BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Ein Mentoriaid

Hidlo yn ôl

Sector
Ardal

251 canlyniad

Busnes: ?
Mae Nigel Nicoll CA yn rheolwr ariannol lefel uwch sy’n canolbwyntio ar hyn o bryd ar gynllunio busnes, a chynorthwyo busnesau a'r rhai sy’n awyddus i ddechrau busnes i godi arian mewn cyfnod anodd.
Nigel Nicoll
Busnes: Tropic
Rwyf i wedi arwain rhaglenni cyflymydd yn Llundain, Brighton a gogledd Cymru, lle’r oeddwn i’n mentora cannoedd o fusnesau. Oherwydd y cefndir hwn rwyf wedi tyfu rhwydwaith eang ac wedi cael profiadau helaeth yr hoffwn eu rhannu er budd perchnogion busnes yng Nghymru. Rwyf wedi cefnogi busnesau o bob cam o’r broses dyfu, yn ogystal â sylfaenwyr o bob cefndir - meddyliwch am rwystr ac mae’n debygol fy mod wedi dod ar ei draws.

Fi yw sylfaenydd Tropic hefyd, a’r cyfarwyddwr strategol, sef asiantaeth ddigidol yng Nghymru ond sy’n cefnogi busnesau ym mhob cwr o’r DU. Y cyfuniad unigryw hwn o arbenigedd busnes a sgiliau digidol yw’r ffordd orau y gallaf gefnogi busnesau sydd awydd tyfu, boed hynny’n recriwtio am y tro cyntaf, ehangu eu cyrhaeddiad, chwilio i gynyddu buddsoddiad neu ehangu.



Busnes: WeGetDesign.com
Rwyf wedi bod yn rhan o ddiwydiannau ceisiadau’r we a datblygu busnes ers dros 14 o flynyddoedd.
Busnes: Pamela Neal Consultancy
Rwyf wedi bod yn fentor a hyfforddwr busnes cymwys ers dros 20 mlynedd, yn gweithio gyda busnesau cychwynnol, a busnesau twf uchel o bob maint a sector.
Busnes: ?
Ar ôl gweithio i un o 100 cwmni Cyfnewidfa Stoc y Financial Times (FTSE) am 24 mlynedd
Busnes: Starrd Solutions Ltd
Rwy’n werthwr masnachol sydd yn canolbwyntio ar y cwsmer, gyda bron i 20 mlynedd o brofiad mewn amrywiaeth o swyddi uwch yn gweithio ar draws gwahanol farchnadoedd.
Busnes: Cheshire Concrete Products Ltd
Rheolwr gyfarwyddwr sy’n cael ei ysgogi gan ganlyniadau, hunanysgogol a medrus, sydd â hanes profedig o ddatblygu a chryfhau timau rheoli i uchafu proffidioldeb ac effeithiolrwydd cwmni.
Paul Blanchard
Busnes: PAC Business Development Ltd
Gweithio am 30+ o flynyddoedd yn y diwydiant bwyd a diod mewn swyddi gwerthu, marchnata a datblygu busnes ar draws y rhan fwyaf o sectorau masnach gan gynnwys siopau groser cadwyn, disgowntwyr, cyfanwerthu, gwasanaeth bwyd, gweithgynhyrchu contract a mwy.
Busnes: ?
Rydw i wedi gweithio yn y sector ffitrwydd am dros 25 mlynedd, yn gweithio fy ffordd i fyny o fod yn hyfforddwr i Reolwr Cyffredinol gyda rhai o'r cadwyni mwyaf yn y DU.
Busnes: Pixl Group Ltd
Rwyf wedi bod yn hunangyflogedig oddi ar 2011. Cyn 2011 roeddwn yn gyflogedig o fewn y sector Gwasanaethau Ariannol yn gweithio i Barclays, Principality ac Admiral. Yn yr holl fusnesau roeddwn yn gweithio o fewn y ffwythiant TG lle roeddwn yn cyflawni nifer o rolau, o gefnogi i reoli, ac yn olaf gan ddod yn Uwch Bensaer Datrysiadau.

Mae fy ngwybodaeth yn bennaf yn seiliedig ar y sector TG a Thelegyfathrebu, fodd bynnag, a minnau wedi bod yn gyflogedig ar ryw ffurf neu'i gilydd er pan oeddwn yn 18 oed pan ddechreuais atgyweirio cyfrifiaduron cwsmeriaid ar adeg pan oedd cyfrifiaduron gartref yn dechrau dod yn beth arferol. Rwyf wedi meithrin fy sgiliau dros y blynyddoedd oddi ar hynny ac wedi ennill llawer o wybodaeth ynghylch sut i fod yn hunangynhaliol, wrth ddarparu gwasanaeth cwsmer, o fod yn atebol a bod yn effeithiol wrth reoli disgwyliadau. Rwy'n arbenigo mewn dod â datrysiadau i heriau busnes o ddydd i ddydd.

Rwyf wedi ennill gwybodaeth eang o redeg busnes, gan ddod yn bwynt cyswllt ar gyfer gweithwyr, cwsmeriaid a'r gadwyn gyflenwi. Rwy'n arbenigo mewn diogelwch TG a chydymffurfio gyda Cyber Essentials. Mae gen i'r wybodaeth ymarferol ynghylch agweddau cyfreithiol cytundebau ac rwy'n gallu darparu cyngor ar gydrannau GDPR.

Rwy'n gyfathrebwr effeithiol, yn berson hyderus ac un sydd â sgiliau diplomyddol da. Rwy'n mwynhau gweld eraill yn llwyddo drwy'r wybodaeth a'r sgiliau rwyf wedi gallu eu rhannu.

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.