Rydym wedi bod yn siarad â’r busnesau yr ydym yn gweithio â nhw, yn darganfod mwy am eu taith fusnes, eu huchelgeisiau ar gyfer y dyfodol ac awgrymiadau i lwyddo yn y dyfodol. Y busnes diweddaraf sy’n cael sylw yw PF Director.

Sefydlwyd PF Director gan Gareth Salomon. Mae’n gyfrifydd siartredig sydd wedi bod yn helpu perchnogion busnes i ymdrin â’u cyfrifoldebau cyfrifyddu a threth ers 2003. Sylwodd Gareth ar fwlch rhwng yr hyn y mae cyfrifydd arferol yn ei wneud a disgwyliadau ei gleientiaid o’r hyn y dylai fod yn ei wneud. Yn 2018, dechreuodd ddatblygu PF Director – ateb cynghori deallus ar y we ar gyfer cyfrifwyr, cynghorwyr ariannol ac arbenigwyr twf.

Yma, mae Gareth Salomon yn rhannu’r hyn y mae wedi’i ddysgu ar ei daith fusnes hyd yma.

Dywedwch wrthym am PF Director
Mae PF Director yn canolbwyntio ar y perchennog busnes, yn hytrach nag edrych ar y busnes yn unig. Rydym yn bwriadu lansio yn hydref 2019, ac mae cynghorwyr rhagweithiol o bob cwr o’r DU wedi dangos cryn dipyn o ddiddordeb yn ein busnes. Rwy’n disgwyl recriwtio mwy o bobl i’r tîm wrth i’r busnes dyfu yn ystod y misoedd nesaf.

Pan ddechreuais weithio ar PF Directorv, roeddwn eisoes wedi bod yn rhedeg cwmni cyfrifyddu bach am 10 mlynedd. Roedd hyn wedi golygu yr oedd yn rhaid imi ddatblygu syniad PF Director yn ogystal â rhedeg cwmni. Yna, fe ddarllenais yn y cyfryngau cymdeithasol am ofod cydweithio yn Sgwâr y Dref, Wrecsam a phenderfynais ddefnyddio’r Ganolfan Fenter fel fy ngweithle tra oeddwn yn gweithio ar PF Director. Yno, cefais gyfle i gofrestru i Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru a wnaeth fy helpu i ddatblygu’r cysyniad yn gyflymach ac yn fwy strwythuredig. Cymerais ran mewn digwyddiad cyflwyno syniadau yn ICE Cymru yng Nghaerffili ym mis Gorffennaf 2019 sydd wedi agor y drysau i gyfleoedd pellach.

 

 

Beth yw eich adegau mwyaf balch mewn busnes hyd yma?
Mae’n rhaid imi ddweud, rwy’n falch o’r ffordd rwy’n rheoli fy amser i ymdrin â’r cwmni cyfrifyddu a’r broses ddatblygu newydd. Efallai nad yw hyn yn swnio’n rhyw lawer, ond pan ydych yn dechrau busnes ac yn gweithio’n llawn-amser, mae blaenoriaethu a gwneud popeth sydd ei angen yn gallu bod yn anodd. Yn y pen draw, does dim modd gwneud popeth. Roedd yn rhaid imi ddysgu dirprwyo ychydig o’r gwaith rwyf o hyd wedi’i ei wneud o fewn y cwmni cyfrifyddu i eraill. Roedd hyn wedi rhoi’r amser imi weithio ar PF Director.

 

Pe byddech yn dechrau eto, beth fyddech yn ei wneud yn wahanol?
Pe byddwn yn sefydlu PF Director o’r dechrau eto, byddwn yn llunio cysyniad  bras – ar bapur neu ar ffurf bwrdd cyflwyno syniadau (pitch deck) – o’r hyn yr oeddwn am ei gyflawni a siarad â chwsmeriaid targed lawer ynghynt. Mae hyn yn gwneud y defnydd gorau posibl o amser ac arian, gan ganiatáu ichi ganolbwyntio ar y gwaith sydd fwyaf perthnasol i anghenion eich cwsmeriaid.

 

 

Sut y mae cymorth gan Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi helpu eich busnes?
Mae Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru yn fy helpu i strwythuro prosesau sefydlu a thwf PF Director o amgylch fframwaith sydd wedi’i brofi, gan roi’r cyfle gorau i’r busnes lwyddo. Mae Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi rhoi’r arbenigedd inni na fyddem fel arall wedi gallu manteisio arno’n hawdd.

 

Pa gyngor a chyfarwyddyd y byddech yn eu rhoi i fusnesau eraill sy’n cychwyn arni?
Peidiwch â gadael i ganmoliaeth ddiamod gan aelodau eich teulu am eich syniad busnes gymylu eich synnwyr cyffredin. Defnyddiwch y ganmoliaeth hon i’ch ysgogi, nid yn sail i’ch penderfyniadau busnes.

Siaradwch yn helaeth am eich cynnyrch/gwasanaeth â’ch marchnad darged i gael amcan o’r galw gan y rheini sy’n bwysig  cyn bod y brif broses ddatblygu yn dechrau.

Gwnewch yn siŵr bod y bobl sydd o’ch amgylch yn rhai gwybodus ac yn arbenigwyr yn eu maes.

Gallwch barhau i weithio mewn swydd a dechrau eich busnes eich hunan ar yr un pryd. Byddwn yn gwybod pan, neu os hyd yn oed, fo’r amser yn iawn ichi roi gorau i’ch swydd a dechrau gweithio i chi eich hunan yn llawn-amser.

Mae’r ffaith nad oes unrhyw un arall wedi rhoi eich syniad ar waith o’r blaen, fel arfer, yn rhybudd.

Weithiau, mae’r syniadau busnes gorau yn ymgais i wella cynnyrch neu wasanaeth sydd eisoes yn bodoli. 




 

Dysgu mwy am PF Director.
 

Dysgwch ragor am Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru (AGP).

Share this page

Print this page