BETA

You're viewing an updated version of this site - your feedback will help us to improve it.

Academi Amaeth 2026

Ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o arloeswyr ac entrepreneuriaid ffermio yng Nghymru

Mae’r Academi Amaeth, sy’n darparu rhaglen lawn o hyfforddiant, mentora, cymorth ac arweiniad dros 3 sesiwn preswyl ddwys gan gynnwys taith astudio dramor, yn cynnwys 2 elfen benodol:

Academi Amaeth - ar gyfer unigolion dros 21 oed ac wedi ei hanelu at gefnogi ac ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o entrepreneuriaid ac arloeswyr blaengar y byd amaeth yng Nghymru

Academi yr Ifanc - wedi ei hanelu at gynorthwyo pobl ifanc rhwng 16 a 21 mlwydd oed sy’n gobeithio dilyn gyrfa neu sefydlu busnes yn y diwydiant bwyd neu amaeth.

Mae'r cyfnod ymgeisio ar gyfer Academi Amaeth 2026 nawr ar agor. Cyflwynwch eich cais cyn hanner nos, Dydd Sul 14 Mehefin 2026. 

Cliciwch ar y dolenni isod am fwy o fanylion am y rhaglenni.


Astudiaethau Achos

“Byddwn yn argymell i unrhyw un wneud cais yn fawr iawn, nid yn unig y mae’n gyfle gwych i ymweld â busnesau rhagorol yn y DU a thramor i gasglu syniadau i’w rhoi ar waith yn eich busnes eich hun ond mae hefyd yn ffordd wych o gwrdd ag unigolion o’r un anian o bob cwr o Gymru a fydd yn dod yn

“Mae cwrdd â chymaint o ffermwyr, pobl fusnes, arbenigwyr sector a mentoriaid profiadol a deallus wedi fy ysbrydoli i newid safbwynt, nid yn unig o ran fy nyheadau personol, ond bu iddynt hefyd roi’r hyder i mi osod safonau uwch ar gyfer y fferm.”

“Ni fyddem wedi cyrraedd y fan yma heb yr hyder, y sgiliau, y ffrindiau newydd a’r rhwydweithiau cefnogi a gefais drwy’r rhaglen Academi Amaeth, ac rydw i mor ddiolchgar am y cyfle.”

“Mae’r cymorth a’r ddealltwriaeth a gefais gan bawb o’r eiliad y gwnes i gyflwyno fy nghais wedi bod yn anhygoel; heb y cymorth ychwanegol hwnnw, ni fyddwn i byth wedi gallu cael mynediad at gynifer o brofiadau gwerthfawr a chael cymaint o wybodaeth i’w rhoi ar waith wrth ddatblygu fy musnes yn y

“Byddwch yn hyderus yn eich gallu i roi cynnig ar rywbeth na fyddech wedi’i ystyried yn y gorffennol. Roeddwn i’n tueddu i berswadio fy hun i beidio â rhoi cynnig ar bethau, ac i gredu nad dyma’r amser iawn i fanteisio ar gyfle, ond rydw i wedi gweld bod manteision i wthio fy hun y tu hwnt i’r hyn


I gael cymorth neu gyngor busnes ffoniwch

03456 000 813

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30yb a 5yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.