Cefndir Busnes

Sefydlwyd GD Harries yn 1977 gan Gerald Harries fel busnes cludo nwyddau. Bellach, GD Harries yw’r cynhyrchydd agregau wedi’u cloddio mwyaf yng ngorllewin Cymru, gan gynnig gwasanaethau sy’n cynnwys unrhyw beth i’w wneud ag agregau, o gerrig crai i gynnyrch gwerth ychwanegol fel tarmacadam, concrit, yn ogystal â gwasanaethau cysylltiedig fel cludo nwyddau, llogi offer, canolfan gwasanaethu cerbydau masnachol ac agregau addurnol. 

Heddiw, mab Gerald, Ian a’i wraig Julie, yw perchnogion a rheolwyr GD Harries. Ac yntau’n entrepreneur naturiol, mae gweledigaeth a phenderfyniad Ian wedi gweld y busnes yn datblygu i'r sefydliad llewyrchus a welwn heddiw. Dywed Ian mai'r allwedd i’w lwyddiant yw ymateb i anghenion cwsmeriaid a gwneud y gorau o'r hyn sydd o’i amgylch; dim ond cyfleoedd mae Ian yn ei weld nid rhwystrau!

I gyd-fynd ag uchelgais a thwf mawr y busnes, gwnaeth GD Harries recriwtio tîm rheoli cymwys i helpu gyda’i nodau strategol a gyda’i gilydd maent yn gwneud penderfyniadau cyflym a chydlynol.

Drwy fuddsoddi’n ddoeth a mentro’n ofalus, mae GD Harries yn awr yn berchen ar saith chwarel, tair safle cynhyrchu tar a chwe safle cynhyrchu concrit. Mae GD Harries yn gosod ei gwsmeriaid, ei gyflenwyr a’i weithlu rhanbarthol ar ben ei flaenoriaethau strategol. Fel busnes y mae ei nwyddau ar gael ar draws y byd, mae’r busnes yn parhau i arallgyfeirio ac i ychwanegu gwerth er mwyn parhau yn gyflenwr o ddewis yn y meysydd maent yn gweithredu ynddynt. Mae'r busnes yn gallu bodloni anghenion cwsmeriaid oherwydd bod ganddo gyflenwad sicr o gynnyrch sy’n ei alluogi i reoli ei gadwyn gyflenwi; mae hyn yn rhoi mantais gystadleuol sylweddol o ran hyblygrwydd, bod yn ymatebol a phrisiau.

Mae gan GD Harries sylfaen cleientiaid helaeth yn cyfateb i’r amrywiaeth eang o wasanaethau y mae’n eu cyflenwi. Mae ei gleientiaid mawr yn cynnwys sawl awdurdod unedol, Costain, Sisk a WRE i enwi dim ond ychydig. Mae'r gwaith yn ddibynnol gan mwyaf ar brosiectau peirianneg sifil canolig a sylweddol ar draws amrywiaeth eang o sectorau. Yn aml mae'r busnes yn darparu dull un contractwr (turnkey approach) ar gyfer cleientiaid a daw 75% o’i fusnes gan gleientiaid sy’n dod yn ôl atynt dro ar ôl tro. 

Twf Busnes

Mae GD Harries wedi datblygu’n sylweddol ers ei ddechreuad fel busnes cludo nwyddau a oedd yn cyflogi 16 o ddynion i fusnes aml-ddimensiwn sydd bellach yn cyflogi dros 230 o bobl. Yn ystod yr amser hwn, mae’r hyn a brynwyd gan y cwmni wedi cyfrannu at dwf sylweddol y busnes, yn benodol prynu FH Gilman yn 2011 a oedd yn cynnwys pum chwarel, dau safle cynhyrchu tar a dau safle cynhyrchu concrit.

Roedd prynu FH Gilman yn risg fawr i GD Harries, a wynebodd y busnes sawl rhwystr ar hyd y ffordd. Serch hynny, roedd gan Ian a’i dîm rheoli ffydd y byddent yn gallu cyflawni ac roedd y darlun ehangach yn glir yn eu meddyliau. Gwnaethant ddal ati a llwyddo i brynu cwmni Gilman, gan ddyblu trosiant y busnes dros nos o £10 miliwn i £20 miliwn! 

 

 

GD Harries Timeline


Ymyrraeth Cyflymu Twf

Mae Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru yn cael ei hariannu gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru. Cofrestrodd GD Harries am y tro cyntaf ar y rhaglen yn ystod haf 2015 a gwneud hynny am ei fod yn awyddus i gael cymorth annibynnol ac arbenigol i ategu ei adnoddau mewnol a oedd eisoes dan straen. Roedd hefyd am gael rhagor o help mewn meysydd nad oedd ganddo ddigon o arbenigedd ynddynt. Mae'r gefnogaeth a dderbynnir yn sensitif i'r farchnad, ond yn canolbwyntio’n gyffredinol ar gynlluniau busnes strategol, cymorth penodol i brosiectau er mwyn cael gafael ar grantiau allanol a chyngor a mewnbwn manwl am ffyrdd o gael cyllid ar gyfer gofynion arbenigol.

Ymunodd GD Harries â'r Rhaglen Cyflymu Twf gan iddynt sylweddoli bod y cymorth a oedd ar gael yn cyd-fynd â’u hanghenion penodol hwy ac yn cael ei ddarparu gan ymgynghorwyr ag arbenigedd mawr yn y farchnad. Dywedodd Janet Phillips, Rheolwr Cyffredinol y cwmni “Pan fydd angen cymorth allanol arnom, gan unrhyw sefydliad, rydym am weld y cymorth hwnnw nid yn unig yn gwneud y gwaith gofynnol ond hefyd yn ychwanegu gwerth at ein busnes. Roedd yr hyfforddiant rydym wedi’i gael gan y Rhaglen Cyflymu Twf yn ysgogol a threiddgar iawn ac fe fu o gymorth mewn sawl maes pwysig. Edrychwn ymlaen at barhau i gyfrannu at y rhaglen yn y dyfodol gan y bydd cyfleoedd ac ansicrwydd yn y farchnad yn golygu y bydd yn rhaid i ni gael sgiliau arbenigol nad ydynt ar gael gennym yn fewnol. Rydym yn gwybod bod ymgynghorwyr deallus a sgiliau eang ganddynt ar gael gan Raglen Cyflymu Cymru a byddwn yn siŵr o ffonio ein Rheolwr Perthynas, wrth i ofynion newydd ddod i’r amlwg.  Bydd manteisio ar y fath gyfoeth o arbenigedd yn helpu i sicrhau ein bod yn gwneud y penderfyniadau gorau er lles y busnes.  Yn dâl am y cymorth arbenigol hwn, rydym yn gwybod y bydd yn rhaid i ni dyfu, creu swyddi newydd a marchnata ein gwasanaethau y tu allan i Gymru” .

 

GD Harries Haulage

 

GD Harries Haulage

 

Beth am y dyfodol?

Mae GD Harries yn dal yn fusnes hyderus ac uchelgeisiol. Mae’n bwriadu datblygu i'r dwyrain y tu allan i Gymru ac mae’n cynyddu ei allu i ennill a chyflenwi prosiectau mwy a mwy cymhleth. Nid yw'r cwmni yn ystyried bod terfynau ac mae newid cyson yn rhan o’i DdNA. 
 

GD Harries Haulage