Mae marchnata yn allweddol i unrhyw fusnes, mae’n helpu i aros ar y blaen i’r gystadleuaeth ac yn eich galluogi i hyrwyddo eich busnes i’r farchnad, gan ei gwneud yn haws i gwsmeriaid brynu a chynyddu gwerthiant.
Yn syml, marchnata yw gwneud yn siŵr bod y bobl iawn yn gwybod beth sy' gennych chi i'w gynnig, eu denu nhw atoch chi ac wedyn eu cael nhw i brynu. Marchnata yw'r ffordd o gael cwsmeriaid ac mae marchnata effeithiol yn rhoi'r cwsmer yng nghanol eich busnes.
Mae marchnata'n rhoi set bwerus o arfau ichi, ac o'u cyfuno'n iawn ar gyfer eich busnes, a chynllunio'n iawn, mae’n gyrru llif cyson o gwsmeriaid yn syth at stepen eich drws. Adnoddau Marchnata
Adnoddau Marchnata
Anghofiwch geisio gwerthu i bawb. Yn hytrach, rydych chi am werthu i bobl rydych chi'n gwybod y byddan nhw am brynu’ch cynnyrch neu'ch gwasanaeth.
Mae gwybod pwy sy'n debygol o brynu'ch cynnyrch neu'ch gwasanaeth yn hollbwysig i'ch busnes.
Yn syml, marchnata yw gwneud yn siŵr bod y bobl iawn yn gwybod beth sy' gennych chi i'w gynnig, eu denu nhw atoch chi ac wedyn eu cael nhw i brynu.
Mae'n hawdd meddwl bod gennych chi syniad ardderchog am fusnes, ond, er mwyn i'ch busnes lwyddo, bydd angen ichi gael cadarnhad eich bod chi'n iawn.
Nid ynys yw busnes. Mae'n hollbwysig gwybod beth sy'n digwydd yn y byd o'ch cwmpas a gweld sut y gallai hynny effeithio ar eich busnes.
Yn y bôn, ymchwil marchnad ydy casglu gwybodaeth i'ch helpu i wneud gwell penderfyniadau.
Digwyddiadau Marchnata
Sylwer: Mae Digwyddiadur Busnes Cymru yn hyrwyddo digwyddiadau gan amrywiaeth o sefydliadau, gan gynnwys ein gwasanaethau ni'n hunain. Efallai na fydd manylion ar gyfer digwyddiadau trydydd parti dan arweiniad sefydliadau preifat neu drydydd sector ar gael yn y Gymraeg.
27 Awst 2026
Gwe-seminarau
Mae'r gweithdy hwn yn mynd â chi drwy'r...
2 Medi 2026
Gwe-seminarau
Mae'n hawdd tybio bod brand a brandio yr un peth,...
10 Medi 2026
Gwe-seminarau
Mae'n hawdd tybio bod brand a brandio yr un peth,...
18 Medi 2026
Gwe-seminarau
Gweithdy rhyngweithiol sy’n rhoi’r...
Gweld pob digwyddiad