Bangor, Gwynedd
Mae Sallie Ann Roberts yn weithiwr amaethyddol proffesiynol yng Ngwynedd ac yn cyfuno ei rôl fel Gweinyddwr Marchnad Da Byw â datblygu ei menter dda byw ei hun. Mae ei gwaith yn y farchnad wedi rhoi cipolwg gwerthfawr iddi ar systemau da byw, deinameg masnach ac ymgysylltiad â ffermwyr.
Ochr yn ochr â hyn, mae Sallie yn adeiladu ei busnes ei hun, gan reoli moch, defaid a gwartheg, gyda ffocws clir ar ansawdd a chynaliadwyedd. Mae ei chefndir mewn addysg amaethyddol, gan gynnwys profiad fel tiwtor a chymwysterau mewn Rheoli a Lles Anifeiliaid, yn darparu sylfaen dechnegol a chyfathrebu cryf.
Mae Sallie yn arbennig o frwd dros gryfhau cysylltiadau rhwng cynhyrchwyr a defnyddwyr. Mae hi'n gweithio tuag at sefydlu model o'r fferm i'r fforc, gan ddarparu cynnyrch lleol o ansawdd uchel yn uniongyrchol i gwsmeriaid.
Drwy’r Academi Amaeth, mae hi’n edrych i fireinio ei model busnes, edrych ar gyfleoedd i arallgyfeirio ac adeiladu rhwydweithiau a fydd yn cynorthwyo gyda thwf hirdymor ei menter.