Wyt ti rhwng 16 a 21 mlwydd oed ac â diddordeb mewn datblygu gyrfa yn y diwydiant amaeth? Os felly, dyma dy amser di…
Bydd Academi yr Ifanc, sydd wedi'i ariannu'n llawn, yn cynnig:
- Cyfleoedd i gwrdd â rhai o’r bobl fwyaf blaenllaw yn y diwydiant bwyd ac amaeth
- Rhaglen o weithgareddau amrywiol i dy ysbrydoli i ddarganfod llwybr gyrfa
- Hyfforddiant ar gyfer sgiliau cyfathrebu, ymdrin â'r wasg a'r cyfryngau a sgiliau trafod
- Cyfleoedd i ennill profiad o gadeirio cyfarfodydd, lleisio dy farn a mynegi dy safbwynt mewn modd effeithiol
- Ffrindiau oes a llwybr i mewn i rwydwaith cymorth amhrisiadwy a fydd yn agor drysau ac yn creu cyfleoedd
Mae’r cyfnod ymgeisio ar gyfer Academi yr Ifanc 2026 nawr ar gau.
Rhaglen Academi yr Ifanc | ||
Cychwyn a chyflwyniadau | Sioe Frenhinol Cymru | 21 Gorffennaf 2026 |
Sesiwn 1 | Gogledd Cymru | 11-13 Awst 2026 |
Sesiwn 2 | Northumberland, Gogledd Lloegr | 11-13 Medi 2026 |
Sesiwn 3 | Gwlad yr Iâ | 25-29 Hydref 2026 |
Seremoni wobrwyo’r Academi Amaeth | Y Ffair Aeaf | 30 Tachwedd 2026 |
Mae posibilrwydd y gallai lleoliadau ar gyfer y sesiynau newid o ganlyniad i ffactorau allanol.
Rhaid i ymgeiswyr ar gyfer Academi yr Ifanc fod dros 16 oed ac o dan 21 oed ar 11 Awst 2026.
Gall ymgeiswyr dros 21 oed wneud cais am yr Academi Amaeth (Rhaglen Hŷn). Rhaid i bob ymgeisydd gofrestru gyda Cyswllt Ffermio a chwblhau Cynllun Datblygu Personol ar ei gyfrif Hwb Sgiliau.
PWYSIG - Rhaid i ymgeiswyr fynychu pob un o'r sesiynau uchod a rhaid iddynt feddu ar basbort sy'n ddilys am o leiaf 6 mis ar ôl yr ymweliad tramor. Gall methu ag ymrwymo'n llawn i holl brofiad yr Academi Amaeth arwain at gael eich diarddel o'r rhaglen a bydd gofyn i chi ad-dalu costau'r daith. Ni all aelodau fod yn absennol o sesiynau preswyl, oni bai bod unrhyw un o’r canlynol yn berthnasol:
- Profedigaeth agos yn y teulu
- Salwch personol a nodyn meddyg dilys
- Cyfrifoldebau gofal brys ac anochel am unigolyn dibynnol
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â'ch Swyddog Datblygu Lleol.
Neu cysylltwch ag Elin Jones, Hwylusydd yr Academi Amaeth drwy e-bostio elin.jones2@mentera.cymru neu ffonio 07538 405 049.