Dyffryn Conwy, Llanrwst
Mae Sion Arfon Roberts wedi’i leoli yn Nyffryn Conwy, ger Llanrwst, lle mae’n gweithio ar y cyd â’i dad a’i frawd ar y fferm deuluol, gan gyfuno cynhyrchu da byw gyda gwaith contractio amaethyddol. Mae’r busnes yn canolbwyntio ar fagu lloi i’w gwerthu fel gwartheg stôr neu’n dew ynghyd ag ystod eang o weithgareddau contractio, llogi peiriannau a gwaith tir.
Trwy ei waith ar y fferm gartref, mae Sion wedi magu profiad ymarferol mewn rheoli da byw, systemau bwydo a rhedeg fferm gymysg a menter gontractio o ddydd i ddydd. Mae ganddo ddiddordeb penodol yn natblygiad y stoc ac mae’n ymfalchïo mewn gweld anifeiliaid yn datblygu ac yn perfformio.
Mae Sion yn aelod gweithgar ac ymroddedig o Glwb Ffermwyr Ifanc Llanrwst, lle mae wedi cyflawni rolau arweinyddiaeth gan gynnwys Cadeirydd ac Is-gadeirydd. Mae wedi cynrychioli ei Sir mewn cystadlaethau siarad cyhoeddus a barnu stoc, gan gynnwys cystadlu ar lefel genedlaethol, sydd wedi ei gynorthwyo i fagu hyder, sgiliau cyfathrebu a gwybodaeth am y diwydiant.
Gan edrych tua’r dyfodol, mae Sion yn gobeithio cymryd yr awennau ar y fferm ac ehangu’r ochr da byw a pharhau i ddatblygu ei fusnes contractio gyda’i frawd. Trwy Raglen yr Ifanc, mae’n awyddus i gwrdd ag unigolion o’r un anian, cyfnewid syniadau a chasglu gwybodaeth am wahanol systemau ffermio yng Nghymru a thu hwnt.