BETA

You're viewing an updated version of this site - your feedback will help us to improve it.

Academi yr Ifanc

Wyt ti rhwng 16 a 21 mlwydd oed ac â diddordeb mewn datblygu gyrfa yn y diwydiant amaeth? Os felly, dyma dy amser di… 

Agri AcademyBydd Academi yr Ifanc, sydd wedi'i ariannu'n llawn, yn cynnig:

  • Cyfleoedd i gwrdd â rhai o’r bobl fwyaf blaenllaw yn y diwydiant bwyd ac amaeth
  • Rhaglen o weithgareddau amrywiol i dy ysbrydoli i ddarganfod llwybr gyrfa
  • Hyfforddiant ar gyfer sgiliau cyfathrebu, ymdrin â'r wasg a'r cyfryngau a sgiliau trafod
  • Cyfleoedd i ennill profiad o gadeirio cyfarfodydd, lleisio dy farn a mynegi dy safbwynt mewn modd effeithiol
  • Ffrindiau oes a llwybr i mewn i rwydwaith cymorth amhrisiadwy a fydd yn agor drysau ac yn creu cyfleoedd  

 

Mae’r cyfnod ymgeisio ar gyfer Academi yr Ifanc 2026 nawr ar gau. 

 

Rhaglen Academi yr Ifanc 

Cychwyn a chyflwyniadau 

Sioe Frenhinol Cymru 

21 Gorffennaf 2026 

Sesiwn 1 

Gogledd Cymru 

11-13 Awst 2026 

Sesiwn 2 

Northumberland, Gogledd Lloegr 

11-13 Medi 2026 

Sesiwn 3 

Gwlad yr Iâ 

25-29 Hydref 2026 

Seremoni wobrwyo’r Academi Amaeth 

Y Ffair Aeaf 

30 Tachwedd 2026 

 

Mae posibilrwydd y gallai lleoliadau ar gyfer y sesiynau newid o ganlyniad i ffactorau allanol. 

Rhaid i ymgeiswyr ar gyfer Academi yr Ifanc fod dros 16 oed ac o dan 21 oed ar 11 Awst 2026.

Gall ymgeiswyr dros 21 oed wneud cais am yr Academi Amaeth (Rhaglen Hŷn). Rhaid i bob ymgeisydd gofrestru gyda Cyswllt Ffermio a chwblhau Cynllun Datblygu Personol ar ei gyfrif Hwb Sgiliau.

PWYSIG - Rhaid i ymgeiswyr fynychu pob un o'r sesiynau uchod a rhaid iddynt feddu ar basbort sy'n ddilys am o leiaf 6 mis ar ôl yr ymweliad tramor. Gall methu ag ymrwymo'n llawn i holl brofiad yr Academi Amaeth arwain at gael eich diarddel o'r rhaglen a bydd gofyn i chi ad-dalu costau'r daith. Ni all aelodau fod yn absennol o sesiynau preswyl, oni bai bod unrhyw un o’r canlynol yn berthnasol:

  • Profedigaeth agos yn y teulu
  • Salwch personol a nodyn meddyg dilys
  • Cyfrifoldebau gofal brys ac anochel am unigolyn dibynnol 

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â'ch Swyddog Datblygu Lleol.  

Neu cysylltwch ag Elin Jones, Hwylusydd yr Academi Amaeth drwy e-bostio elin.jones2@mentera.cymru neu ffonio 07538 405 049. 

 


I gael cymorth neu gyngor busnes ffoniwch

03456 000 813

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30yb a 5yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.