BETA

You're viewing an updated version of this site - your feedback will help us to improve it.

Thomas Richards

Cilmery, Powys

Thomas Richards  Mae Thomas Richards yn fyfyriwr Peirianneg Amaethyddol Lefel 3 yng Ngholeg Sir Gâr, Gelli Aur, yng Nghanolbarth Cymru, lle mae’n cyfuno ei astudiaethau academaidd gyda phrofiad ymarferol ar y fferm deuluol gymysg sy’n cadw bîff a defaid. Mae’n cymryd rhan weithredol yn y gwaith o redeg y busnes o ddydd i ddydd, gan gyfrannu at reoli da byw, a datblygu dealltwriaeth o’r heriau sy’n wynebu ffermydd teuluol modern.

Mae Thomas wedi datblygu diddordeb brwd mewn peiriannau a pheirianneg amaethyddol, gyda chymorth profiad gwaith gyda chwmni Ffynon Tractors, lle bu’n cynorthwyo peirianwyr ac yn gwella ei sgiliau datrys problemau ymarferol a’i sgiliau technegol. Mae ei ymrwymiad i’w astudiaethau wedi cael ei gydnabod drwy ennill Cwpan Goffa Gwili Jones am y Myfyriwr Peirianneg Amaethyddol Gorau.  

Ochr yn ochr â’i waith coleg a’i waith ar y fferm, mae Thomas yn aelod gweithgar o Glwb Ffermwyr Ifanc Beulah, lle mae’n cyfrannu at nifer o ddigwyddiadau cymunedol, codi arian a mentrau lleol. Y tu hwnt i amaethyddiaeth, mae’n mwynhau rygbi a threulio amser yn yr awyr agored.

Wrth edrych tua’r dyfodol, nod Thomas yw symud ymlaen i addysg uwch cyn dychwelyd i ddatblygu’r fferm deuluol i fod yn fusnes cynaliadwy a gwydn. Trwy Raglen yr Ifanc, mae’n awyddus i ehangu ei wybodaeth, edrych ar systemau newydd ac adeiladu rhwydweithiau newydd a fydd yn cynorthwyo ei yrfa ym myd amaeth at y dyfodol.


I gael cymorth neu gyngor busnes ffoniwch

03456 000 813

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30yb a 5yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.