
Mae athro sy’n awyddus i gynyddu cyfleoedd i ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg wedi defnyddio cymorth Busnes Cymru i lansio cwmni tiwtora preifat i ddarparu cymorth academaidd pwrpasol ar gyfer dysgwyr yn Gymraeg.
Gan gydnabod bod y galw lleol am diwtora trwy gyfrwng y Gymraeg yn drech na’r ddarpariaeth sydd ar gael, aeth Dafydd Jones o Benarlâg, Sir y Fflint, ati i sefydlu Tiwtora ATOM, sy’n cynnig tiwtora personol mewn mathemateg, gwyddoniaeth a bioleg trwy gyfrwng y Gymraeg, ym mis Ionawr 2024.
Trodd Dafydd, sy’n athro cymwysedig, at Busnes Cymru am gymorth i strwythuro a lansio ei fenter sy’n alinio’n uniongyrchol â nod Cymraeg 50 Llywodraeth Cymru i gynnal a hwyluso miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Chwaraeodd Ymgynghorydd Busnes Cymru, Gwawr Cordiner, ran allweddol wrth dywys Dafydd trwy’r camau cyntaf o ddatblygu’r busnes, gan ei gynorthwyo i ddod o hyd i ffyrdd effeithiol o gyflawni amcanion ei gwmni. Manteisiodd ar arweiniad fesul un a gweithdai oedd yn cynnwys sgiliau busnes hanfodol fel rheoli cyllid, gweinyddu a chynllunio strategol.
Diolch i gymorth cynhwysfawr Busnes Cymru ar gyfer cwmnïau, mae Dafydd wedi sefydlu Tiwtora ATOM ac wedi ei ehangu’n gyflym i greu gwasanaeth hyfyw a chynaliadwy sy’n cynnig dysgu â ffocws pwrpasol i fyfyrwyr Cyfnodau Allweddol 3, 4 a 5 sy’n siarad Cymraeg.
Wrth drafod yr hyn a ysbrydolodd ei wasanaeth, a chymorth Busnes Cymru a wnaeth y cyfan yn bosibl, dywedodd Dafydd:
Cododd Tiwtora ATOM o fy awydd i gael effaith ystyrlon ar fyfyrwyr sydd angen cymorth academaidd ychwanegol, ac yn arbennig siaradwyr Cymraeg a allai ffeindio bod llai o opsiynau tiwtora ar gael iddynt. Rydw i am gynnig profiad personol i bob myfyriwr lle gallant lewyrchu heb y pwysau sy’n aml yn gysylltiedig â’r ystafell ddosbarth draddodiadol.
Ers ein cysylltiadau cyntaf, mae Gwawr wedi bod yn graig o gymorth i mi. Fe wrandawodd hi arnaf i a fy syniadau am y math o wasanaeth roeddwn i am ei gynnig o’r cychwyn cyntaf, ac roedd hi’n gefnogol iddynt. Rhoddodd hynny hwb mawr i fy hunanhyder.
Cymerodd Dafydd ran mewn nifer o weminarau gyda Busnes Cymru i gynorthwyo entrepreneuriaid i ennill profiad gwerthfawr yn yr hanfodion a’r gwaith ymarferol sydd ynghlwm wrth fod yn berchen ar fusnes, gan gynnwys ‘Dechrau a Rhedeg eich Busnes eich Hun’ a ‘Rheoli eich Cyllid a’ch Trethi’.
Aeth Dafydd ymlaen i ddweud:
Cymerodd Gwawr yr amser i ddeall fy amcanion a’r sgiliau oedd gen i cyn gwneud argymhellion a’n galluogodd i gaffael a mireinio’r galluoedd y byddai eu hangen arnaf i i lansio fy nghwmni.
Mae hi wedi bod yn allweddol wrth fy nghynorthwyo i ffeindio fy ffordd trwy sialensiau rhedeg busnes, ac yn arbennig yr ochr weinyddol. Gwnaeth ei harweiniad hi’n haws o lawer i mi gychwyn arni, a theimlo’n hyderus am fy syniad i fynd yn hunangyflogedig.
Mae Dafydd yn bwriadu cyflogi rhagor o staff cyn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam, a fydd yn caniatáu iddo ganolbwyntio ar ddatblygu’r busnes ymhellach ac ehangu gallu Tiwtora ATOM i gael effaith gadarnhaol ar fyfyrwyr sy’n siarad Cymraeg.
Dywedodd Ymgynghorydd Busnes Cymru, Gwawr Cordiner:
Trwy gynnig ei wasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg, mae’n cynnig rhywbeth arbennig na all busnesau tebyg eraill yn yr ardal ei gynnig. Efallai bod hyn yn od o ystyried y cariad sydd yna at yr iaith a’r defnydd ohoni yn Sir y Fflint, sy’n amlwg o raddfa’r galw mae Dafydd wedi ei brofi.
Mae hi’n werth chweil gwybod bod y gwasanaethau rydyn ni’n eu cynnig yn arbennig i gwmnïau Cymreig yn cynorthwyo targed hanfodol bwysig Cymraeg 2025 i greu miliwn o siaradwyr Cymraeg. Mae athrawon ac entrepreneuriaid angerddol fel Dafydd yn allweddol wrth gyrraedd y nod yna, ac rwy’n edrych ymlaen at gynorthwyo twf parhaus Tiwtora ATOM.
Rwy’n gobeithio y bydd entrepreneuriaid Cymreig eraill yn dilyn esiampl Dafydd wrth gefnogi ein hiaith, a’u bod yn deall bod cymorth busnes arbenigol ar gael iddynt yn rhwydd yma yng Nghymru, yn wahanol i’r cenhedloedd eraill.
Llywodraeth Cymru sy’n ariannu Busnes Cymru. I gael rhagor o fanylion a chymorth i helpu eich busnes chi i ddarganfod cyfleoedd, ac i siarad ag ymgynghorydd arbenigol, cysylltwch â Busnes Cymru. Ewch i Hafan | Busnes Cymru neu ffoniwch 03000 6 03000. Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
Mae llawer o resymau da i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn eich busnes, a beth bynnag yw maint eich menter, mae mwy o gymorth ar gael nag erioed o'r blaen i'ch helpu. Mae’r dudalen yma, Cymraeg Yn Eich Busnes | Busnes Cymru, yn dangos sut i gychwyn eich taith i ddatblygu’r Gymraeg, a’r cymorth sydd ar gael gan wahanol sefydliadau i’ch helpu.