r fyddin a gwasanaethu am ddeng mlynedd yn y Cheshire Regiment cyn gadael yn 30 oed i gychwyn gyrfa sifil a phriodi.
Richard Forde-Johnston
Busnes: A Space in the City Ltd
Gweithiwr proffesiynol lletygarwch ac eiddo sydd â chysylltiadau da, masnachol a brwdfrydig gyda dros 17 mlynedd o brofiad o entrepreneuriaeth ac arwain busnes mewn amgylchedd aml-frand.
Busnes: Robert Bazil Limited
Rwy'n gynghorydd busnes gyda degawdau o brofiad, yn cynnwys Cyfarwyddiaethau Bwrdd o 2 gwmni mawr gyda bron i £100M o drosiant ac yn cyflogi tua 1000 o staff. Roeddwn yn Gyfarwyddwr Gwasanaeth am 18 mlynedd (gan reoli Gwasanaeth a Chynnal a Chadw, Cyfleusterau, TGCh, Iechyd a Diogelwch, Cydymffurfiaeth, Ansawdd, Tendro a Chyllid) ac yna'n Gyfarwyddwr Masnachol am 2 flynedd (gan reoli Contractau, Cyllid, Taith y Cleient, TGCh, Iechyd a Diogelwch, Cydymffurfiaeth, Ansawdd, Tendro a Symudedd). Cyn hynny, bûm yn masnachu yn y Dwyrain Canol am 20 mlynedd.

Ar ôl dod yn weithiwr llawrydd yn 2020, gweithiais i nifer o is-gwmnïau'r Grŵp Sureserve, yn bennaf K&T Heating (trosiant o £55M), Aaron Services, Sureserve Fire and Electrical. Yna, bu i mi drawsnewid Precision Lifts (Is-gwmni £14.5M Sureserve), er mwyn ei werthu i gwmni amlganghennog Tsieineaidd. Cwblhawyd yr aseiniad hwnnw ym mis Medi 2023 cyn i mi ddod yn gwbl annibynnol a mynd i'r afael â busnesau llai yn unig. A dyma beth ydw i wedi'i wneud ers hynny.

Rwyf wedi treulio fy ngyrfa gyda busnesau mawr. Hyd yn oed ar ôl dod yn weithiwr llawrydd yn 2020, bu i mi barhau i gefnogi cwmnïau mawr gydag aseiniadau'n amrywio o gydlynu symudedd contract tai cymdeithasol o 24,000 eiddo (wedi'i gyflawni mewn 3 mis), i dendro ar gyfer contractau Nwy, Trydanol, Tân ac Adeiladu, ac achub y cwmni lifftiau (uchod) oedd ar fin mynd i'r wal ar gyfer ei werthu wedyn i grŵp Tsieineaidd. Ar gyfer yr aseiniad hwnnw, bûm yn byw yn Basildon am 7 mis. Roedd yr aseiniadau hyn yn eithriadol o heriol a hefyd yn talu'n dda iawn, ond mae fy ngwir ddiddordeb mewn helpu eraill, yn benodol cwmnïau bach neu ficro-gwmnïau hyd yn oed, timau gŵr a gwraig a busnesau newydd. Mae'n rhoi boddhad i mi ddefnyddio fy mhrofiad helaeth a'r sgiliau a ddysgais dros y blynyddoedd i gynnig cefnogaeth ymarferol, fel na fydd fy nghleientiaid yn gwneud y camgymeriadau cyffredin sy'n arwain cymaint i fethu. Rwyf hefyd yn gweithio gyda'r bobl i leihau eu straen a rhoi iddynt rywun y gallant alw arno 24/7/365/366.
None
Busnes: NTP
Mae Nigel yn ddyn busnes arloesol, grymus a hynod brofiadol sydd â’r gallu i adnabod a chreu cyfleoedd busnes gwych.
Robert Nigel Thomas
Busnes: ?
O rôl gychwynnol mewn amgylchedd gwyddonol lle datblygais sgiliau ymchwil a dadansoddi, datblygodd fy ngyrfa gyda chyfle i greu a datblygu Adran Hyfforddiant o fewn amgylchedd cynhyrchu parhaus, undebol iawn.
Rod (ney) Smith
Busnes: RpM international
Mae RpM international yn gwmni ymgynghori a mentora arbenigol sydd â phrofiad helaeth, yn rhyngwladol ac yn y DU, o reoli yn y marchnadoedd Modurol – Trin Deunyddiau - Rheilffyrdd – Diwydiannol - Morol ac Offer Cymorth ar y Tir mewn Meysydd Awyr. Gyda thros 60 mlynedd o brofiad busnes, gallwn gefnogi eich cwmni yn y farchnad heriol sydd ohoni.
Busnes: ?
Rheolwr Gyfarwyddwr, Prif Swyddog Gweithredol a Chyfarwyddwr Anweithredol medrus sy’n gweithio ar lefel Bwrdd ac yn ysgogi twf a phroffidioldeb yn llwyddiannus.
Russell Bright

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.