BETA

You're viewing an updated version of this site - your feedback will help us to improve it.

George Lloyd Thomas

Llangynog, Caerfyrddin

Ellis George Lloyd Thomas  Mae Ellis George Lloyd Thomas yn hanu o Langynog, ger Caerfyrddin, lle mae’n gweithio llawn amser ar y fferm laeth deuluol sy’n cadw 400 o wartheg. Wedi iddo ymuno â’r busnes ar sail lawn amser ar ddechrau 2026, mae wedi cymryd cyfrifoldebau sylweddol, gan gynnwys magu lloi, bwydo dogn cymysg cyflawn ac ystod eang o weithrediadau fferm o ddydd i ddydd, gan hefyd ddechrau cyfrannu at benderfyniadau ar y fferm.

Fel ffermwr pumed genhedlaeth, mae George yn cyfuno profiad ymarferol gyda hyfforddiant amaethyddol ffurfiol, wedi iddo gwblhau Diploma Technegol Lefel Uwch mewn Amaethyddiaeth yng Ngholeg Sir Gâr, Gelli Aur. Mae ei agwedd iach tuag at waith a’i frwdfrydedd dros ddysgu’n amlwg yn ei gyfrifoldebau ar y fferm a’i ymrwymiad parhaus i hyfforddiant a datblygu sgiliau.

Mae George hefyd wedi dangos mentergarwch wrth arallgyfeirio’r busnes teuluol, gan ddatblygu menter tyfu pwmpenni sydd wedi datblygu i fod yn atyniad llwyddiannus i ymwelwyr, gan groesawu miloedd o bobl bob blwyddyn a chodi arian sylweddol er budd elusennau lleol.

Fel aelod gweithgar o Glwb Ffermwyr Ifanc Sanclêr, mae George yn gwerthfawrogi cyfleoedd i ddysgu gan eraill a rhannu syniadau o fewn y sector. Gan edrych tua’r dyfodol, ei nod yw parhau i adeiladu’r fferm deuluol, archwilio cyfleoedd i arallgyfeirio ac atgyfnerthu cynaliadwyedd hirdymor y busnes. Trwy Raglen yr Ifanc, mae’n awyddus i ehangu ar ei wybodaeth, magu hyder a dysgu gan systemau ffermio llwyddiannus ledled Cymru a thu hwnt. 


I gael cymorth neu gyngor busnes ffoniwch

03456 000 813

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30yb a 5yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.