Wyt ti’n frwdfrydig dros ffermio a dy ddyfodol? Os felly, dyma dy amser di…
Nod Academi Amaeth Cyswllt Ffermio yw:
- Gwella eich dealltwriaeth o faterion sy'n effeithio ar lwyddiant eich busnes
- Gwella eich ymwybyddiaeth o'r cyfleoedd a’r bygythiadau sy'n wynebu eich busnes yn y dyfodol
- Cynorthwyo datblygiad personol trwy weithdai a seminarau
- Cynnig cyfle i gwrdd ag arbenigwyr ac arweinwyr busnes yn y diwydiant
- Creu amgylchedd i wella sgiliau rheoli busnes
- Adeiladu rhwydwaith o’r busnesau amaethyddol mwyaf blaengar yng Nghymru
- Bydd ymgeiswyr yn cael cymorth un i un gan fentor profiadol. Bydd ‘Her yr Academi’ yn cynnwys paratoi cynllun rheoli ar gyfer fferm deuluol weithredol.
Mae'r cyfnod ymgeisio ar gyfer Academi Amaeth 2026 nawr ar agor. Cyflwynwch eich cais cyn hanner nos, Dydd Sul 14 Mehefin 2026.
Rhaglen yr Academi Amaeth | ||
Cychwyn a chyflwyniadau | Sioe Frenhinol Cymru | 21 Gorffennaf 2026 |
Sesiwn 1 | Iwerddon | 17-19 Fedi 2026 |
Sesiwn 2 | Gwlad y Basg, Gogledd Sbaen | 5-9 Hydref 2026 |
Sesiwn 3 | Ceredigion, Cymru | 9-11 Tachwedd 2026 |
Seremoni wobrwyo’r Academi Amaeth | Y Ffair Aeaf, Llanelwedd | 30 Tachwedd 2026 |
Mae posibilrwydd y gallai lleoliadau ar gyfer y sesiynau newid o ganlyniad i ffactorau allanol.
Rhaid i ymgeiswyr ar gyfer yr Academi Amaeth fod dros 21 oed ar 11 Awst 2026.
Gall ymgeiswyr sy'n iau na 21 oed wneud cais am Academi yr Ifanc. Rhaid i bob ymgeisydd gofrestru gyda Cyswllt Ffermio a chwblhau Cynllun Datblygu Personol ar ei gyfrif Hwb Sgiliau.
PWYSIG - Rhaid i ymgeiswyr fynychu pob un o'r sesiynau uchod a rhaid iddynt feddu ar basbort sy'n ddilys am o leiaf 6 mis ar ôl yr ymweliad astudio. Gall methu ag ymrwymo'n llawn i holl brofiad yr Academi Amaeth arwain at gael eich diarddel o'r rhaglen a bydd gofyn i chi ad-dalu costau'r daith. Ni all aelodau fod yn absennol o sesiynau preswyl, oni bai bod unrhyw un o’r canlynol yn berthnasol -
- Profedigaeth agos yn y teulu
- Salwch personol a nodyn meddyg dilys
- Cyfrifoldebau gofal brys ac anochel am unigolyn dibynnol
Gwneud cais nawr
If you need a more accessible version of this document please email businesssupport@gov.wales. Please tell us the format you need. If you use assistive technology please tell us what this is.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â'ch Swyddog Datblygu Lleol.
Neu cysylltwch ag Elin Jones, Hwylusydd yr Academi Amaeth drwy e-bostio elin.jones2@mentera.cymru neu ffonio 07538 405 049.