Mae cwmni technoleg gwybodaeth blaenllaw wrth ei fodd ar ôl i’w weithlu a’i drosiant gynyddu bob blwyddyn ers iddo gael ei brynu. Mae disgwyl hefyd i bethau barhau i wella gan fod Risc IT Solutions yn Llandudno am recriwtio tri aelod newydd o staff a phrynu cwmni arall er mwyn ehangu’n bellach yn y Deyrnas Unedig. Gan siarad yn Church Walks, pencadlys godidog y cwmni, dywedodd pennaeth y cwmni, Jeremy Keane, fod y cwmni, sy’n...
Entrepreneur tybiau twym yn ennill gwobr fusnes fyd-eang
Mae dyn busnes wedi ennill gwobr fusnes fyd-eang uchel ei pharch. Rhoddwyd gwobr Entrepreneur Rhagorol i Gareth Jones, sylfaenydd UK Leisure Living, yn seremoni Gwobrau Rhagoriaeth Busnes Byd-eang 2018. Cafodd Mr Jones, ag iddo gwmnïau yng Nghonwy a Chaer, ei wobrwyo am fod yn entrepreneur llwyddiannus dros y chwe blynedd ddiwethaf. Dywedodd y beirniaid: “Mae Gareth Jones yn entrepreneur sydd wrthi’n ddi-baid yn gweithio ar syniadau newydd. Ers ennill y teitl Cyfarwyddwr Ifanc y Flwyddyn...
Mae dau allan o’r tri enillydd yn nigwyddiad Pitch@Palace ar y Rhaglen Cyflymu Twf
Wedi rownd o gyflwyno eu syniadau, cafodd tri o enillwyr eu cyhoeddi gan Ddug Efrog, wedi eu dewis gan y beirniaid, gan gynnwys Alumni Pitch @Palace, ac wedi ystyried pledleisiau’r gynulleidfa. Cafodd Pitch @Palace ei sylfaenu gan Ddug Efrog yn 2014, fel platfform i ddatblygu ac ysgogi gwaith entrepreneuriaid ledled y DU. Mae’r rhaglen yn cysylltu entrepreneuriaid a busnesau newydd gyda chefnogwyr posibl, gan gynnwys Prif Swyddogion Gweithredol, dylanwadwyr, buddsoddwyr, mentoriaid a phartneriaid busnes. O’r...
Cyhoeddi enillwyr y rhaglen ar gyfer entrepreneuriaid yn Los Angeles, ‘Meet the Makers’
Ym mis Mai cyhoeddodd GlobalWelsh fenter newydd drwy ei GlobalWelsh Academy. Gwahoddodd Meet the Makers – dan nawdd Pelican Products, cwmni dylunio a gweithgynhyrchu rhyngwladol – arweinwyr uchelgeisiol ac arloesol yng Nghymru i gymryd rhan mewn dosbarth meistr ym mhencadlys y cwmni yn Los Angeles, California. Roedd yn bosibl cynnig y rhaglen unigryw hon diolch i bartneriaeth rhwng GlobalWelsh a Pelican Products Incorporated - cwmni blaenllaw o ran dylunio a gweithgynhyrchu casys amddiffynnol perfformiad uchel...
Colour Tone yn lansio cenhedlaeth newydd o sypiau rheoli y gall synwyryddion tonfeddi isgoch agos (NIR) eu gweld.
O safbwynt y diwydiant plastigau, mae modd goresgyn heriau drwy fod yn arloesol. Mae hyn yn sicr yn wir yn achos Colour Tone Masterbatch o Fedwas. Os mai pris sydd wedi bod yn gyfrifol yn y gorffennol am y ffaith nad yw sypiau rheoli y gall tonfeddi NIR eu gweld wedi'u mabwysiadu'n eang ar gyfer deunyddiau pecynnu plastig du, yna dylid bod yn falch bod y cwmni yn cyhoeddi ei fod yn torri tir newydd...